Cynlluniau gweithredu sŵn amgylcheddol a mannau tawel
Mae Llywodraeth Cymru wedi llunio Cynllun Gweithredu ynghylch Sŵn a Seinwedd i Gymru ar gyfer 2018-2023. Mae'r cynllun gweithredu'n disgrifio sut a pham y caiff sŵn amgylcheddol ei reoli ledled Cymru.
Llywodraeth Cymru| Cynllun Gweithredu ynghylch Sŵn i Gymru
Mae'n cynnwys pennod benodol am reoli sŵn yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot sy'n ardaloedd adeiledig. Mae'n cynnwys nodi Mannau Tawel a Mannau â Blaenoriaeth.
Mannau Tawel yw mannau tawel sy'n bwysig i'r gymuned leol. Gellir gweld y Mannau Tawel a nodwyd yn Abertawe drwy ddilyn y ddolen hon Llywodraeth Cymru | Mannau Tawel. Maent yn cynnwys:
• Parc Brynmill
• Parc Coed Gwilym
• Parc Gwledig Clun
• Llwybr Beicio Clun
• Gerddi Clun
• Parc Cwmdoncyn
• Parc Dyfnant
• Llyn y Fendrod
• Parc Llewellyn
• Parc Treforys
• Mynwent Ystumllwynarth
• Parc Ravenhill
• Parc Singleton
• Traeth Abertawe
• Coetir Trefol Abertawe
• Glannau'r Tawe
• Parc Underhill
Mannau â Blaenoriaeth yw clystyrau o eiddo preswyl lle ceir lefelau uchel o sŵn amgylcheddol. Y gobaith yw lleihau lefelau sŵn yn y lleoliadau hyn lle bynnag y bo'n ymarferol. Gellir gweld y Mannau â Blaenoriaeth yn Abertawe drwy ddilyn y ddolen hon Llywodraeth Cymru | Mannau â Blaenoriaeth.