Gwasanaeth copio
Gallwch ofyn am gopïau o ddogfennau a gedwir gan Wasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg
Gallwch ddarparu copïau o ddogfennau sydd wedi'u sganio'n ddigidol a gedwir gan y gwasanaeth archifau, yn unol â chanllawiau hawlfraint ac ar yr amod na fydd eu copïo'n difrodi'r ddogfen. Gallwch hefyd ddefnyddio eich camera i dynnu lluniau o'r dogfennau at ddibenion ymchwil bersonol wrth ymweld â'r archifau, yn unol â'r un canllawiau.
Cysylltwch â'r gwasanaeth archifau cyn gofyn am gopïau o ddogfennau, fel y gallwn roi gwybod i chi sut maent yn cyd-fynd â'r canllawiau. Gallwch gysylltu â ni drwy e-bost neu dros y ffôn.
Ffioedd
Prisiau sganiau digidol ar hyn o bryd yw £2.75 fesul llun.
Gellir tynnu ffotograffau am ddim yn yr ystafell chwilio at ddibenion personol.
Ceir rhagor o wybodaeth ar ein tudalen we Ffïoedd a Thaliadau.
Talu
Gellir talu am gopïau digidol drwy ffurflen dalu gwasanaeth copïo'r gwasanaeth archifau. Peidiwch â defnyddio'r ffurflen hon os nad ydych eisoes wedi trafod y dogfennau sydd o ddiddordeb i chi â'r gwasanaeth archifau. Caiff y sganiau eu hanfon atoch chi drwy e-bost pan fydd yr archeb wedi'i chyflwyno.
Sylwer, er ein bod yn gwneud ein gorau glas i fodloni ein holl chwilwyr, mai ein prif flaenoriaeth yw diogelu'r dogfennau yn ein gofal. O ganlyniad i hynny, caniateir copïo yn ôl ein disgresiwn, gan ystyried cyflwr y deunydd gwreiddiol.