Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwneud cais am fudd-daliadau

Gwybodaeth am sut i wneud cais am Fudd-dal Tai a/neu Ostyngiad Treth y Cyngor os ydych chi ar incwm isel.

Ydw i'n gymwys ar gyfer budd-daliadau?

Gallwch ddefnyddio cyfrifiannell budd-daliadau ar-lein i gyfrifo amcangyfrif ynghylch a ydych chi'n debygol o fod yn gymwys i gael gostyngiad treth y cyngor.

Gallwch wneud cais newydd ar gyfer Budd-dal Tai os yw un o'r canlynol yn berthnasol yn unig:

  • rydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth
  • rydych mewn llety â chymorth, tai lloches neu lety dros dro

Sut rwyf yn cyflwyno cais?

Os ydych chi am wneud cais am Fudd-dal Tai a/neu Ostyngiad Treth y Cyngor, bydd angen i chi lenwi ffurflen gais ar-lein.

Gallwch wneud cais am Fudd-dal Tai a Gostyngiad Treth y Cyngor gan ddefnyddio ein ffurflen budd-daliadau ar-lein Gallwch wneud cais am Fudd-dal Tai a Gostyngiad Treth y Cyngor gan ddefnyddio ein ffurflen budd-daliadau ar-lein

Os ydych wedi cael eich gosod mewn llety gwely a brecwast gan ein tîm Opsiynau Tai gallwch wneud cais dros y ffôn am Fudd-dal Tai ar gyfer y llety hwnnw drwy ffonio eich gweithiwr achos ar 01792 533100

Pa dystiolaeth y mae'n rhaid ei darparu gyda'r ffurflen gais

Fel arfer bydd angen darparu prawf o'r canlynol:

  • Rhifau Yswiriant Gwladol ar eich cyfer chi a'ch partner
  • tystiolaeth o'ch hunaniaeth chi a'ch partner
  • cyfalaf, cynilion a buddsoddiadau
  • enillion
  • unrhyw incwm arall
  • budd-daliadau, lwfansau neu bensiynau
  • eich tenantiaeth/contract ac unrhyw rent rydych chi'n ei dalu (oni bai eich bod yn denant/deiliad contract) os ydych chi'n hawlio Budd-dal Tai

Efallai na fyddwn yn gallu talu'ch budd-dal nes ein bod wedi gweld yr holl dystiolaeth rydym wedi gofyn amdani. Os nad oes modd i chi ddarparu peth o'r dystiolaeth hon, cysylltwch â ni a gallwn siarad am ffyrdd eraill i ni gael y prawf. 

Os na allwch gyflwyno'r ffurflen gais yn syth am unrhyw reswm, gallwch ddweud wrthym eich bod yn bwriadu hawlio o hyd trwy gwblhau'r ffurflen hon.

Anfonwch gopïau electronig o ddogfennau atom fel tystiolaeth er mwyn gwneud hawliad am fudd-dal Anfonwch gopïau electronig o ddogfennau atom fel tystiolaeth er mwyn gwneud hawliad am fudd-dal

Pethau i'w cofio

  • cyflwynwch eich cais cyn gynted â phosib. Bydd dyddiad dechrau eich budd-dal yn dibynnu ar pryd mae'r cyngor yn derbyn eich ffurflen gais
  • darparwch yr holl dystiolaeth ategol yr ydym yn gofyn amdani. Efallai na fyddwn yn gallu talu'ch budd-dal nes i ni weld yr holl dystiolaeth y mae ei hangen arnom
  • os oes angen i chi wneud cais am Fudd-dal Tai A Gostyngiad Treth y Cyngor, mae'r un ffurflen yn cael ei defnyddio ar gyfer y ddau. Dim ond un yn unig y mae angen i chi ei chwblhau
  • ni allwn ddyfarnu Gostyngiad Treth y Cyngor oni bai eich bod chi'n gwneud cais.

Eich preifatrwydd

Cyngor Abertawe yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Defnyddir eich gwybodaeth wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddiben arall. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod gofyn i ni neu y caniateir i ni wneud hynny yn ôl gyfraith. Esbonnir hyn yn fanylach ar ein tudalen 'Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol - Refeniw a Budd-daliadau'.

Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data fel un sy'n angenrheidiol er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Cyngor Abertawe'n defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel gwrthrych y data, darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd corfforaethol.

Close Dewis iaith