Ioga [Dydd Llun 9.00am -10.00am] EN092463.CJ
Hyd - 10 wythnos.
Mae'r cwrs hwn yn addas i bawb, gan gynnwys y rheini sydd erioed wedi cymryd rhan mewn dosbarth ioga o'r blaen. Caiff yr holl ystumiau a symudiadau eu hesbonio a'u harddangos yn y dosbarth. Gellir addasu'r rhan fwyaf o ystumiau ioga i fod yn addas ar gyfer eich anghenion penodol.
Bydd elfennau'r cwrs yn cynnwys:
- Symud a gweithio'r corff o'r corun i'r sawdl, gan dargedu pob cymal a grŵp cyhyr mawr.
- Ymestyn yn araf ac yn rheolaidd, gan ddilyn ystumiau symud a sefydlog, i wella hyblygrwydd.
- Cryfhau'r corff yn yr ystumiau symud a sefydlog.
- Cydbwyso ar ddwy droed ac ar un droed, gan ddefnyddio'r wal i'ch cefnogi yn ôl yr angen.
- Anadlu'n araf ac yn ddwfn drwy gydol y dosbarth.
- Ymlacio'r corff a chymryd rhan mewn sesiwn fyfyrdod ferf ar ddiwedd y rhan fwyaf o ddosbarthiadau er mwyn clirio a thawelu'r meddwl.
Nodwch: os mai hwn yw'r tro cyntaf i chi roi cynnig ar ioga, neu os ydych wedi cael llawdriniaeth neu wedi datblygu cyflwr iechyd ers i chi ymarfer ddiwethaf, efallai yr hoffech wirio gyda'ch meddyg cyn dechrau.
Addysgir y cwrs hwn drwy gyfrwng y Saesneg.
Fformat dysgu: Wyneb i wyneb.
Côd y cwrs: EN092463.CJ