Amrywio Trwydded Mangre: Pecyn gwybodaeth Deddf Trwyddedu 2003
Amrywio Trwydded Mangre: Cyflwyniad
Mae'r pecyn hwn yn cynnwys yr holl wybodaeth y dylech fod ei hangen i wneud cais i amrywio trwydded mangre yn Ninas a Sir Abertawe.
Amrywio Trwydded Mangre: Cynllun o'r safle (os bydd unrhyw addasiadau'n cael eu gwneud i gynllun y safle)
Wrth gyflwyno eich cais, (os ydych chi'n addasu cynllun y fangre) bydd angen i chi hefyd gyflwyno cynllun o'r fangre y mae'n rhaid iddo fod ar raddfa o 1:100. Gall hwn fod yn gynllun wedi'i lunio a llaw neu gyfrifiadur.
RHAID i'r cynllun ddangos
- graddau terfyn yr adeilad, os yw hynny'n berthnasol, a holl waliau mewnol ac allanol yr adeilad a pherimedr y safle, os yw hynny'n wahanol;
- lleoliad mynedfeydd ac allanfeydd y safle;
- lleoliad llwybrau dianc o'r fangre;
- os bydd y safle'n cael ei ddefnyddio ar gyfer mwy nag un gweithgaredd trwyddedadwy, y rhan o'r safle a ddefnyddir ar gyfer pob gweithgaredd;
- lleoliad strwythurau sefydlog (gan gynnwys dodrefn) a allai effeithio ar allu unigolion ar y safle i ddefnyddio allanfeydd neu lwybrau dianc yn ddirwystr;
- os yw'r safle'n cynnwys llwyfan neu fan uchel, lleoliad ac uchder pob llwyfan neu fan o'i gymharu â'r llawr;
- os yw'r safle'n cynnwys unrhyw risiau neu lifftiau, lleoliad y grisiau neu'r lifftiau hynny;
- os yw'r safle'n cynnwys ystafell neu ystafelloedd sy'n cynnwys cyfleusterau cyhoeddus, lleoliad yr ystafell neu'r ystafelloedd hynny;
- y mathau o offer diogelwch rhag tân ac unrhyw offer diogelwch arall a'u lleoliad; a
- lleoliad y gegin ar y safle, os oes un.
Os defnyddir symbolau i nodi eitemau ar gynllun, sicrhewch eu bod yn cael eu disgrifio mewn allwedd briodol.
Amrywio Trwydded Mangre: Cost y drwydded
Mae'r ffi i gyd-fynd â'r cais am drwydded mangre yn seiliedig ar werth ardrethol annomestig y fangre.
| Band | A | B | C | D | E |
|---|---|---|---|---|---|
| Gwerth ardrethol annomestig | Dim - £4,300 | £4,301 - £33,000 | £33,001 - £87,000 | £87,001 - £125,000 | £125,001+ |
| Trwydded mangre newydd | £100 | £190 | £315 | £450 | £635 |
| Ar gyfer safleoedd sy'n dod o dan fandiau D neu E ac sy'n cael eu defnyddio ar gyfer cyflenwi alcohol i'w yfed ar y safle yn bennaf neu'n unig, mae'r ffi canlynol yn berthnasol | x2 £900 | x3 £1905 |
Ar gyfer eiddo sydd yn y broses o gael ei adeiladu - mae Band C yn berthnasol.
Ar gyfer pob eiddo arall (h.y. heb ei raddio eto) - mae Band A yn berthnasol.
Os oes angen eglurhad arnoch ar eich gwerth ardrethol annomestig, gallwch ymweld â gwefan Swyddfa Brisio'r Llywodraeth yn www.voa.gov.uk
Fel arall, gallwch gysylltu ag Is-adran Ardrethi Busnes Dinas a Sir Abertawe ar (01792) 635937.
Ffioedd Blynyddol
Bydd trwyddedau mangre, os byddant yn cael eu caniatáu, hefyd yn destun ffi flynyddol yn seiliedig ar eu gwerth ardrethol. NID OES rhaid talu'r ffi flynyddol hon gyda'ch cais, ond RHAID ei THALU yn flynyddol ar ben-blwydd rhoi'r drwydded. Bydd peidio â thalu eich ffi flynyddol ar y dyddiad sy'n ddyledus yn arwain at gyhoeddi hysbysiad atal. Bydd y drwydded mangre wedyn yn cael ei hatal nes caiff y ffi flynyddol ei thalu.
| Band | A | B | C | D | E |
|---|---|---|---|---|---|
| Gwerth ardrethol annomestig | Dim - £4,300 | £4,301 - £33,000 | £33,001 - £87,000 | £87,001 - £125,000 | £125,001+ |
| Ffi flynyddol | £70 | £180 | £295 | £320 | £350 |
| Ar gyfer safleoedd sy'n dod o dan fandiau D neu E ac sy'n cael eu defnyddio ar gyfer cyflenwi alcohol i'w yfed ar y safle yn bennaf neu'n unig | x2 £640 | x3 £1050 |
Ceir ffioedd ychwanegol ar gyfer trwyddedau mangre a ddefnyddir ar gyfer digwyddiadau mawr iawn (5000+ o bobl).
| Nifer sy'n bresennol ar unrhyw adeg | Ffi ar gyfer trwydded mangre ychwanegol | Ffi flynyddol ychwanegol sy'n daladwy os yw'n berthnasol |
|---|---|---|
| 5,000 i 9,999 | £1,000 | £500 |
| 10,000 i 14,999 | £2,000 | £1000 |
| 15,000 i 19,999 | £4,000 | £2,000 |
| 20,000 i 29,999 | £8,000 | £4,000 |
| 30,000 i 39,999 | £16,000 | £8,000 |
| 40,000 i 49,999 | £24,000 | £12,000 |
| 50,000 i 59,999 | £32,000 | £16,000 |
| 60,000 i 69,999 | £40,000 | £20,000 |
| 70,000 i 79,999 | £48,000 | £24,000 |
| 80,000 i 89,999 | £56,000 | £28,000 |
| 90,000 a throsodd | £64,000 | £32,000 |
I gael rhagor o wybodaeth, cyfeiriwch at Reoliad 4(4) a 4(5) o Reoliadau Deddf Trwyddedu 2003 (ffioedd) 2005.
Pa mor hir y bydd trwydded mangre yn para?
Bydd trwydded mangre fel arfer yn cael ei rhoi am 'oes y busnes', ac felly dim ond un ffi ymgeisio y bydd rhaid ei thalu. Bydd 'ffi flynyddol' hefyd yn berthnasol fel y nodwyd yn flaenorol.
Os oes newid sylweddol yn y busnes, nad oes modd delio ag ef yn rhesymol trwy amrywiad, byddai'n rhaid ymgeisio am drwydded newydd.
Gellir hefyd rhoi trwydded mangre am gyfnod penodol o amser. Byddai hyn yn berthnasol, o bosibl ar gyfer digwyddiad mawr yn yr awyr agored sy'n para nifer penodol o ddyddiau neu hyd yn oed wythnosau.
Efallai y byddai modd cynnwys digwyddiadau tymor byr ar raddfa fach mewn hysbysiadau digwyddiadau dros dro
Amrywio Trwydded Mangre: Awdurdodau cyfrifol
Mae hyn yn rhan hanfodol o'ch cais, a bydd unrhyw gais a wneir heb hysbysiad priodol i'r Awdurdodau eraill hyn yn gwneud y cais yn annilys, a bydd yn cael ei ddychwelyd atoch.
Rydym yn eich cynghori i gysylltu â ni cyn cwblhau ac anfon eich cais i'w drafod gan y bydd o fudd i chi ac yn arbed amser i chi wrth wneud eich cais.
Yna byddwn yn eich cynghori os oes angen i chi siarad ag unrhyw un o'r awdurdodau cyfrifol eraill.
Rhaid cyflwyno copi o'ch cais, gan gynnwys copïau o gynlluniau, ffurflen caniatâd y goruchwyliwr dynodedig mangre (lle bo'n berthnasol) i'r awdurdodau hyn ar yr un diwrnod â'r Awdurdod Trwyddedu ei hun.
Rhaid anfon ceisiadau at bob un o'r Awdurdodau Cyfrifol canlynol
1.Prif Swyddog yr Heddlu
Heddlu De Cymru
d/o yr Adran Drwyddedu
Gorsaf Heddlu Ganolog Abertawe
Grove Place
Abertawe
SA1 5EA
Ffôn: (01792) 562707
2.Awdurdod Tân
Swyddog Trwyddedu
Uned Abertawe
Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru
Ffordd Sway
Treforys
Abertawe
SA6 6JA
Ffôn: 0870 6060699
3.Awdurdod Cynllunio Lleol
Adran Gorfodi
Gwasanaethau Cynllunio
Cyfarwyddiaeth Lleoedd
Canolfan Ddinesig
Ffordd Ystumllwynarth
Abertawe
SA1 3SN
Ffôn: 01792 635692
4. Gorfodi Llygredd ac Iechyd Statudol
Yr Is-adran Rheoli Llygredd
Cyfarwyddiaeth Lleoedd
Neuadd y Dref
Abertawe
SA1 4PE
Ffôn: 01792 635600
5.Amddiffyn Plant
Prif Swyddog Diogelu, Perfformiad ac Ansawdd
Diogelu, Perfformiad ac Ansawdd
Blwch Post 685
Abertawe
SA1 4PE
Ffôn: 01792 636000
6.Safonau Masnach
Yr Is-adran Safonau Masnach
Cyfarwyddiaeth Lleoedd
Neuadd y Dref
Abertawe
SA1 4PE
Ffôn: 01792 635600
7. Iechyd a Diogelwch
Ar gyfer mangre a reolir gan y Cyngor - (os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch pwy sy'n rheoli eich eiddo yna cysylltwch â'r Is-adran Bwyd a Diogelwch isod i gael cadarnhad cyn cyflwyno eich cais)
Yr Is-adran Bwyd a Diogelwch
Cyfarwyddiaeth Lleoedd
Neuadd y Dref
Abertawe
SA1 4PE
Ffôn: 01792 635600
Ar gyfer adeiladau a reolir gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch -
Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
Adeilad y Llywodraeth
Cam 1
Tŷ Glas
Llanisien
Caerdydd
CF14 5SH
Ffôn: 02920 263000
8. Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol/Bwrdd Iechyd Lleol
Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg
Uned Darparu Gwasanaethau Sylfaenol a Chymunedol
Canolfan Y Beacon
2il Llawr
Heol Langdon
Abertawe
SA1 8QU
9. Immigration Enforcement
Alcohol Licensing Team
Lunar House
40 Wellesley Road
Croydon
CR9 2BY
Amrywio Trwydded Mangre: Dyletswydd i hysbysebu'r cais
Wrth wneud cais am drwydded mangre, mae'n ofynnol i'r YMGEISYDD hysbysebu'r cais mewn 2 ffordd.
Ar y dudalen hon
1. Hysbysiad ar y fangre i'w thrwyddedu
Rhaid i'r hysbysiad gael ei arddangos yn amlwg o fewn neu ar y fangre y mae'r cais yn ymwneud â hi, lle gellir ei ddarllen yn gyfleus o'r tu allan i'r fangre, am gyfnod heb fod yn llai na 28 diwrnod yn olynol gan ddechrau ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y cyflwynwyd y cais.
Dylai'r hysbysiad ei hun fod:
- o faint cyfartal ag A4, neu'n fwy nag A4;
- ar bapur glas golau;
- wedi'i argraffu'n ddarllenadwy mewn inc du neu wedi'i deipio mewn du mewn ffont maint 16 neu fwy.
Yn achos mangre sy'n cwmpasu ardal o fwy na hanner can metr sgwâr, rhaid gosod hysbysiad pellach ar yr un ffurf ac yn ddarostyngedig i'r un gofynion bob hanner can metr ar hyd perimedr allanol y fangre sy'n ffinio ag unrhyw briffordd.
2. Hysbysiad mewn papur newydd
Rhaid i chi hefyd hysbysebu trwy gyhoeddi hysbysiad:
- mewn papur newydd lleol neu, os nad oes papur newydd lleol, mewn cylchlythyr lleol, cylchlythyr neu ddogfen debyg, sy'n cylchredeg yng nghyffiniau'r fangre;
- am o leiaf un achlysur yn ystod y cyfnod o ddeg diwrnod gwaith ar ôl cyflwyno'r cais.
Yn y ddau achos, rhaid i'r hysbysiad nodi
- enw'r ymgeisydd/ymgeiswyr;
- cyfeiriad post y fangre, os o gwbl, neu os nad oes gan y fangre gyfeiriad post, disgrifiad o'r fangre honno sy'n ddigonol i alluogi nodi lleoliad a maint y fangre;
- cyfeiriad post a, lle bo'n berthnasol, cyfeiriad ar-lein lle cedwir cofrestr yr awdurdod trwyddedu a ble a phryd y caniateir archwilio cofnod o'r cais;
- y dyddiad erbyn pryd y gall parti â buddiant neu awdurdod cyfrifol gyflwyno sylwadau i'r awdurdod trwyddedu perthnasol; (28 diwrnod ar ôl cyflwyno'r cais.)
- y bydd sylwadau yn cael eu cyflwyno'n ysgrifenedig; a'i
- bod yn drosedd i wneud datganiad ffug, boed hynny'n ymwybodol neu'n ddi-hid, mewn perthynas a chais ac uchafswm y ddirwy y mae person yn atebol amdani ar euogfarn ddiannod o'r drosedd.
Dylai'r ddau hysbysiad hefyd roi disgrifiad cryno o'r cais arfaethedig. Dylid hefyd cynnwys eglurhad cryno o'r cais a ble y gellir ei weld yn Gymraeg ar eich hysbyseb.
Notice of application for a variation of a premises licence template (Word doc, 22 KB)
Amrywio Trwydded Mangre: Cwblhau'r ffurflen gais
Darllenwch y nodiadau hyn cyn i chi gwblhau'r ffurflen gais gan y byddant yn eich helpu gydag unrhyw ymholiadau sydd gennych.
Amserlen Weithredu
Fe welwch eich amserlen weithredu ar adran P o'ch ffurflen gais.
Beth yw amserlen weithredu?
Mae amserlen weithredu yn ddogfen sy'n rhoi disgrifiad clir i'r Awdurdod Trwyddedu o fath a natur y busnes mae'r ymgeisydd yn bwriadu ei weithredu dan y drwydded mangre, gan gynnwys y camau y byddant yn eu cymryd i sicrhau bod yr amcanion trwyddedu yn cael eu hyrwyddo. Dylai gynnwys y canlynol:
- Arddull a chymeriad y busnes: (h.y. - bwyty, Clwb Nos, Bar, Tecawê)
- Gweithgareddau trwyddedadwy perthnasol a'r amseroedd y maent yn cael eu darparu;
- Unrhyw amseroedd eraill y bydd y cyhoedd yn cael mynediad;
- Unrhyw gyfnod cyfyngedig y mae'r drwydded i fodoli ar ei gyfer;
- Manylion y Goruchwyliwr Dynodedig Mangre (lle bydd alcohol yn cael ei werthu);
- P'un a yw alcohol i'w werthu i'w yfed ar y safle, oddi ar y safle, neu'r ddau; a
- Sut y bydd y 4 'amcan trwyddedu' yn cael eu hyrwyddo. Rhoddir eglurhad manylach o'r rhain isod.
Fe welwch fod eich amserlen weithredu'n cynnwys 5 Adran, un ar gyfer pob un o'r 4 Amcan Trwyddedu, ac adran gyffredinol. Fe'ch cynghorir i gwblhau'r pedwar amcan yn y lle cyntaf, ac yna i ddychwelyd i roi'r ffactorau pwysicaf yn eich adran gyffredinol.
Amrywio Trwydded Mangre: Amcanion trwyddedu
Ar y dudalen hon
Amcan trwyddedu - atal troseddu ac anhrefn
Bydd teledu cylch cyfyng yn cael ei ddarparu ar ffurf system y gellir ei recordio, sy'n gallu darparu lluniau o ansawdd tystiolaeth ym mhob cyflwr goleuo, yn enwedig adnabod wynebau. Bydd camerâu yn cwmpasu pob mynedfa ac allanfa i'r safle, allanfeydd tân, pob ardal lle mae gan y cyhoedd fynediad, ac unrhyw ardal yfed allanol. Rhaid cadw offer mewn cyflwr da, rhaid i'r system recordio'n barhaus tra bod y safle ar agor ar gyfer gweithgareddau trwyddedadwy ac yn ystod pob amser pan fydd cwsmeriaid yn aros yn y safle. Rhaid labelu'r recordiadau gyda'r amser a'r dyddiad cywir, eu cadw yn nhrefn y dyddiad, eu rhifo mewn trefn a'u cadw am gyfnod o 31 diwrnod, a'u trosglwyddo i Swyddog yr Heddlu/Swyddog yr Awdurdod Lleol ar gais. Rhaid i Ddeiliad y Drwydded Mangre sicrhau bod Goruchwylydd Dynodedig Mangre (DPS) neu aelod o staff penodedig ar gael bob amser sy'n gallu lawrlwytho lluniau teledu cylch cyfyng mewn fformat y gellir ei recordio naill ai ar ddisg neu VHS a'u rhoi i Swyddog yr Heddlu/Swyddog yr Awdurdod Lleol ar gais. Rhaid cadw'r offer recordio a'r tapiau/disgiau mewn amgylchedd diogel o dan reolaeth y Goruchwylydd Dynodedig Mangre (DPS) neu unigolyn cyfrifol arall a enwir. Rhaid cadw cofnod gweithredol dyddiol gyda llofnod yn nodi bod y system wedi cael ei gwirio a'i bod yn cydymffurfio. Os bydd unrhyw fethiannau, rhaid cofnodi unrhyw gamau a gymerwyd. Os bydd yr offer TCC yn profi methiant technegol, mae'n rhaid i ddeiliad y Drwydded Mangre/Goruchwylydd Dynodedig Mangre adrodd y methiant i'r Heddlu/Awdurdod Lleol.
Bydd deiliad trwydded bersonol ar ddyletswydd ar y safle bob amser pan awdurdodir y safle i werthu alcohol.
Ni ddylid gweini diodydd mewn cynwysyddion gwydr ar unrhyw adeg.
Dim ond cynwysyddion addas nad ydynt yn wydr i'w defnyddio ar ddiwrnodau yr ystyrir eu bod yn ddiwrnodau digwyddiad mawr yn yr ardal. Dylid hysbysu'r goruchwylydd dynodedig mangre yn ysgrifenedig o leiaf 14 diwrnod cyn y digwyddiad, neu gyda chytundeb Pub and Club Watch.
Heblaw am werthiannau alcohol i'w yfed oddi ar y safle mewn cynwysyddion wedi'u selio, ni ddylai cwsmeriaid fynd â gwydr na photeli gwydr allan o'r eiddo.
Dylid cyflogi staff drws pan ddarperir adloniant rheoledig ar gymhareb o ________ goruchwyliwr fesul 100 o gwsmeriaid
Bydd o leiaf ______ goruchwyliwr drws trwyddedig SIA ar ddyletswydd ar y safle drwy'r amser pan fo'r safle ar agor ar gyfer busnes.
Bydd o leiaf ______ goruchwyliwr drws trwyddedig SIA ar ddyletswydd wrth fynedfa'r safle drwy'r amser pan fo'r safle ar agor ar gyfer busnes.
(Noder y dylai nifer y goruchwylwyr drws fod yn ddibynnol ar y math o fusnes yr ydych yn ei redeg, proffil y dorf, a digwyddiadau penodol a gynhelir gennych fel safle.)
Bydd staff drws cofrestredig SIA yn cael eu cyflogi ar adegau pan fydd gofyniad yn cael ei nodi yn asesiad risg ysgrifenedig deiliad y drwydded. Rhoddir ystyriaeth i wyliau cyhoeddus a diwrnodau yr ystyrir eu bod yn ddiwrnodau digwyddiadau mawr yng nghanol y ddinas. Os bydd asesiad risg ysgrifenedig yn nodi bod angen staff goruchwylio drws, bydd y niferoedd canlynol yn cael eu dilyn:
| Nifer yr aelodau o'r cyhoedd sy'n bresennol | Nifer y goruchwylwyr drysau |
|---|---|
| 1-100 | 2 |
| 100-250 | 3 |
| 250-500 | 4 |
| 500-750 | 5 |
| 750-1000 | 6 |
| 1000-1250 | 9 |
| 1250-1500 | 10 |
| 1500-2000 | 12 |
| Mwy na 2,000 | o leiaf 12 ac unrhyw stiwardiaid eraill a allai fod yn ofynnol naill ai gan y Prif Swyddog Tân neu'r cyngor |
Bydd cofrestr o oruchwylwyr drws (cofrestr fanwl wedi'i rhwymo'n rifiadol fel Cofrestr Partneriaeth Abertawe Fwy Diogel neu debyg). Bydd cofrestr o'r fath yn cynnwys enw, rhif cofrestru a manylion cyswllt yr aelod o staff drws, ynghyd â'r dyddiad, ac amser ar ddyletswydd ac oddi ar ddyletswydd. Manylion llawn yr asiantaeth sy'n cyflenwi'r staff i gael ei gymeradwyo, a'r gofrestr i fod ar gael i'w harchwilio ar gais gan Swyddog Awdurdodedig.
Dim mynediad neu ail-fynediad i gwsmeriaid ar ôl ____:____
Bydd pob un sy'n dod i mewn i'r eiddo neu'n dychwelyd i'r eiddo yn cael ei chwilio gan aelod o staff sydd wedi'i hyfforddi gan SIA.
Dylid gosod arwyddion yn amlwg wrth fynedfa'r safle, o fewn y cyfleusterau toiledau ac mewn mannau strategol o fewn ardaloedd mynediad cyhoeddus. Dylid arddangos arwyddion yn nodi bod defnyddio cyffuriau yn annerbyniol a bod y safle'n gweithredu polisi chwilio cyffuriau fel amod mynediad, gan gadw'r hawl i chwilio cwsmeriaid dan y ddarpariaeth hon.
Bydd yr eiddo'n cymryd rhan weithredol mewn mentrau rheolaidd i dargedu camddefnydd cyffuriau, gan gynnwys cydweithrediad llawn gyda gweithrediadau chwilio a monitro cyffuriau Heddlu De Cymru.
Coffr cyffuriau i'w gadw ar y safle.
Bydd rheolwyr/goruchwylwyr mangre yn mynychu a chymryd rhan lawn yng nghynllun Gwarchod Tafarndai a Chlybiau Canol y Ddinas.
Bydd yr eiddo yn cymryd rhan weithredol yn nghynllun cyfathrebu radio Nitenet yng nghanol y ddinas. Dylai'r cyfranogiad hwn gynnwys yn benodol aelod o staff sy'n gyfrifol am fewngofnodi i'r system, monitro, ymateb i ddarllediadau, cyhoeddi darllediadau pan fo digwyddiadau'n codi i rybuddio safleoedd eraill sy'n defnyddio'r system, ac allgofnodi. Bydd y cyfranogiad hwn yn digwydd drwy gydol yr amser lle mae'r eiddo ar agor i gwsmeriaid ac yn masnachu.
Bydd yr eiddo yn cymryd rhan weithredol yng nghynllun gorchymyn gwahardd canol y ddinas.
Bydd yr eiddo yn rhoi o leiaf 7 diwrnod o rybudd ysgrifenedig i Adran Drwyddedu'r Heddlu gan ddarparu cynllun gweithredu am unrhyw newidiadau o ran diodydd neu gynigion diodydd newydd.
Bydd yr holl staff sy'n gweithredu y tu allan i fynedfa'r eiddo, neu'n goruchwylio neu reoli ciwiau, yn gwisgo siacedi neu festiau llachar.
Rhaid i'r ardal giwio ddynodedig gael ei hamgáu o fewn rhwystrau priodol i sicrhau bod y droedffordd yn cael ei chadw'n glir.
Bydd aelod o staff ar ddyletswydd yn yr ystafell gotiau drwy gydol yr amser y mae'n cael ei defnyddio.
Rhaid cadw llyfr cofnodi digwyddiadau, wedi'i rwymo mewn trefn rifiadol, ar y safle sy'n dangos manylion dyddiad ac amser pob ymosodiad, anaf, damwain neu dafliad allan, yn ogystal â manylion yr aelodau staff a fu ynghlwm â'r digwyddiad, natur y digwyddiad, a'r cam gweithredu/canlyniad. Rhaid sicrhau bod y llyfr ar gael i'w archwilio gan yr Heddlu a swyddogion awdurdodedig yr Awdurdod Trwyddedu.
Ni chaniateir yfed diodydd meddal nac alcoholig ar y ffordd y tu allan i'r safle.
Rhoddir cyfnod o 30 munud i orffen yfed ar ben yr amser olaf y caniateir i werthu alcohol, er mwyn galluogi cwsmeriaid i ddefnyddio'r cyfleusterau toiled a gadael yr eiddo.
Heblaw am alcohol a werthir mewn cynwysyddion wedi'u selio i'w hyfed oddi ar y safle, ni chaniateir i unrhyw ddiodydd adael yr ardal drwyddedig fel y dangosir ar y cynlluniau a ddarparwyd.
Ni chaniateir yfed alcohol na lluniaeth arall ar ôl 23:00 awr yn yr ardal yfed awyr agored.
Bydd yr holl wirodydd heb eu cymysgu yn cael eu harddangos y tu ôl i'r cownter a'u cyflenwi dros y cownter yn unig.
Bydd yr holl alcohol yn cael ei arddangos y tu ôl i'r cownter a'i gyflenwi dros y cownter yn unig.
Bydd system teledu cylch cyfyng cynhwysfawr y gellir ei recordio yn cael ei gosod a'i chynnal sy'n cwmpasu'r ardaloedd masnachu ynghyd â phob mynediad ac allanfa. Rhaid i'r system recordio'n barhaus tra bod yr eiddo ar agor ar gyfer gweithgareddau trwyddedadwy ac yn ystod pob amser pan fydd cwsmeriaid yn aros yn y safle. Rhaid i'r system allu darparu lluniau o ansawdd tystiolaethol, yn enwedig o ran adnabod wynebau. Mae'n rhaid storio pob recordiad am gyfnod o 31 diwrnod o leiaf gyda dyddiad ac amser. Rhaid i recordiadau fod ar gael ar unwaith ar gais Heddlu neu Swyddog Awdurdodedig.
Rhaid i aelod o staff y safle sy'n gyfarwydd â defnyddio'r system TCC fod ar y safle bob amser pan fo'r safle ar agor i'r cyhoedd. Bydd yr aelod staff hwn yn gallu dangos lluniau TCC diweddar i'r Heddlu neu'r swyddog awdurdodedig gyda chyn lleied o oedi â phosibl ar gais.
Bydd yr eiddo'n cymryd rhan weithredol mewn cynllun 'Bottle Watch' neu unrhyw gynllun arall tebyg sy'n cael ei weithredu gan Heddlu De Cymru.
Amcan trwyddedu - diogelwch y cyhoedd
Bydd gan y fangre system ddigonol ar gyfer cyfrif pobl i mewn ac allan o'r adeilad wrth ddefnyddio staff goruchwylio drws er mwyn sicrhau nad yw lefel y cwsmeriaid ym mhob ardal yn fwy na'r uchafswm a gymeradwywyd yn asesiad risg y lleoliad.
Ni fydd nifer y personau a ganiateir yn y fangre ar unrhyw adeg (gan gynnwys staff) yn fwy na ____.
Bydd unrhyw effeithiau arbennig neu osodiadau mecanyddol yn cael eu trefnu a'u storio mewn modd sy'n lleihau unrhyw risg i ddiogelwch y rhai sy'n defnyddio'r eiddo. Bydd yr effeithiau arbennig canlynol yn cael eu defnyddio dim ond ar ôl rhoi 10 diwrnod o rybudd ymlaen llaw i'r Awdurdod Trwyddedu lle na roddwyd caniatâd yn flaenorol.
- iâ sych a niwl cryogenig
- peiriannau mwg a generaduron niwl
- pyrotechneg gan gynnwys tân gwyllt
- arfau tanio
- laserau
- ffrwydron a sylweddau fflamadwy.
- fflamau go iawn.
- goleuadau strôb.
Ni chaiff unrhyw un gynnal arddangosfa, arddangosiad neu berfformiad hypnotiaeth neu fesmeriaeth neu unrhyw weithred neu broses debyg sy'n arwain neu'n bwriadu arwain at gyflwyno cwsg ysgogedig neu lesmair lle mae meddwl y person hwnnw'n fwy agored i awgrymiadau neu gyfarwyddyd. NODER: (1) Nid yw'r rheol hon yn berthnasol i arddangosfeydd a roddir o dan ddarpariaethau Adran 2(1A) a 5 o Ddeddf Hypnotiaeth 1952.
Os oes angen, bydd o leiaf un swyddog cymorth cyntaf wedi'i hyfforddi'n briodol ar ddyletswydd pan fydd aelodau'r cyhoedd yn bresennol; ac os oes mwy nag un swyddog cymorth cyntaf wedi'i hyfforddi'n briodol, bydd eu dyletswyddau wedi'u diffinio'n glir.
Amcan trwyddedu - atal niwsans cyhoeddus
Dim ond i berson sy'n eistedd wrth y bwrdd i gael pryd o fwyd y caiff alcohol ei gyflenwi ar y safle, a hynny i'w yfed gan y person hwnnw gyda'r pryd bwyd.
Bydd alcohol yn cael ei gyflenwi gan weinydd neu weinyddes yn unig.
Bydd bwyd sylweddol a diodydd nad ydynt yn feddwol ar gael ym mhob rhan o'r safle lle mae alcohol yn cael ei werthu neu ei gyflenwi i'w yfed ar y safle.
Cyn gallu defnyddio'r fangre, bydd cynllun inswleiddio sain wedi'i ddylunio gan ymgynghorydd acwstig cymwys i gadw sŵn o fewn yr adeilad yn cael ei gyflwyno i'w gymeradwyo gan Is-adran Rheoli Llygredd Adran yr Amgylchedd, Dinas a Sir Abertawe. Ar ôl derbyn cymeradwyaeth ysgrifenedig, caiff y cynllun inswleiddio sain ei osod a'i gynnal a'i gadw'n briodol.
Bydd dyfais cyfyngu ar sain wedi'i lleoli mewn cabinet y gellir ei gloi ar wahân i'r rheolydd sain yn cael ei osod ar unrhyw system chwyddo sain, a'i gosod ar lefel a bennir i fodloni gofynion swyddog awdurdodedig o fewn Is-Adran Rheoli Llygredd gwasanaeth diogelu'r cyhoedd i sicrhau nad oes unrhyw niwsans sŵn yn cael ei achosi i drigolion lleol. Bydd panel gweithredu'r ddyfais cyfyngu sŵn yn cael ei ddiogelu i fodloni gofynion swyddog o Wasanaeth Iechyd yr Amgylchedd. Bydd allwedd y cabinet lle cedwir y ddyfais cyfyngu sŵn yn cael ei chadw gan ddeiliad y drwydded neu reolwr awdurdodedig yn unig, ac ni fydd gan unrhyw berson arall fynediad ati. Ni fydd y ddyfais gyfyngu yn cael ei haddasu heb gytundeb ymlaen llaw gyda Gwasanaeth Diogelu'r Cyhoedd.
Ni ddylid lleoli uchelseinyddion yn y lobi na thu allan i'r adeilad.
Bydd pob ffenestr a drws allanol yn cael eu cadw ar gau ar ôl ____:____, neu ar unrhyw adeg pan fydd adloniant rheoledig yn digwydd, ac eithrio i adael pobl i fynd i mewn ac allan yn uniongyrchol.
Ni fydd mynediad nac ail-fynediad i'r eiddo ar ôl ____.____.
Bydd arwyddion yn cael eu harddangos yn amlwg ger unrhyw allanfa yn gofyn i gwsmeriaid barchu anghenion preswylwyr lleol ac i ddefnyddio'r ardal yn dawel.
Bydd nifer y cwsmeriaid a ganiateir i adael yr eiddo dros dro a dychwelyd yn cael ei gyfyngu i _____ person ar y tro.
Bydd arwyddion yn cael eu harddangos yn amlwg mewn unrhyw ardal a ddefnyddir ar gyfer ysmygu yn gofyn i gwsmeriaid barchu anghenion preswylwyr lleol ac i ddefnyddio'r ardal yn dawel.
Bydd deiliad y drwydded yn sicrhau bod unrhyw res o bobl sy'n ffurfio y tu allan i'r eiddo i gael mynediad yn drefnus ac yn cael ei oruchwylio gan staff drws er mwyn sicrhau nad oes unrhyw niwsans cyhoeddus neu rwystr i'r briffordd gyhoeddus.
Bydd rhif ffôn uniongyrchol ar gyfer rheolwr y safle ar gael i'r cyhoedd drwy gydol yr amser pan fydd y safle ar agor. Dylid sicrhau bod y rhif ffôn hwn ar gael i breswylwyr yn y cyffiniau.
Ni fydd unrhyw alcohol yn cael ei werthu i'w yfed oddi ar y safle.
Bydd unrhyw alcohol sy'n cael ei werthu i'w yfed oddi ar y safle yn cael ei werthu mewn cynwysyddion wedi'u selio yn unig, ac ni fydd yn cael ei yfed ar y safle.
Dim ond cwsmeriaid sy'n eistedd wrth fyrddau fydd yn gallu yfed alcohol y tu allan i'r eiddo.
Ni fydd byrddau a chadeiriau allanol yn cael eu defnyddio gan gwsmeriaid ar ôl ____:____ bob dydd.
Bydd pob bwrdd a chadair yn cael eu symud o'r ardal allanol erbyn ____:____ bob dydd.
Ni chaniateir yfed diodydd meddal nac alcohol mewn unrhyw ardal y tu allan i'r fangre.
Dylai pob cwsmer adael yr ardal yfed allanol erbyn 23:00 o'r gloch.
Bydd yr ardal allanol yn cael ei goruchwylio gan staff y safle pan fydd yn cael ei defnyddio.
Ni fydd unrhyw alcohol yn cael ei yfed y tu allan i'r eiddo heblaw gan gwsmeriaid sy'n eistedd mewn ardal a gwmpesir gan drwydded caffi palmant. Bydd pob ardal o'r fath yn defnyddio cynwysyddion nad ydynt yn wydr yn unig.
Bydd yr ardal yfed allanol, pan gaiff ei defnyddio, yn cael ei goruchwylio'n barhaus gan aelod o staff penodol sy'n gyfrifol am y ddyletswydd hon yn unig.
Y tu allan i'r oriau a awdurdodwyd ar gyfer gwerthu alcohol, bydd yr holl alcohol yn yr ardal fasnachu yn cael ei storio'n ddiogel y tu ôl i griliau/sgriniau wedi'u cloi neu y tu ôl i ddrysau cabinet wedi'u cloi.
Ni fydd unrhyw gwrw, lager na seidr cryf iawn 5.5% ABV (alcohol yn ôl cyfaint) neu uwch yn cael ei werthu ar y safle.
Ni fydd caniau na photeli unigol o gwrw neu seidr yn cael eu gwerthu ar y safle.
Ni fydd modd cyflenwi gwirodydd heb eu cymysgu ar sail hunanwasanaeth.
Rhaid arddangos arwyddion amlwg sy'n nodi'r oriau a ganiateir ar gyfer gwerthu alcohol fel eu bod yn weladwy cyn mynd i mewn i'r eiddo, lle mae alcohol yn cael ei arddangos yn gyhoeddus, ac ar y pwynt gwerthu.
Bydd unrhyw alcohol sy'n cael ei werthu i'w yfed oddi ar y safle yn cael ei gyflenwi gyda phryd bwyd tecawê yn unig.
Ni ddarperir unrhyw adloniant, perfformiad, gwasanaeth, neu arddangosfa sy'n cynnwys noethni neu ysgogiad rhywiol a fyddai'n dod o fewn y diffiniad o sefydliad rhyw yn Atodlen 3 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Plismona a Throseddu 2009).
Ni fydd unrhyw noethni.
Ni fydd unrhyw hysbysebion awdurdodedig o unrhyw fath (gan gynnwys placard, poster, sticer, taflen, llun, llythyr, arwydd neu unrhyw farc arall) yn cael eu harysgrifio na'u gosod ar wyneb y briffordd, nac ar unrhyw adeilad, strwythur, gwaith, celficyn stryd, coeden, nac unrhyw eiddo arall, nac yn cael eu dosbarthu i'r cyhoedd, sy'n hysbysebu neu'n hyrwyddo'r sefydliad, ei eiddo nac unrhyw un o'i ddigwyddiadau, cyfleusterau neu wasanaethau.
Rhaid cyflwyno'r holl wastraff yn briodol a'i roi allan i'w gasglu heb fod yn gynharach na 30 munud cyn yr amseroedd casglu a drefnwyd.
Ni chaniateir i unrhyw sbwriel, gan gynnwys poteli, gael eu symud, eu gwaredu na'u gosod mewn ardaloedd allanol rhwng 23:00 ac 08:00 o'r gloch.
Rhaid i'r palmant o ymyl yr adeilad hyd at ymyl y palmant y tu allan i'r eiddo, gan gynnwys y gwter/sianel ger ymyl y palmant, gael ei ysgubo neu ei olchi, ac mae'n rhaid casglu'r sbwriel a'i storio'n unol â'r trefniadau storio sbwriel cymeradwy.
Bydd mynediad i'r ystafell achlysuron benodedig trwy fynedfa ddynodedig.
Mewn perthynas â'r ystafell achlysuron benodedig, ni fydd mynediad ar ôl ____:____ ac eithrio i (1) breswylwyr y gwesty a'u gwesteion gwirioneddol, neu (2) bobl sy'n mynychu'r digwyddiad a drefnwyd ymlaen llaw.
Bydd pob digwyddiad yn yr ystafell achlysuron benodedig yn ddigwyddiadau a drefnwyd ymlaen llaw neu lle bo angen tocynnau.
Ac eithrio preswylwyr a'u gwesteion gwirioneddol, ni chaniateir i unrhyw alcohol gael ei yfed fwy na 30 munud ar ôl yr amser ganiateir ar gyfer cyflenwi alcohol.
Amcan trwyddedu - amddiffyn plant rhag niwed
Bydd cynllun prawf oedran Her 25 yn cael ei weithredu ar y safle, lle bydd yr unig ffurfiau adnabod derbyniol yn cynnwys llun, dyddiad geni a marc holograffig.
Rhaid cadw cofnod yn manylu ar yr holl werthiannau alcohol a wrthodwyd. Dylai'r cofnod gynnwys dyddiad ac amser y gwerthiant a wrthodwyd ac enw'r aelod o staff a wrthododd y gwerthiant. Bydd y cofnod ar gael i'w archwilio ar y safle gan yr heddlu neu swyddog awdurdodedig y Cyngor drwy gydol yr amser pan fo'r eiddo ar agor.
Rhaid i safleoedd gadw'r cofnodion diweddaraf sydd ar gael ar gyfer adolygu hyfforddiant staff mewn perthynas â gwerthiannau sy'n gysylltiedig ag oedran.
Heblaw am ddigwyddiadau ieuenctid penodol a gytunwyd yn ysgrifenedig gyda Swyddog Trwyddedu'r Heddlu, ni chaniateir unrhyw bobl dan 18 ar y safle.
Dim mynediad i'r safle i bobl dan 18 mlwydd oed.
Bydd hysbysiadau'n cael eu harddangos yn glir ar y safle i bwysleisio i gwsmeriaid bod gwerthu alcohol i bobl dan 18 mlwydd oed wedi'i wahardd.
Amrywio Trwydded Mangre: Nodiadau canllaw
Ni ellir defnyddio'r cais hwn i amrywio'r drwydded er mwyn ymestyn y cyfnod y mae'r drwydded yn effeithiol neu i amrywio'r eiddo y mae'n ymwneud ag ef yn sylweddol.
Os ydych yn dymuno gwneud y math hwn o newid i'r trwydded mangre, dylech wneud cais newydd am drwydded mangre o dan adran 17 o Ddeddf Trwyddedu 2003.
1. Nid oes rhaid i chi dalu ffi os mai unig bwrpas yr amrywiad rydych chi'n gwneud cais amdano yw osgoi dod yn atebol am yr ardoll gyda'r hwyr
2. . Disgrifiwch yr eiddo, er enghraifft y math o eiddo, ei leoliad a'i gynllun cyffredinol, ac unrhyw wybodaeth arall a allai fod yn berthnasol i'r amcanion trwyddedu. Os yw eich cais yn cynnwys cyflenwi alcohol sy'n dod o rywle arall a'ch bod yn bwriadu darparu lle i yfed y cyflenwad hwn, rhaid i chi gynnwys disgrifiad o leoliad y lle hwnnw a'i agosrwydd at yr eiddo.
3. O ran adloniant rheoledig penodol, noder:
- Dramâu: nid oes angen trwydded ar gyfer perfformiadau rhwng 08:00 a 23.00 ar unrhyw ddiwrnod, ar yr amod nad oes mwy na 500 yn y gynulleidfa.
- Ffilmiau: nid oes angen trwydded ar gyfer dangos ffilmiau 'nid er elw' a ddangosir ar eiddo cymunedol rhwng 08:00 a 23:00 ar unrhyw ddiwrnod, ar yr amod nad oes mwy na 500 yn y gynulleidfa a bod y trefnydd yn
- cael caniatâd i ddangos y ffilm gan berson sy'n gyfrifol am yr eiddo; a
- sicrhau bod pob dangosiad yn ufuddhau statws dosbarthiadau oedran.
- Digwyddiadau chwaraeon dan do: nid oes angen trwydded ar gyfer perfformiadau rhwng 08:00 a 23:00 ar unrhyw ddiwrnod, ar yr amod nad oes mwy na 1000 yn y gynulleidfa.
- Adloniant Bocsio neu Reslo: nid oes angen trwydded ar gyfer cystadleuaeth neu arddangosiad, neu arddangosiad o reslo Groegaidd-Rhufeinig, neu reslo yn y dull rhydd rhwng 08:00 a 23:00 ar unrhyw ddiwrnod, ar yr amod nad oes mwy na 1000 yn y gynulleidfa. Mae chwaraeon ymladd cyfun - wedi'i ddiffinio fel cystadleuaeth neu arddangosiad sy'n cyfuno bocsio neu reslo gydag un neu fwy o grefftau ymladd - yn drwyddedadwy fel adloniant bocsio neu reslo yn hytrach na digwyddiad chwaraeon dan do.
- Cerddoriaeth fyw: nid oes angen caniatâd trwydded ar gyfer: perfformiad cerddoriaeth fyw heb amp rhwng 8:00 ac 23:00 ar unrhyw ddiwrnod, mewn unrhyw eiddo.
- perfformiad cerddoriaeth fyw gydag amp rhwng 08.00 a 23.00 ar unrhyw ddiwrnod, ar eiddo sydd wedi'i awdurdodi i werthu alcohol i'w yfed ar yr eiddo hwnnw, os nad oes mwy na 500 yn y gynulleidfa.
- perfformiadau cerddoriaeth fyw gydag amp rhwng 08.00 a 23.00 ar unrhyw ddiwrnod, ar eiddo sydd wedi'i awdurdodi i werthu alcohol i'w yfed ar yr eiddo hwnnw, os nad oes mwy na 500 yn y gynulleidfa.
- perfformiad cerddoriaeth fyw gydag amp rhwng 08.00 a 23.00 ar unrhyw ddiwrnod, mewn neuadd eglwys, neuadd bentref, neuadd gymunedol, neu unrhyw eiddo cymunedol tebyg, nad ydyw wedi'i drwyddedu drwy drwydded eiddo i werthu alcohol, ar yr amod (a) nad oes mwy na 500 yn y gynulleidfa, a (b) bod y trefnydd wedi cael caniatâd ar gyfer y perfformiad gan bwy bynnag sy'n gyfrifol am yr eiddo.
- perfformiad cerddoriaeth fyw gydag amp rhwng 08.00 ac 23.00 ar unrhyw ddiwrnod, ar eiddo dibreswyl (i) awdurdod lleol, neu (ii) ysgol, neu (iii) ysbyty, ar yr amod (a) nad oes mwy na 500 yn y gynulleidfa, a (b) bod y trefnydd yn cael caniatâd ar gyfer y perfformiad ar yr eiddo perthnasol gan: (i) yr awdurdod lleol perthnasol, neu (ii) yr ysgol neu (iii) y darparwr gofal iechyd ar gyfer yr ysbyty.
- Cerddoriaeth wedi'i Recordio: nid oes angen caniatâd trwyddedu ar gyfer:
- chwarae unrhyw gerddoriaeth wedi'i recordio rhwng 08.00 a 23.00 ar unrhyw ddiwrnod, ar eiddo sydd wedi'i awdurdodi i werthu alcohol i'w yfed ar yr eiddo hwnnw, os nad oes mwy na 500 yn y gynulleidfa.
- chwarae unrhyw gerddoriaeth wedi'i recordio rhwng 08.00 a 23.00 ar unrhyw ddiwrnod, mewn neuadd eglwys, neuadd bentref, neuadd gymunedol, neu unrhyw eiddo cymunedol tebyg, nad ydyw wedi'i drwyddedu drwy drwydded eiddo i werthu alcohol, ar yr amod (a) nad oes mwy na 500 yn y gynulleidfa, a (b) bod y trefnydd wedi cael caniatâd ar gyfer y perfformiad gan bwy bynnag sy'n gyfrifol am yr eiddo.
- chwarae unrhyw gerddoriaeth wedi'i recordio rhwng 08.00 ac 23.00 ar unrhyw ddiwrnod, ar eiddo dibreswyl (i) awdurdod lleol, neu (ii) ysgol, neu (iii) ysbyty, ar yr amod (a) nad oes mwy na 500 yn y gynulleidfa, a (b) bod y trefnydd yn cael caniatâd ar gyfer y perfformiad ar yr eiddo perthnasol gan: (i) yr awdurdod lleol perthnasol, neu (ii) perchennog yr ysgol neu (iii) y darparwr gofal iechyd ar gyfer yr ysbyty.
- Dawns: nid oes angen trwydded ar gyfer perfformiadau rhwng 08.00 a 23.00 ar unrhyw ddiwrnod, ar yr amod nad oes mwy na 500 yn y gynulleidfa. Fodd bynnag, mae perfformiad sy'n adloniant i oedolion yn parhau i fod yn drwyddedadwy.
- Eithriadau ar draws gweithgareddau: nid oes angen trwydded rhwng 08.00 ac 23.00 ar unrhyw ddiwrnod, heb unrhyw gyfyngiad ar nifer y gynulleidfa i'r rhain:
- nrhyw adloniant sy'n digwydd ar eiddo'r awdurdod lleol os yw'n adloniant sy'n cael ei ddarparu gan neu ar ran yr awdurdod lleol;
- unrhyw adloniant sy'n digwydd ar eiddo ysbyty'r darparwyr gofal iechyd os yw'n adloniant sy'n cael ei ddarparu gan neu ar ran y darparwyr gofal iechyd;
- unrhyw adloniant sy'n digwydd ar eiddo ysgol os yw'n adloniant sy'n cael ei ddarparu gan neu ar ran perchnogion yr ysgol; ac unrhyw adloniant (ac eithrio ffilmiau ac adloniant bocsio neu reslo) sy'n digwydd mewn syrcas deithiol, ar yr amod ei fod (a) yn digwydd mewn strwythur symudol gyda lle i gynulleidfa, a (b) bod y syrcas deithiol heb ei lleoli yn yr un safle am yn hwy na 28 diwrnod yn olynol
4. Os yw'r gweithgaredd yn digwydd mewn adeilad neu strwythur arall ticiwch lle bo'n briodol (gall 'dan do' gynnwys pabell).
5. Er enghraifft y math o weithgaredd i'w awdurdodi, os na nodwyd eisoes, a rhowch fanylion pellach perthnasol, er enghraifft (ond nid yn gyfyngedig i hynny) a fydd y gerddoriaeth gydag amp ai peidio.
6. Er enghraifft (ond nid yn gyfyngedig i hynny), lle bydd y gweithgaredd yn digwydd ar ddiwrnodau ychwanegol yn ystod misoedd yr haf.
7. Er enghraifft (ond nid yn gyfyngedig i hynny), lle rydych chi'n dymuno i'r gweithgaredd fynd ymlaen am gyfnod hwy ar ddiwrnod penodol e.e. Noswyl Nadolig.
8. Rhowch amseroedd yn ôl y cloc 24 awr (e.e. 16:00) a rhowch fanylion ar gyfer y dyddiau'r wythnos pan rydych yn bwriadu i'r eiddo gael ei ddefnyddio ar gyfer gweithgaredd.
9. Os ydych yn dymuno i aelodau a'u gwesteion allu yfed alcohol ar y safle, ticiwch 'ar y safle'. Os ydych yn dymuno i aelodau a'u gwesteion allu prynu alcohol i'w yfed oddi ar y safle, ticiwch 'oddi ar y safle'. Os ydych eisiau i bobl allu gwneud y ddau, ticiwch 'y ddau'.
10. Rhowch wybodaeth am unrhyw beth y bwriedir iddo ddigwydd ar yr eiddo neu sydd ynghlwm wrth y defnydd o'r eiddo a all achosi pryder mewn perthynas â phlant, os ydych yn bwriadu i blant gael mynediad i'r eiddo ai peidio, er enghraifft (ond nid yn gyfyngedig i hynny) noethni neu hanner noethni, ffilmiau ar gyfer grwpiau oedran cyfyngedig, neu bresenoldeb peiriannau gamblo.
11.Rhestrwch yma y camau y byddwch chi'n eu cymryd i hyrwyddo pob un o'r pedwar amcan trwyddedu ar y cyd.
12.Rhaid llofnodi'r ffurflen gais.
13. Gall asiant yr ymgeisydd (er enghraifft cyfreithiwr) lofnodi'r ffurflen ar ei ran ar yr amod bod ganddo awdurdod gwirioneddol i wneud hynny.
14.Pan fo mwy nag un ymgeisydd, rhaid i bob un o'r ymgeiswyr neu eu priod asiant lofnodi'r ffurflen gais.
15.Dyma'r cyfeiriad y byddwn yn ei ddefnyddio i gysylltu â'r clwb ynglŷn â'r cais hwn.
