Celfwaith mewn cyfryngau cymysg [Dydd Mawrth, 2.00pm-4.00pm] - EN042450.RH
Ar y cwrs hwn cewch eich cefnogi i greu casgliad o'ch celfwaith cyfryngau cymysg unigryw eich hun drwy fod yn chwareus ac archwilio technegau cyfryngau cymysg.
Byddwch yn dysgu am agweddau amrywiol ar ddefnyddio cyfryngau cymysg i greu celfwaith gan gynnwys gweithio gyda phaent, collage, pastelau olew, marcwyr a phinnau. Bydd gweithgareddau'n cynnwys creu cefndiroedd a haenau gan ddefnyddio technegau gwahanol ac ychwanegu gwead gan ddefnyddio deunyddiau wedi'u hailgylchu.
Bydd elfennau'r cwrs yn cynnwys:
Creadigrwydd a lles - mae treulio amser ar dasg greadigol yn hyfrydwch ac yn bleser. Mae'n caniatáu i ni stopio a chael hoe o'n bywydau prysur. Mae'n ein tawelu a'n hymlacio ac yn rhoi cyfleoedd i ni ailffocysu; mae creadigrwydd yn diddori'n dychymyg ac yn ein hysgogi. Bydd y dosbarth celf wythnosol hwn yn darparu cyfle i werthfawrogir gwaith cyfryngau cymysg artistiaid sefydledig a chreu eich gwaith eich hun o fewn grŵp cefnogol a chyfeillgar.
Bydd sesiynau'n cynnwys:
- Dysgu yn yr ystafell ddosbarth.
- Pwnc a addysgir gan ddefnyddio dogfennau ac adnoddau printiedig ac ar-lein.
- Bydd eich tiwtor yn gosod heriau.
- Adborth tiwtoriaid a thrafodaethau dosbarth
Fformat dysgu: Wyneb-i-wyneb.
Côd y cwrs: EN042450.RH