Toglo gwelededd dewislen symudol

Dysgu Gydol Oes - Polisi ad-dalu

Mae'r Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes yn ymdrechu i sicrhau cydraddoldeb a thegwch i bob dysgwr. Rydym yn mynd ati i hyrwyddo cyfranogiad gan bob aelod o'r gymuned.

Mae ein safonau ansawdd yn nodi isafswm o fyfyrwyr sy'n ofynnol i fynychu i wneud dosbarth yn hyfyw. Os dylai'r niferoedd ostwng yn is na'r lefel hon, rydym yn cadw'r hawl i uno dosbarthiadau â grwpiau eraill, neu os nad yw hynny'n bosibl, i gau'r cwrs.

Wrth gymhwyso ein polisi addaliadau ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno dirymu ei gofrestriad, mae'n ddyletswydd ar y gwasanaeth i ystyried hyfywedd cyrsiau ac ymrwymiadau i fyfyrwyr sy'n rhesymol ddisgwyl i'w cwrs barhau am y cyfnod llawn.

Dim ond ar gais y rhoddir addaliad llawn o ffi y cwrs os bydd:

  • mae cwrs yn cael ei ganslo gan y Gwasanaeth, neu
  • mae'r Gwasanaeth yn newid lleoliad y cwrs, y diwrnod, yr amser neu'r dull cyflwyno
  • mae cais am ad-daliad yn cael ei wneud cyn dyddiad dechrau'r cwrs ac mae'r lle gwag sy'n deillio o hyn yn cael ei lenwi gan rywun ar y rhestr aros ar gyfer y cwrs.

Ni roddir ad-daliadau o dan unrhyw amgylchiadau eraill.

Gwneir yr holl ad-daliadau gan BACS. Mae angen enw cyfrif eich banc, y côd didoli a'r rhif cyfrif ar gyfer y broses hon.

Ymatebir i unrhyw gais am addaliad a gyflwynir cyn pen pedair wythnos ar ôl ei dderbyn.

.

Close Dewis iaith