Toglo gwelededd dewislen symudol

Lletya anifeiliaid

Os ydych am agor sefydliad lletya anifeiliaid, gan gynnwys gwasanaeth gofal dydd ar gyfer cathod neu gŵn, bydd angen trwydded arnoch. Bydd angen trwydded arnoch i gynnal busnes lletya anifeiliaid neu warchod cŵn o'ch cartref eich hun hefyd.

Cyn i ni gyflwyno'r drwydded, bydd swyddog o'r cyngor yn archwilio'r adeilad. Fe'ch cynghorir hefyd i gysylltu Gynllunio i gael cyngor ynghylch unrhyw ganiatâd cynllunio y mae'n bosib y bydd ei angen.

Yn wahanol i lety cŵn a chyfleusterau gofal dydd mawr i gŵn, mae lletya cartref a gwasanaeth gwarchod cŵn yn golygu y bydd y ci yn byw yn y cartref fel anifail anwes y teulu. Nid oes angen i chi fod yn drwyddedig am eich bod yn gofalu am gi rhywun fel ffafr bob hyn a hyn. Sylwer na ellir trwyddedu cartrefi ar gyfer lletya neu warchod cŵn os oes plant dan 5 oed yn byw yno.

Ni fyddwch yn derbyn trwydded os ydych wedi cael eich gwahardd rhag cadw siop anifeiliaid anwes, neu os ydych wedi cael eich euogfarnu o unrhyw dramgwyddau lles anifeiliaid eraill.

In partnership with EUGO logo
Sut mae gwneud cais

Cyflwyno cais am drwydded i gadw sefydliad lletya anifeiliaid Cyflwyno cais am drwydded i gadw sefydliad lletya anifeiliaid

Cyflwyno cais am drwydded i agor llety i anifeiliaid yn eich cartref Cyflwyno cais am drwydded i agor llety i anifeiliaid yn eich cartref

Rhaid cwblhau'r ffurflen gais yn llawn. Bydd angen i chi dalu'r ffi cyflwyno cais pan fyddwch yn cyflwyno'ch ffurflen. Bydd ffi i dalu am ymweliad y milfeddyg ar ôl i chi wneud hyn.

Ffïoedd

Ffioedd am drwyddedau anifeiliaid Ffioedd am drwyddedau anifeiliaid

Rhaid i chi gyflwyno'ch ffi gyda'r cais.  Bydd gofyn i chi dalu ffi bellach ar gyfer ymweliad y milfeddyg yn dilyn yr ymweliad hwnnw.

Os byddwch yn gwneud cais drwy'r post, dylech wneud sieciau'n daladwy i 'Dinas a Sir Abertawe' a'i anfon ynghyd â'r ffurflen.

 

Tacit consent

It is in the public interest that we must process your application before it can be granted. If you have not heard from us within a reasonable period, please contact Licensing.

 

Os oes gennych unrhyw broblem gyda'ch cais, neu os hoffech fwy o wybodaeth, ffoniwch ni ar 01792 635600 neu e-bostiwch trwyddedu.iya@abertawe.gov.uk. Gall unrhyw ymgeisydd y gwrthodir trwydded iddo neu sydd am apelio yn erbyn amod sy'n gysylltiedig â'i drwydded apelio gerbron Llys yr Ynadon leol.

Cyflwyno cais am drwydded i gadw sefydliad lletya anifeiliaid

Defnyddiwch ein ffurflen ar-lein i wneud cais am drwydded i gadw sefydliad lletya anifeiliaid.

Cyflwyno cais am drwydded i agor llety i anifeiliaid yn eich cartref

Defnyddiwch ein ffurflen ar-lein i wneud cais am drwydded i agor gwasanaeth lletya/gofalu am gŵn yn eich cartref.

Nodiadau Arweiniol ar gyflwyno cais i gadw sefydliad lletya anifeiliaid

Cyngor i berchnogion a darpar-berchnogion sefydliadau lletya anifeiliaid

Cofrestr sefydliadau sydd wedi'u trwyddedu i letya anifeiliaid a lletya gartref

Mae'r mangreoedd canlynol wedi'u cofrestru fel sefydliadau lletya anifeiliaid neu letya gartref.
Close Dewis iaith