Toglo gwelededd dewislen symudol

Yr Uned Cefnogi Tenantiaid

Mae'r Uned Cefnogi Tenantiaid yn darparu cefnogaeth a chyngor sy'n ymwneud â thai i berchnogion tai, tenantiaid cymdeithasau tai, tenantiaid cyngor a'r rheini sy'n rhentu o'r sector preifat.

Mae'r gwasanaeth am ddim ac ar gael i unrhyw un dros 16 oed sy'n byw yn Ninas a Sir Abertawe.

Gallwn helpu gyda

Darperir cefnogaeth ar gyfer amrywiaeth eang o faterion megis:

  • cyllidebu a rheoli arian
  • hawlio budd-daliadau lles
  • ôl-ddyledion rhent a throi allan o'r tŷ
  • sefydlu cartref, cymorth ailsefydlu
  • cymryd rhan mewn gwaith, addysg
  • diogelwch cartref
  • ymgysylltu â gwasanaethau iechyd
  • mynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau
  • cam-drin yn y cartref
  • trin gohebiaeth

Sut gallaf gael help?

Gofyn am help gan yr Uned Cefnogi Tenantiaid Gofyn am help gan yr Uned Cefnogi Tenantiaid

Gallwch ein ffonio'n uniongyrchol ar 01792 774360 neu e-bostiwch uct@abertawe.gov.uk.

Unwaith y byddwn yn derbyn eich atgyfeiriad ac wedi asesu'ch amgylchiadau caiff eich enw ei ychwanegu at restr aros am gefnogaeth.

Mae gennym dîm cefnogi mewnol ac mae hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â nifer o wahanol sefydliadau fel:

Gofyn am help gan yr Uned Cefnogi Tenantiaid

Cwblhewch y ffurflen ar-lein a bydd aelod o'r tîm yn cysylltu â chi i wneud cyfeiriad.
Close Dewis iaith