Toglo gwelededd dewislen symudol

Amrywio Trwydded Mangre Clwb: Nodiadau canllaw

Nodiadau Canllaw

1. Nid oes rhaid i chi dalu ffi os mai unig bwrpas yr amrywiad rydych chi'n gwneud cais amdano yw osgoi dod yn atebol am yr ardoll gyda'r hwyr.

2. Rhowch ddisgrifiad o'r safle, er enghraifft y math o safle, ei sefyllfa a'i osodiad cyffredinol ac unrhyw wybodaeth arall a fyddai'n berthnasol i'r amcanion trwyddedu. Os yw eich cais yn cynnwys cyflenwi alcohol sy'n dod o rywle arall a'ch bod yn bwriadu darparu lle i yfed y cyflenwad hwn, rhowch ddisgrifiad o leoliad y lle hwnnw a'i agosrwydd at yr eiddo.

3. O ran adloniant rheoledig penodol, noder:

  • Dramâu: nid oes angen trwydded ar gyfer perfformiadau rhwng 08.00 a 23.00 ar unrhyw ddiwrnod, ar yr amod nad oes mwy na 500 yn y gynulleidfa.
  • Ffilmiau: nid oes angen trwydded ar gyfer dangos ffilmiau 'nid er elw' a ddangosir ar eiddo cymunedol rhwng 08.00 a 23.00 ar unrhyw ddiwrnod, ar yr amod nad oes mwy na 500 yn y gynulleidfa a bod y trefnydd yn (a) cael caniatâd i ddangos y ffilm gan berson sy'n gyfrifol am yr eiddo; a (b) sicrhau bod pob dangosiad yn ufuddhau statws dosbarthiadau oedran.
  • Digwyddiadau chwaraeon dan do: nid oes angen trwydded ar gyfer perfformiadau rhwng 08.00 a 23.00 ar unrhyw ddiwrnod, ar yr amod nad oes mwy na 1000 yn y gynulleidfa.
  • Adloniant Bocsio neu Reslo: nid oes angen trwydded ar gyfer cystadleuaeth neu arddangosiad, neu arddangosiad o reslo Groegaidd-Rhufeinig, neu reslo yn y dull rhydd rhwng 08.00 a 23.00 ar unrhyw ddiwrnod, ar yr amod nad oes mwy na 1000 yn y gynulleidfa. Mae chwaraeon ymladd cyfun - wedi'i ddiffinio fel cystadleuaeth neu arddangosiad sy'n cyfuno bocsio neu reslo gydag un neu fwy o grefftau ymladd - yn drwyddedadwy fel adloniant bocsio neu reslo yn hytrach na digwyddiad chwaraeon dan do.
  • Cerddoriaeth fyw: nid oes angen caniatâd trwyddedu ar gyfer:
    • perfformiad cerddoriaeth fyw heb amp rhwng 8:00 ac 23.00 ar unrhyw ddiwrnod, mewn unrhyw eiddo.
    • perfformiad cerddoriaeth fyw gydag amp rhwng 08.00 a 23.00 ar unrhyw ddiwrnod, ar eiddo sydd wedi'i awdurdodi i werthu alcohol i'w yfed ar yr eiddo hwnnw, os nad oes mwy na 500 yn y gynulleidfa.
    • perfformiadau cerddoriaeth fyw gydag amp rhwng 08.00 a 23.00 ar unrhyw ddiwrnod, ar eiddo sydd wedi'i awdurdodi i werthu alcohol i'w yfed ar yr eiddo hwnnw, os nad oes mwy na 500 yn y gynulleidfa.
    • perfformiad cerddoriaeth fyw gydag amp rhwng 08.00 a 23.00 ar unrhyw ddiwrnod, mewn neuadd eglwys, neuadd bentref, neuadd gymunedol, neu unrhyw eiddo cymunedol tebyg, nad ydyw wedi'i drwyddedu drwy drwydded eiddo i werthu alcohol, ar yr amod (a) nad oes mwy na 500 yn y gynulleidfa, a (b) bod y trefnydd wedi cael caniatâd ar gyfer y perfformiad gan bwy bynnag sy'n gyfrifol am yr eiddo.
    • perfformiad cerddoriaeth fyw gydag amp rhwng 08.00 ac 23.00 ar unrhyw ddiwrnod, ar eiddo dibreswyl (i) awdurdod lleol, neu (ii) ysgol, neu (iii) ysbyty, ar yr amod (a) nad oes mwy na 500 yn y gynulleidfa, a (b) bod y trefnydd yn cael caniatâd ar gyfer y perfformiad ar yr eiddo perthnasol gan: (i) yr awdurdod lleol perthnasol, neu (ii) yr ysgol neu (iii) y darparwr gofal iechyd ar gyfer yr ysbyty.
  • Cerddoriaeth wedi'i Recordio: nid oes angen caniatâd trwydded i chwarae unrhyw gerddoriaeth wedi'i recordio rhwng 08.00 a 23.00 ar unrhyw ddiwrnod, ar eiddo sydd wedi'i awdurdodi i werthu alcohol i'w yfed ar yr eiddo hwnnw, os nad oes mwy na 500 yn y gynulleidfa.
    • chwarae unrhyw gerddoriaeth wedi'i recordio rhwng 08.00 a 23.00 ar unrhyw ddiwrnod, mewn neuadd eglwys, neuadd bentref, neuadd gymunedol, neu unrhyw eiddo cymunedol tebyg, nad ydyw wedi'i drwyddedu drwy drwydded eiddo i werthu alcohol, ar yr amod (a) nad oes mwy na 500 yn y gynulleidfa, a (b) bod y trefnydd wedi cael caniatâd ar gyfer y perfformiad gan bwy bynnag sy'n gyfrifol am yr eiddo.
    • chwarae unrhyw gerddoriaeth wedi'i recordio rhwng 08.00 ac 23.00 ar unrhyw ddiwrnod, ar eiddo dibreswyl (i) awdurdod lleol, neu (ii) ysgol, neu (iii) ysbyty, ar yr amod (a) nad oes mwy na 500 yn y gynulleidfa, a (b) bod y trefnydd yn cael caniatâd ar gyfer y perfformiad ar yr eiddo perthnasol gan: (i) yr awdurdod lleol perthnasol, neu (ii) perchennog yr ysgol neu (iii) y darparwr gofal iechyd ar gyfer yr ysbyty.
  • Dawns: nid oes angen trwydded ar gyfer perfformiadau rhwng 08.00 a 23.00 ar unrhyw ddiwrnod, ar yr amod nad oes mwy na 500 yn y gynulleidfa. Fodd bynnag, mae perfformiad sy'n adloniant i oedolion yn parhau i fod yn drwyddedadwy.
  • Eithriadau ar draws gweithgareddau: nid oes angen trwydded rhwng 08.00 ac 23.00 ar unrhyw ddiwrnod, heb unrhyw gyfyngiad ar nifer y gynulleidfa i'r rhain
    • unrhyw adloniant sy'n digwydd ar eiddo'r awdurdod lleol os yw'n adloniant sy'n cael ei ddarparu gan neu ar ran yr awdurdod lleol;
    • unrhyw adloniant sy'n digwydd ar eiddo ysbyty'r darparwyr gofal iechyd os yw'n adloniant sy'n cael ei ddarparu gan neu ar ran y darparwyr gofal iechyd;
    • unrhyw adloniant sy'n digwydd ar eiddo ysgol os yw'n adloniant sy'n cael ei ddarparu gan neu ar ran perchnogion yr ysgol; ac unrhyw adloniant (ac eithrio ffilmiau ac adloniant bocsio neu reslo) sy'n digwydd mewn syrcas deithiol, ar yr amod ei fod (a) yn digwydd mewn strwythur symudol gyda lle i gynulleidfa, a (b) bod y syrcas deithiol heb ei lleoli yn yr un safle am fwy na 28 diwrnod yn olynol.

4. Os yw'r gweithgaredd yn digwydd mewn adeilad neu strwythur arall ticiwch lle bo'n briodol (gall 'dan do' gynnwys pabell).

5. Nodwch y math o weithgaredd i'w awdurdodi, os na nodwyd eisoes, a rhowch fanylion pellach perthnasol, er enghraifft (ond nid yn gyfyngedig i hynny) a fydd y gerddoriaeth gydag amp ai peidio.

6. Er enghraifft (ond nid yn gyfyngedig i hynny), lle bydd y gweithgaredd yn digwydd am awr ychwanegol yn ystod misoedd yr haf.

7. Er enghraifft (ond nid yn gyfyngedig i hynny), lle rydych chi'n dymuno i'r gweithgaredd fynd ymlaen am gyfnod hwy ar ddiwrnod penodol e.e. Noswyl Nadolig.

8. Nodwch amseroedd ar ffurf cloc 24 awr (e.e.16.00).

9. Os yw'r clwb yn dymuno i aelodau a'u gwesteion allu yfed alcohol ar y safle, ticiwch 'ar y safle'. Os yw'r clwb yn dymuno i aelodau a'u gwesteion allu prynu alcohol i'w yfed oddi ar y safle, ticiwch 'oddi ar y safle'. Os yw'r clwb eisiau i bobl allu gwneud y ddau, ticiwch 'y ddau'.

10. Rhowch wybodaeth am unrhyw beth a fydd yn digwydd ar yr eiddo neu sydd ynghlwm wrth y defnydd o'r eiddo a all achosi pryder mewn perthynas â phlant, er enghraifft (ond nid yn gyfyngedig i hynny) noethni neu hanner noethni, ffilmiau ar gyfer grwpiau oedran cyfyngedig, peiriannau gamblo ac ati.

11. Rhestrwch yma y camau y byddwch chi'n eu cymryd i hyrwyddo pob un o'r pedwar amcan trwyddedu ar y cyd.

12.Rhaid i'r ffurflen gais gael ei llofnodi gan rywun sydd â'r awdurdod i ymrwymo'r clwb.

13.Dyma'r cyfeiriad y byddwn yn ei ddefnyddio i gysylltu â'r clwb ynglŷn â'r cais hwn.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 24 Hydref 2025