
Sefydliadau sy'n darparu cyngor a gwybodaeth ar fudd-daliadau
Mae gwerth biliynau o fudd-daliadau prawf modd heb eu hawlio bob blwyddyn. Gall deall yr hyn y mae hawl gennych ei gael a chyflwyno cais ymddangos yn gymhleth, ond mae sefydliadau sy'n gallu'ch helpu.
I gael trosolwg o'r budd-daliadau amrywiol sydd ar gael, pwy sy'n gallu eu hawlio a sut i wneud cais, gweler wefan Gov.uk - benefitsYn agor mewn ffenest newydd:
Gallwch hefyd ffonio Llinell Ymholiadau Budd-daliadau'r Adran Gwaith a Phensiynau am ddim ar 0800 169 0310
Os ydych yn gwneud cais i hawlio Budd-daliadau i bobl oedran gwaith a hoffech gael help i gwblhau'r ffurflen, yna gallwch ymweld â staff y Ganolfan Gyswllt yn y Ganolfan Ddinesig a all eich helpu.
Os oes gennych weithiwr cymdeithasol neu reolwr gofal, gallant roi cyngor i chi ar y budd-daliadau y dylech fod yn eu hawlio, ac efallai gallant eich helpu i lenwi'r ffurflenni.
Sefydliadau Lleol
Mae sefydliadau lleol sy'n rhoi cyngor ar fudd-daliadau'n cynnwys:
Age Cymru Swansea BayYn agor mewn ffenest newydd
Ffôn: 01792 648866
Swansea Carers CentreYn agor mewn ffenest newydd
Ffôn: 01792 653344
Citizens Advice BureauYn agor mewn ffenest newydd
Ffôn: 0844 477 2020
British Red Cross (Wales)Yn agor mewn ffenest newydd
Ffôn: 01792 772146
Y Gronfa Gymorth Ddewisol yng Nghymru
Mae'r Gronfa Gymorth Ddewisol yng Nghymru wedi disodli rhannau o'r Gronfa Gymdeithasol a arferai gael ei rhedeg gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ac a oedd yn cael eu hadnabod fel 'benthyciadau argyfwng' a 'grantiau gofal cymunedol'. Diben y taliadau yw talu costau untro yn hytrach na threuliau parhaus. Mae rhagor o wybodaeth ar y wefan Money Made Clear CymruYn agor mewn ffenest newydd.