Toglo gwelededd dewislen symudol

Tacsis

Mae angen trwydded ar bob gyrrwr a cherbyd hacni a hurio preifat sy'n gweithredu yn Abertawe.

Llenwch wiriad treth ar gyfer trwydded tacsi neu hurio preifat Llenwch wiriad treth ar gyfer trwydded tacsi neu hurio preifat

Mae angen trwydded ar unrhyw gerbyd i'w hurio â gyrrwr ac sy'n cael ei ddefnyddio i gludo teithwyr am ffi neu wobrau.

Os hoffech drwydded am gerbyd ar gyfer cludiant ysgol, teithio i'r maes awyr neu hurio'n unig, bydd angen i chi gysylltu â ni. Gallwch ffonio (01792) 635600 neu fynd i'r Ganolfan Ddinesig. Argymhellwn eich bod yn gwneud apwyntiad cyn ymweld.

I gael mwy o wybodaeth am drwyddedu tacsis, ffoniwch yr Adran Drwyddedu ar (01792) 635600 neu e-bostiwch trwyddedutacsis@abertawe.gov.uk

Newyddion ar gyfer y Fasnach Dacsi

Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf gan yr is-adran Trwyddedu Tacsis.

Hyfforddiant diogelu ar gyfer gyrwyr cerbydau hacni a hurio preifat a cynorthwywyr teithwyr (Yn agor ffenestr newydd)

Mae Llywodraeth Cymru a'r Adran Drafnidiaeth wedi cyhoeddi arweiniad i awdurdodau lleol ddiweddaru amodau a safonau Trwyddedu Tacsis. Esbonnir y newidiadau yma a byddant yn cael eu diweddaru o bryd i'w gilydd. Defnyddiwch y dolenni isod i weld y newidiadau pan fydd gwybodaeth ar gael.

 

DfT Statutory Taxi and Private Hire Vehicle Standards (Yn agor ffenestr newydd)

DfT Statutory Taxi and Private Hire Vehicle Standards (Yn agor ffenestr newydd)

DfT Statutory Taxi and Private Hire Vehicle Standards (Yn agor ffenestr newydd)

 

Cerbydau - cerbyd hacni

Mae cerbydau hacni'n ddu gyda phlât trwydded gwyn ar y cefn. Hefyd ceir cylchigau (sticeri) melyn ar ddau ddrws blaen y cerbyd.

Cerbydau - hurio preifat

Mae cerbydau hurio preifat yn wyn gyda phlât trwydded melyn ar y cefn. Hefyd ceir trionglau gwyrdd (sticeri) ar ddau ddrws blaen y cerbyd.

Apwyntiadau profi cerbydau Hacni a hurio preifat

Rhestrir dyddiadau profion ar gyfer cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat yma.

Gweithredwyr - hurio preifat

Mae'r rhan fwyaf o'r gweithredwyr yn Abertawe'n defnyddio cerbydau hurio preifat er bod rhai'n defnyddio cerbydau hacni.

Gyrwyr - cerbydau hacni a hurio preifat

Rhaid i bob gyrrwr cerbyd hacni a hurio preifat gael ei drwyddedu gennym ni. Rhaid iddynt wisgo bathodyn adnabod ffotograffig bob amser wrth iddynt weithio.

Arweiniad i fod yn yrrwr tacsi

Os ydych am ddod yn yrrwr tacsi yn Abertawe, edrychwch ar ein canllaw i gael gwybod beth sydd angen i chi ei wneud.

Cysylltu â Thrwyddedu Tacsis

Enw
Cysylltu â Thrwyddedu Tacsis
Rhif ffôn
01792 635600

Deddf Cydraddoldeb 2010 gwybodaeth i yrwyr tacsis

Fel gyrrwr tacsi dylech ddarparu gwasanaeth i bob cwsmer, gan gynnwys y rheini â chadair olwyn, problemau symudedd neu'r rheini y gall fod angen help arnynt. Dylech helpu unrhyw deithwyr y mae angen help arnynt ac ni allwch wrthod eu gyrru na chodi ffi uwch arnynt.

Ffïoedd ar gyfer trwyddedu tacsis

Gwybodaeth am y ffïoedd trwyddedu gwahanol, gan ddibynnu ar y math o dacsi/weithrediad.

Cyngor ar ddiogelwch tacsis

Yn gyffredinol, mae tacsis a cherbydau hurio preifat yn ffordd ddiogel o deithio. Mae'n bwysig sicrhau eich bod yn dewis cerbyd trwyddedig a chymryd rhagofalon synhwyrol.

Lleoliadau safleoedd tacsis yn Abertawe

Lleolir safleoedd tacsi yng Nghanol y Ddinas, Treforys a'r Mwmbwls, gyda nifer yn gweithredu am 24 awr.

Cwestiynau cyffredin am drwyddedu tacsis

Dewch o hyd i atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin rydym yn eu derbyn am drwyddedu tacsis.
  • Blaenorol tudalen
  • 1
  • 2
  • o 2
  • Nesaf tudalen
Close Dewis iaith