Toglo gwelededd dewislen symudol

Paentio dyfrlliw i ddysgwyr canolradd ac uwch EN092561TBC

Dydd Gwener 7 Tachwedd 2025
Argaeledd sydd ar ôl: 2
Cadw lle mewn digwyddiad
Amser dechrau 11:30
13:30
Pris £20.00
Kiosk Pavilion, Victoria Park

Ehangwch eich sgiliau paentio dyfrlliw. Crëwch gelfweithiau mwy trawiadol fyth gan ddefnyddio sgiliau trawsnewidiol ychwanegol trwy gyfrwng cymysg. Paentiwch dirweddau, morluniau, adlewyrchiadau a chysgodion trwy gyfrwng gwych dyfrlliwiau. Ehangwch y sgiliau sydd gennych eisoes.

Dysgwch sut i ddefnyddio technegau mwy cymhleth, gan gynnwys paentio paent gwlyb ar baent gwlyb, cymysgu lliwiau, gwerth tonyddol a chyfansoddiad. Trawsnewidiwch ymddangosiad eich paentiad dyfrlliw gan ddefnyddio acrylig cyfrwng cymysg, inc, pastel a gouache.

Drwy sesiynau mewn ystafell ddosbarth, byddwch yn dysgu'r sgiliau sydd eu hangen i greu celfweithiau mwy cymhleth a hardd. Byddwch yn gweld enghreifftiau o'r dulliau a'r technegau y byddwch yn eu defnyddio i'ch helpu i greu eich celfyddyd dyfrlliw gorau hyd yn hyn.

Bydd elfennau'r cwrs yn cynnwys:

  • Hyfforddiant mewn ystafell ddosbarth.
  • Enhreifftiau ac anoddau wedi'u printio.
  • Aseiniadau dosbarth.
  • Adborth a chefnogaeth benodol gan diwtor.

Fformat dysgu: wyneb i wyneb

Côd y cwrs: EN092561TBC

Amserau eraill ar Dydd Gwener 7 Tachwedd

Dim enghreifftiau o hyn
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu