Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella'r profiad i ddefnyddwyr. Gallwch ddilyn y ddolen a ddarperir yma i deilwra'ch profiad, neu dderbyn pob un a pharhau ar y dudalen hon.
Trwy gydol yr Ail Ryfel Byd, targedodd bomwyr Luftwaffe drefi yn Ne Cymru. Abertawe a ddioddefodd fwyaf a chafodd bron 400 o bobl eu lladd rhwng 1940 a 1943, y mwyafrif ohonynt yn ystod y Blitz Tair Noson, 19-21 Chwefror 1941, a ddinistriodd canol y dref yn llwyr. Dyma ein cofeb i feirwon sifil y rhyfel Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.
Nid oes lluniau ffilm yn dangos y Blits Tair Noson, felly o luniau sydd dan ofal y Gwasanaeth Archifau, a dyddiadur Blits James R. John, newyddiadurwr ac aelod y Gwarchodlu Cartref, ydyn ni wedi creu'r ddwy ffilm yma i ddweud stori y tair noson ddychrynllyd yna, 19-21 Chwefror 1941.
Mae gorchestion y gwirfoddolwyr Cymreig a gymerodd ran yn Rhyfel Cartref Sbaen yn adnabyddus. Ond wyddoch chi bod Abertawe wedi rhoi lloches i 80 o blant o Wlad y Basg? Mae'r cyflwyniad hwn yn adrodd eu hanes.
Dyma'n rhestr anrhydedd ar-lein i goffáu canmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae'n cynnwys enwau'r holl bobl a restrir ar y cofebau rhyfel niferus a'r rholiau anrhydedd sydd gennym yn yr Archifau, gyda fersiynau digidol o'r cofebion eu hunain.
Unwaith yn yr haf, tua 1910, tynnodd ffotograffydd gyfres o luniau o Abertawe, yn ei dangos ar ei gorau rhai blynyddoedd cyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Dyma rhai ohonyn nhw.
Arddangosfa wedi'i dylunio i ddathlu penblwydd 75 o adeiladu Neuadd y Ddinas Abertawe ym 2009, sydd hefyd yn dweud hanes y neuaddau ddinesig eraill sy wedi bod yn bencadlys i Gorfforaeth Abertawe dros y blynyddoedd.
Wedi'i chreu i ddathlu canmlwyddiant yr Arddangosfa Bythynnod De Cymru yn 2010, mae'r arddangosfa hon am Fudiad y Gardd-ddinasoedd ac adeiladu Townhill a Mayhill.
Pe bai taith y ffagl Olympaidd yn dod trwy Abertawe ym 1908, sut oedd y llwybr pryd hynny? Mae ein ffilm, a enillodd wobr, yn dangos sut fyddai'r daith.
Wedi'i ail-adeiladu ar ôl y Blits ym 1941, ail-agorwyd Farchnad Abertawe tua 50 o flynyddoedd yn ôl. Mae'r arddangosfa hon yn dangos sut mae marchnadoedd yn Abertwae wedi datblygu dros y blynyddoedd.