Toglo gwelededd dewislen symudol

Amrywio Trwydded Mangre: Esboniad o'r broses ar gyfer gwneud cais i amrywio trwydded mangre

Er mwyn gwneud cais i amrywio trwydded mangre, bydd angen i chi wneud y canlynol.

1. Gwblhau'r ffurflen gais yn llawn. Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y nodiadau canllaw yn llawn cyn cwblhau'r ffurflen.

2. Os yw cynllun y fangre yn cael ei newid mewn unrhyw ffordd, cwblhewch gynllun o'r fangre (canllawiau ar gael yn ​​​​​​Amrywio Trwydded Mangre: Cynllun o'r safle (os bydd unrhyw addasiadau'n cael eu gwneud i gynllun y safle)). Rhaid dychwelyd y cynllun hwn gyda'r ffurflen gais wedi'i chwblhau.

3. Cysylltwch â'r Awdurdodau Cyfrifol cyn anfon eich ffurflen gais. Gellir dod o hyd i restr gyswllt gyflawn ar gyfer yr awdurdodau cyfrifol yma Trwydded mangre: Awdurdodau cyfrifol. Rydym yn eich cynghori i wneud hyn gan y bydd o fudd i chi ac yn arbed amser i chi wrth wneud eich cais.

4. Ar ôl cysylltu â'r Awdurdodau Cyfrifol i drafod eich cais, cyflwynwch y ffurflen gais ynghyd â'r canlynol:

Gallwch gyflwyno'ch cais naill ai drwy'r post i:

Yr Is-adran Drwyddedu
Adran yr Amgylchedd
Dinas a Sir Abertawe
Canolfan Ddinesig
Ffordd Ystumllwynarth
Abertawe
SA1 3SN

Sieciau i'w gwneud yn daladwy i "Dinas a Sir Abertawe"

Neu yn bersonol yng Nghanolfan Gyswllt Dinas a Sir Abertawe

Canolfan Ddinesig
Ffordd Ystumllwynarth
Abertawe
SA1 3SN

Yn y Ganolfan Gyswllt gellir talu naill ai drwy siec, taliad arian parod neu gyda cherdyn debyd/credyd.

5. . Ar yr un diwrnod ag y byddwch yn cyflwyno eich cais i'r Awdurdod Trwyddedu, rhaid i chi hefyd anfon copi o'r holl ddogfennaeth at yr "Awdurdodau Cyfrifol" a restrir yn Amrywio Trwydded Mangre: Awdurdodau cyfrifol.

6. Y diwrnod ar ôl i chi gyflwyno'r cais i'r Awdurdod Trwyddedu mae'n ofynnol i chi hysbysebu'r cais. Rhaid gwneud hyn mewn dwy ffordd:

7. Unwaith y bydd yr Awdurdod Trwyddedu wedi derbyn eich cais wedi'i gwblhau, ynghyd â'r wybodaeth ychwanegol a'r taliad gofynnol, bydd yn dechrau'r cyfnod ymgynghori o 28 diwrnod. Yn ystod y 28 diwrnod hyn gall unrhyw un o'r awdurdodau cyfrifol neu barti â diddordeb wneud sylwadau perthnasol i'r Awdurdod Trwyddedu.

Os na dderbynnir unrhyw sylwadau perthnasol erbyn diwedd y cyfnod ymgynghori, bydd yr Awdurdod Trwyddedu yn ysgrifennu atoch i'ch hysbysu eich bod wedi cael y drwydded. Bydd yr 'Hysbysiad o Benderfyniad' hwn yn cael ei anfon atoch o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl i'r 28 diwrnod fynd heibio. Mae'r hysbysiad hwn yn eich galluogi i weithredu o dan y drwydded mangre wedi'i hamrywio. Byddwch yn derbyn eich trwydded lawn drwy'r post o fewn 6 wythnos arall.

Os derbynnir sylwadau, bydd yn rhaid i'ch cais gael ei gyflwyno gerbron Gwrandawiad Pwyllgor Trwyddedu, a byddwch yn derbyn hysbysiad o wrandawiad drwy'r post. Bydd hyn wedyn yn rhoi dyddiad ac amser eich gwrandawiad i chi (gwahoddir pob parti sy'n gwneud sylwadau i'r gwrandawiad). Bydd gofyn i chi ymateb i'r Hysbysiad o wrandawiad i gadarnhau eich presenoldeb yn y gwrandawiad. Unwaith y byddwch wedi cadarnhau presenoldeb neu gynrychiolydd ar eich rhan, byddwch chi'n derbyn adroddiad y Pwyllgor, gyda'r cais cyflawn, ac unrhyw sylwadau ynghlwm, a bydd angen i chi ddod â'r rhain i'r gwrandawiad.

8. Mae'r Cyngor wedi mabwysiadu polisi arbennig ar effaith gronnus.

Os yw'r fangre y bwriedir ei thrwyddedu o fewn yr ardaloedd a ddiffinnir ar y mapiau, rhaid ystyried y polisi arbennig hwn hefyd.

Effaith y Polisi Arbennig yw bod rhagdybiaeth yn erbyn caniatáu unrhyw gais am drwydded mangre, tystysgrif mangre clwb neu amrywiad mewn perthynas ag eiddo wedi'i leoli yn yr ardal hon sy'n debygol o ychwanegu at yr effaith gronnus bresennol. Dim ond ar gyfer ceisiadau sy'n denu sylwadau perthnasol gan Awdurdod Cyfrifol neu Berson Arall gan gyfeirio at un neu fwy o'r amcanion trwyddedu sy'n arwain at gyflwyno'r Polisi Arbennig mae'r rhagdybiaeth hon yn berthnasol. Os nad oes sylwadau o'r fath, RHAID i'r Awdurdod ganiatáu'r cais gyda thelerau sy'n gyson â'r amserlen weithredu a gyflwynwyd.

Os gwneir sylwadau o'r fath, bydd Is-bwyllgor Trwyddedu'r Awdurdod yn gwrando ar y sylwadau hynny ac yn pennu a ddylai'r rhagdybiaeth yn erbyn caniatáu fod yn berthnasol neu a ddylai'r cais fod yn ddarostyngedig i gyfyngiadau penodol. Bydd cais fel arfer yn cael ei wrthod ONI BAI bod yr ymgeisydd yn gallu dangos yn ei amserlen weithredu na fydd y cais yn ychwanegu at yr effaith gronnus ar un neu fwy o'r amcanion trwyddedu, ac y byddai modd cyfiawnhau'r Awdurdod felly i wyro o'r Polisi Arbennig o ystyried amgylchiadau unigol yr achos.

Mae'r Cyngor wedi seilio mabwysiadu polisi arbennig ar adroddiadau a wnaed i'r Cabinet ar 1 Tachwedd 2012 a'r Cyngor ar 30 Gorffennaf 2013.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 22 Hydref 2025