Toglo gwelededd dewislen symudol

Arweiniad ar gwblhau cais ar gyfer masnachu ar y stryd yng nghanol dinas Abertawe

Lluniwyd yr wybodaeth hon i gynorthwyo masnachwyr stryd posib yng nghanol dinas Abertawe i gyflwyno cais am ganiatâd i fasnachu ar y stryd.

Os cyflwynir caniatâd, bydd telerau ar waith a fydd yn nodi'r cynnyrch a/neu'r gwasanaethau a gaiff eu gwerthu ynghyd â'r maint/math a'r golwg a ganiateir ar gyfer y cerbyd/uned a ddefnyddir.  Lluniwyd y telerau hyn i sicrhau bod masnachu ar y stryd yn cael ei gydlynu a'i reoli'n dda i gyd-fynd â'r amrywiaeth eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau a gynhelir bob dydd yng nghanol y ddinas.

Mae'r telerau hefyd yn sicrhau bod pob stondin a ganiateir o'r safon briodol ac yn lân, yn ddeniadol ac yn cael ei chynnal a'i chadw'n dda, a'i bod yn ychwanegu at gynnig canol y ddinas, yn cydweddu â'r strydlun a hefyd yn helpu i gefnogi'r rhaglen adfywio sy'n flaenoriaeth allweddol i'r cyngor. Yn hyn o beth, nid yw faniau hufen iâ a byrgers yn ddymunol.

Gellir rhoi caniatâd am o leiaf 3 mis a hyd at 12 mis. Rhennir y ffïoedd cyfredol ar gyfer masnachu ar y stryd yn 2 haen sy'n dibynnu ar leoliad y lleiniau masnachu a nifer yr ymwelwyr cysylltiedig. 

Ar ôl derbyn cais, mae Tîm Rheoli Canol y Ddinas yn cadw'r hawl i geisio barn adrannau mewnol, asiantaethau allanol a rhanddeiliaid amrywiol. Mae cyfnod ymgynghori 28 niwrnod wedi'i gynnwys yn y broses i ganiatáu ar gyfer ymgynghori â'r grwpiau canlynol: 

  • Heddlu De Cymru
  • Bwyd a Diogelwch Cyngor Abertawe
  • Is-adran Priffyrdd Cyngor Abertawe
  • Safonau Masnach Cyngor Abertawe
  • Is-adran Cynllunio Cyngor Abertawe
  • Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
  • Rhanbarth Gwella Busnes (BID)
  • Ward y Castell a Chynghorwyr allweddol eraill.

Fel arfer mae'r broses benderfynu'n para am 6 wythnos o'r dyddiad cyflwyno cais i Dîm Rheolaeth Canol y Ddinas. Mae hyn yn dibynnu ar yr ymgeisydd yn cwblhau'r gwaith papur angenrheidiol ac yn ymateb i unrhyw geisiadau am wybodaeth bellach yn gyflym.

Ffioedd masnachu ar y stryd yng nghanol y ddinas Ffioedd masnachu ar y stryd yng nghanol y ddinas

Rhaid i'r person sy'n gwneud cais am ganiatâd fodloni'r canlynol:

  • bod yn 17 oed neu'n hŷn i wneud cais neu ddal caniatâd
  • cwblhau'r ffurflen gais ar gyfer parth mewnol canol y ddinas yn llawn
  • darparu tystiolaeth o Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus cyfredol gyda lleiafswm yswiriant o £5 miliwn.
  • talu'r ffi sy'n ofynnol
  • wedi bod yn destun gwiriad Cyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu (PNC) dim mwy na mis yn ôl
  • chwarae rhan bwysig yn y busnes
  • meddu ar ddealltwriaeth glir o iechyd a diogelwch o ran y modd y mae'n ymwneud â'r busnes Sylwer y bydd gofyn i chi gwblhau asesiad risg diogelwch tân cyn y gallwch ddechrau masnachu.

Ceisiadau i adnewyddu

Rhaid amgáu dau ffotograff lliw dull pasbort diweddar o'r ymgeisydd gyda cheisiadau i adnewyddu ynghyd â ffotograff lliw diweddar (wedi'i dynnu o fewn y mis diwethaf) o'r cerbyd/uned a ddefnyddir.

Anfonir ceisiadau i adnewyddu at fasnachwyr 60 o ddiwrnodau cyn bod y caniatâd cyfredol yn dod i ben.Mae hyn yn caniatáu 30 niwrnod i gwblhau'r cais a gwneud cais am PNC newydd, yna 30 niwrnod am y broses ymgynghori a chyflwyno dogfennau caniatâd newydd.

Arweiniad ar gyfer cwblhau cais ar gyfer canol y ddinas

Lluniwyd yr arweiniad canlynol i gynorthwyo ymgeiswyr i gwblhau'r ffurflen gais am ganiatâd masnachu ar y stryd. 

Rhan A - Manylion personol

Rhowch yr wybodaeth ganlynol:

  • enw llawn a chyfeiriad preswyl - mae'n rhaid i'r ymgeisydd fod yn byw yn yr eiddo ar hyn o bryd
  • os oes mwy nag un person yn rhan o'r busnes, dim ond manylion y prif ymgeisydd y dylid eu darparu
  • enw masnachu cofrestredig y busnes (neu enw arfaethedig os yw'n fusnes newydd) a manylion am faint o amser mae'r busnes wedi bod yn masnachu
  • prif rif ffôn symudol a chyfeiriad e-bost yr ymgeisydd
  • rhaid bod ymgeiswyr yn 17 oed neu'n hŷn, felly mae angen darparu'r dyddiad geni
  • manylion am faint o amser mae'r ymgeisydd wedi bod yn masnachu, os mai dyma'r achos
  • os oes gan yr ymgeisydd gyfeiriad busnes, dylid darparu manylion cyswllt
  • darparwch ddau ffotograff dull pasbort diweddar o wyneb llawn yr ymgeisydd (y ddau â llofnod a dyddiad ar y cefn).

Rhan B - Manylion masnachu

  • nodwch y safle a ffefrir y gwneir cais amdano yn unol â'r wybodaeth a geir yn nhabl ffioedd masnachu ar y stryd cyfredol, y lluniau o safleoedd a'r map y safleoedd masnachu ar y stryd yng nghanol y ddinas. Os gwneir cais am fwy nag un safle, nodwch eich dewisiadau yn ôl trefn ffafriaeth
  • mae'r safleoedd ar gael rhwng dydd Llun a dydd Sadwrn o 07:00 tan 19:00 oni chytunir yn wahanol â Thîm Rheoli Canol y Ddinas. Gellir trefnu masnachu ad hoc y tu allan i'r oriau hyn ar gyfer digwyddiadau arbennig ar gais. Mae cyfyngiadau cenedlaethol yn berthnasol i fasnachu ar y Sul, gwyliau banc, Dydd Nadolig a Sul y Pasg.
  • mae angen gwybodaeth am ba gynnyrch a/neu wasanaethau sy'n cael eu cynnig.  Gan y bydd hyn yn agwedd allweddol ar y broses benderfynu, dylai'r ymgeisydd ddarparu cymaint o wybodaeth â phosib (ar ddalen ar wahân os bydd angen) yn ogystal â lluniau o'r cynnyrch a gynigir.
  • gofynnir i'r ymgeisydd gadarnhau a yw'n fasnachwr stryd cofrestredig gyda chyngor arall.  Os ydyw, mae angen nodi cyfeiriad llawn y cyngor, person cyswllt a rhif cyswllt fel y gellir gwneud yr holl wiriadau angenrheidiol.

Rhan C - Manylion y Cerbyd a'r Stondin Fasnachu

  • rhaid symud pob uned bob dydd.
  • mae hyd, lled ac uchder yr uned fasnachu'r ofynnol. Mae hyn i gadarnhau nad yw'r stondin yn fwy na'r lle/safle sydd ar gael, sef 3.5m x 2.5m. Rhaid i fasnachwyr gyfyngu eu stoc a'r hyn maent yn ei arddangos o fewn ardal y safle. Efallai y bydd y lle o gwmpas y stondin ar gael i'w ddefnyddio, e.e. ar gyfer seddi, a gofynnir am y manylion hyn yn Rhan D y ffurflen gais.
  • bydd dyluniad a golwg y stondin/uned yn hanfodol o ran sut y bernir y cais. Mae'r cyngor yn awyddus i godi safonau masnachu ar y stryd yng nghanol y ddinas ac felly bydd angen ymateb cynhwysfawr.  Dylid darparu o leiaf ddau ffotograff lliw neu ddarluniau dyluniadol da o'r cerbyd/uned yr ydych yn bwriadu ei (d)defnyddio ar gyfer masnachu. Dylai'r rhain ddangos y tu blaen a'r ochr. Mae angen i ddyluniad a lliwiau'r uned fasnachu gydymffurfio â chanllawiau Tîm Rheoli Canol y Ddinas a nodir ar dudalen 8 dan Dyluniad unedau masnachu ar y stryd.
  • mae yr un mor bwysig deall sut caiff y stondin ei chynnal a'i chadw i sicrhau ei bod yn parhau i fod yn ddeniadol. Disgwylir y darperir manylion glanhau, cynnal a chadw ac amserlenni gwasanaethu os ydynt yn hysbys.
  • os oes trydydd parti'n berchen ar y stondin/uned, rhowch ei enw/ei gyfeiriad a'i fanylion cyswllt.
  • hefyd mae angen manylion a chofrestriad y cerbyd y bwriedir ei ddefnyddio i dynnu'r uned/stondin masnachu ar y stryd i'w lle.
  • nid oes pŵer ar gael yn unrhyw un o'r safleoedd masnachu ar y stryd yng nghanol y ddinas. Mae hyn yn golygu y bydd rhaid i'r masnachwr wneud trefniadau os oes angen pŵer arno. Derbynnir defnydd o eneraduron diesel tawel iawn neu rai nwy addasedig ar yr amod yr ardystiwyd eu bod yn ddiogel a'u bod wedi'u cynnal a'u cadw'n dda.

Rhan Ch - Gwybodaeth Ychwanegol a Chymeriad

  • nod yr adran hon yw helpu i asesu a all yr ymgeisydd reoli safle masnachu ar y stryd yn broffesiynol yng nghanol y ddinas a bodloni amodau a thelerau'r caniatâd.
  • os yw'r ymgeisydd yn fasnachwr stryd yn Abertawe ar hyn o bryd, rhowch fanylion am leoliad eich safle a pha mor hir rydych wedi bod yn masnachu.
  • mae gwybodaeth am hanes masnachu ar y stryd yr ymgeisydd yn ofynnol i weld a yw caniatâd wedi cael ei wrthod neu ei ddiddymu iddo yn y gorffennol, gan ba awdurdod lleol a'r dyddiad bras y digwyddodd hyn.
  • mae angen manylion y gweithwyr a fydd yn gweithio ar y stondin fel y gellir gwirio hunaniaeth ac er mwyn darparu bathodynnau adnabod cyn dechrau masnachu os yw'r cais yn llwyddiannus.  Mae'n rhaid i hyn gynnwys 2 ffotograff dull pasbort gyda chadarnhad o'r enw a'r cyfeiriad.  Lle mae staffio a recriwtio yn amodol ar roi caniatâd, dylid nodi hyn ar y ffurflen gais a dylid darparu unrhyw wybodaeth o'r fath cyn dechrau masnachu.  Mae'n rhaid hysbysu Tîm Rheoli Canol y Ddinas am unrhyw newidiadau i fanylion gweithwyr ar ôl hynny.
  • mae'n arfer safonol y cyngor i ofyn am fanylion banc lle gwneir cais am ymrwymiad ariannol. Felly, gofynnir am gadarnhad bod gan yr ymgeisydd gyfrif banc gweithredol sydd wedi bod ar waith ers cryn amser.
  • ni fydd y cyngor yn caniatáu masnachu oni bai fod gan ddeiliad y caniatâd bolisi yswiriant cyfredol yn erbyn atebolrwydd cyhoeddus a risgiau trydydd parti. Isafswm yr yswiriant atebolrwydd cyhoeddus fydd £5,000,000 ac mae'n rhaid bod hyn yn ddigonol i dalu am eich stondin/uned ac unrhyw gyfarpar ychwanegol arall sydd dan eich rheolaeth.  Mae angen copi o'ch tystysgrif yswiriant atebolrwydd cyhoeddus gyfredol.  Ni ellir dechrau masnachu nes y cyflwynir y polisi i'r cyngor ac y cadarnheir yr yswiriant.
  • yr ymgeisydd sy'n gyfrifol am yswiriant atebolrwydd gweithiwr, yn ogystal ag yswiriant am osodiadau a stoc.
  • mae angen bod gwiriad Cyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu (PCN) wedi cael ei gynnal yn ddiweddar fel rhan safonol o'r broses gwneud cais.  Bydd hyn yn rhoi gwybodaeth i'r cyngor bod yr ymgeisydd masnachu ar y stryd o gymeriad addas i reoli'r busnes.  Mae'n rhaid gwneud cais am wiriadau PNC mewn da bryd (mae'n cymryd hyd at 40 niwrnod i gael y rhain gan Disclosure Scotland) i'w cyflwyno cyn rhoi caniatâd.  Er bod posibilrwydd na fydd euogfarnau na rhybuddion yn atal caniatâd, gall natur a dyddiad y rhai a ddarganfyddir effeithio ar addasrwydd yr ymgeisydd.

Rhan D - Masnachwyr bwyd

  • er mwyn gwerthu bwyd, mae'n rhaid eich bod wedi'ch cofrestru'n swyddogol i wneud hynny.  Nodwch y dyddiad pan gawsoch eich cofrestru a manylion yr awdurdod rydych wedi'ch cofrestru ganddo
  • os nad ydych wedi'ch cofrestru hyd yn hyn, mae angen cynnwys manylion pryd a sut caiff hyn ei drefnu
  • os ydych chi'n paratoi bwyd o'r safle, mae'n rhaid i chi gynnwys yr holl wybodaeth hylendid bwyd ychwanegol y gofynnir amdani yn Rhan D eich cais ar daflen ar wahân yn unol â'r penawdau a ddarperir.

Rhan Dd - Achos Busnes

  • neilltuir yr adran hon i'r ymgeisydd nodi ei resymau i gefnogi pam mae'n credu y dylid rhoi safle masnachu ar y stryd iddo yng nghanol y ddinas.
  • mae'r cyngor yn awyddus i gefnogi busnesau newydd a rhai presennol.
  • rhoddir ffafriaeth i'r rhai sy'n cynnig gwerthu nwyddau neu gynnig gwasanaethau sy'n unigryw mewn rhyw ffordd neu sy'n brin yng nghanol y ddinas ar hyn o bryd. Rhoddir styriaeth hefyd i'r mathau o siopau a busnesau parhaol yng nghyffiniau'r safle y gwneir cais amdano er mwyn osgoi dyblygu'r cynnig presennol.
  • caiff cynlluniau i farchnata a hyrwyddo'r stondin eu hystyried yn gadarnhaol hefyd yn ogystal â thystiolaeth o hanes yr ymgeisydd wrth wneud penderfyniadau busnes llwyddiannus.

Rhan E - Talu blaendal a ffïoedd

  • dylid cynnwys siec neu arian parod am ffi'r caniatâd wrth gyflwyno'r cais. Derbynnir taliadau â cherdyn yn y Ganolfan Gyswllt yn y Ganolfan Ddinesig hefyd. Darperir derbynebau a dylid eu cadw'n ddiogel. Mae'n rhaid gwneud sieciau'n daladwy i Cyngor Abertawe
  • gellir talu'r ffi naill ai'n llawn am y cyfnod cyfan y gwneir cais amdano neu roi blaendal am y mis llawn cyntaf o fasnachu - gweler tabl ffioedd masnachu ar y stryd cyfredol am y ffïoedd a'r taliadau presennol
  • caiff taliadau â cherdyn/sieciau eu bancio pan gyflwynir y cais.  Nid yw hyn yn golygu bod y cais wedi'i gymeradwyo ac os caiff y cais ei wrthod ar ôl hynny, rhoddir ad-daliad llawn. Yn dilyn cymeradwyaeth, bydd unrhyw ffïoedd/flaendaliadau a dalwyd yn flaenorol yn mynd tuag at dalu'r ffïoedd cychwynnol
  • bydd angen i unrhyw daliadau siec glirio cyn i fasnachu ddechrau.  Os caiff sieciau eu dychwelyd, gellir codi taliadau amdanynt a gall hyn hefyd effeithio ar statws eich cais/caniatâd
  • yn amodol ar roi caniatâd, bydd angen talu'r ffi (oni bai fod hon wedi cael ei thalu eisoes) ar gyfer y cyfnod y gwneir cais amdano naill ai'n llawn neu cyn dechrau masnachu neu gellir rhannu'r ffi'n daliadau debyd uniongyrchol misol. Nodwch ar y ffurflen gais y dull o'ch dewis a chwblhewch y Mandad Debyd Uniongyrchol yn  mandad Debyd Uniongyrchol (Word doc) [41KB] os oes angen yr opsiwn hwn arnoch.

Rhan F - Datganiad

  • mae'r ymgeisydd yn llofnodi i ddweud ei fod wedi darparu atebion gwir a'i fod yn cytuno i gadw at reolau a rheoliadau'r Caniatâd Masnachu ar y Stryd os caiff ei gais ei gymeradwyo
  • ewch ymlaen i dicio'r rhestr wirio i gadarnhau eich bod yn cyflwyno'r wybodaeth ychwanegol angenrheidiol fel rhan o'ch cais
  • caiff tystysgrif caniatâd ei rhoi pan fo'r cais wedi cael ei gymeradwyo, mae'r ffi wedi clirio ac mae Tîm Rheoli Canol y Ddinas, ynghyd â Safonau Masnach, yn fodlon bod holl ofynion y broses ymgeisio wedi cael eu cyflawni
  • bydd bathodynnau adnabod hefyd yn cael eu paratoi a'u darparu cyn cychwyn masnachu a dylai masnachwyr/staff eu gwisgo ar bob adeg pan fyddant ar y safle
  • ni chaniateir unrhyw fasnachu nes rhoddir caniatâd ysgrifenedig. Mae'n rhaid i bob masnachwr arddangos tystysgrif caniatâd gyfredol bob amser ac mae'n rhaid i hon fod yn hawdd i'r cyhoedd ei gweld.

Gwybodaeth ychwanegol ac amodau a thelerau

Gwybodaeth gyffredinol

  • mae'r cyngor wedi cytuno i gyfyngu ar nifer y masnachwyr bwyd a ganiateir i weithredu fel rhan o'r cynllun caniatâd.  Diben hyn yw sicrhau bod y cynllun yn parhau i ganiatáu gwerthu amrywiaeth o nwyddau yn ardal y caniatâd
  • wrth roi caniatâd, gall y cyngor ychwanegu unrhyw amodau ato fel sy'n rhesymol angenrheidiol yn ei ystyriaeth ef er mwyn atal rhwystro'r stryd, achosi perygl i bobl sy'n ei defnyddio neu niwed i fusnesau gerllaw. Gall methu â chydymffurfio arwain at erlyniad a/neu ddiddymu'r caniatâd
  • gellir rhoi caniatâd am unrhyw gyfnod o 3 mis hyd at 12 mis, ond gellir ei ddiddymu ar unrhyw adeg
  • os bydd y cyngor yn gwrthod cais, bydd yr ymgeisydd yn cael ei hysbysu'n ysgrifenedig am y rhesymau dros beidio â rhoi caniatâd am y cais.  Mae penderfyniad y cyngor yn derfynol.  Nid yw'r Polisi Masnachu ar y Stryd yn caniatáu apelio yn erbyn penderfyniad y cyngor ynglŷn â rhoi Caniatâd Masnachu ar y Stryd.  Bydd y cyngor yn ymdrin â chwynion yn unol â'i Weithdrefn Gwyno Gorfforaethol.

Fasnachwyr bwyd

  • mae'n rhaid bod busnes bwyd yr ymgeisydd wedi'i gofrestru o dan ddeddfwriaeth diogelwch bwyd a chydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol
  • os gwaherddir yr ymgeisydd rhag rhedeg busnes bwyd, ni chaiff ei gais ei ystyried
  • mae gofynion penodol sy'n ymwneud â pharatoi a gwerthu bwyd y mae'n rhaid cydymffurfio â hwy
  • ceir y gofyniad cyfreithiol i gofrestru yn Erthygl 6(2) Rheoliad (CE) Rhif 852/2004 ar hylendid nwyddau bwyd
  • mae'n rhaid i chi gofrestru'ch busnes bwyd gyda'r awdurdod lleol lle caiff y cerbyd ei storio dros nos pan nad yw'n cael ei ddefnyddio
  • bydd rhaid i'r ymgeisydd a'i staff fod wedi cyflawni hyfforddiant hylendid bwyd sylfaenol a bydd rhaid i'r tystysgrifau fod ar gael i'w harchwilio ar unrhyw adeg
  • er mwyn osgoi gwasgaru arogleuon coginio i fangreoedd cyfagos, bydd gofyn i'r gwerthwyr hynny sy'n coginio ar y safle osod system echdynnu ynghyd â chysgod rhag y gwynt
  • am fwy o gyngor a gwybodaeth am y gofynion a'r broses sy'n ymwneud â pharatoi a gwerthu bwyd a'r safonau masnach perthnasol, ffoniwch y Tîm Bwyd a Diogelwch a Safonau Masnach ar 01792 635600.

Dyrannu safleoedd

Os caiff mwy nag un cais ei dderbyn ar gyfer yr un safle, bydd y meini prawf canlynol yn berthnasol:

  • gellir rhoi blaenoriaeth i ymgeisydd am safle penodol lle gall yr ymgeisydd ddangos ei fod wedi masnachu o'r un lleoliad am y cyfnod hwyaf o amser
  • gellir rhoi blaenoriaeth am safle penodol i'r ymgeisydd sydd wedi dangos bod ei uned masnachu stryd yn cydweddu orau â strydlun canol y ddinas a/neu ei fod yn gwerthu rhywbeth unigryw neu wahanol
  • gall y cyngor gyfyngu ar werthu nwyddau gan fasnachwyr stryd i fathau nad ydynt yn cystadlu'n uniongyrchol â siopau, mannau gwerthu neu fasnachwyr stryd eraill yn yr ardal gyfagos
  • gellir darparu lleiniau tymhorol ychwanegol ar gyfer mathau penodol o nwyddau yn ôl disgresiwn Tîm Rheoli Canol y Ddinas.

Safle masnachu ar y stryd

  • cedwir y caniatâd cynllunio ar gyfer pob safle gan y cyngor drwy Dîm Rheoli Canol y Ddinas
  • rhaid i Dîm Rheoli Canol y Ddinas gymeradwyo maint a dyluniad y stondin
  • bydd maint pob safle yn 3.5 metr wrth 2.5 metr. Ni all cerbydau/unedau fod yn fwy na hyn dan unrhyw amgylchiadau. Mae'n rhaid i gynfasau, gasebos neu unrhyw ychwanegiadau at y cerbyd/uned barhau i fod o fewn terfyn y safle ac wedi'u caniatáu fel rhan o'r broses ymgeisio wreiddiol
  • gallai defnydd o seddi y tu allan i ffin y safle dynodedig gael ei ystyried yn unol â chynllun Trwyddedu Caffis Stryd y cyngor sy'n destun meini prawf ar wahân. Gall Tîm Rheoli Canol y Ddinas hwyluso'r broses hon.

Dyluniad unedau masnachu ar y stryd

  • dylai'r deunyddiau a'r lliwiau a ddefnyddir gydweddu â'r ardal a'r strydlun lle ceir y safle masnachu ar y stryd
  • ni chaiff unrhyw liwiau fflwroleuol neu wyn plaen eu derbyn.  Lliwiau tywyll sy'n cael eu ffafrio ar gyfer lliw sylfaenol unedau e.e. gwyrdd tywyll, glas tywyll neu liw gwin
  • caiff arwyddion a brandiau eu dylunio a'u gosod yn broffesiynol ac mae'n rhaid iddynt fod yn ddeniadol
  • dylid dylunio cerbydau fel nad ydynt yn rhy fawr neu'n rhy swmpus
  • dylid gorchuddio bariau tynnu, generaduron ac elfennau allanol eraill
  • cyn masnachu am y tro cyntaf, bydd swyddog awdurdodedig o'r cyngor yn archwilio'r cerbyd/uned i sicrhau ei fod yn bodloni amodau'r cais a gyflwynwyd
  • os bydd deiliad y caniatâd yn bwriadu newid ei gerbyd neu ei ddull o werthu, dylid cyflwyno'r manylion ymlaen llaw i Dîm Rheoli Canol y Ddinas a fydd yn archwilio'r cerbyd neu'r stondin newydd arfaethedig ac yn cynghori'r masnachwr ar addasrwydd
  • cynhelir gwiriadau rheolaidd/dyddiol ar y safle gan Geidwaid Canol y Ddinas i sicrhau ei fod yn cydymffurfio ag amodau'r cais a gymeradwywyd ac i sicrhau diogelwch y cyhoedd
  • rhoddir Caniatâd Masnachu ar y Stryd ar gyfer yr uned fasnachu yn unig ac nid yw'n cynnwys eitemau ychwanegol megis byrddau 'A' neu gelfi caffi stryd.  Mewn rhai achosion, efallai y bydd hi'n bosib cyflwyno cais am drwyddedau ychwanegol ar gyfer yr eitemau hyn a dylid cyfeirio ceisiadau i Dîm Rheoli Canol y Ddinas
  • nid yw'r ffi masnachu ar y stryd yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth ar gyfer glanhau.  Cyfrifoldeb y masnachwr stryd yw cadw'r safle a'r ardal o'i gwmpas yn lân ac yn daclus yn ystod yr oriau masnachu a chael gwared ar yr holl sbwriel ar ddiwedd pob diwrnod masnachu. Os oes tystiolaeth nad yw'r ardal yn cael ei chadw'n daclus, bydd camau disgyblu/ariannol yn cael eu cymryd yn erbyn yr ymgeisydd. Ni ddylid defnyddio biniau sbwriel cyhoeddus ar gyfer gwastraff masnachu ac mae'n rhaid trefnu cael gwared ar wastraff masnachol gyda darparwr priodol
  • nid oes pŵer ar gael ar y safle. Gellir caniatáu generaduron diesel bach tawel iawn neu eneraduron LGV addasedigtrwy gytundeb neu fel arall derbynnir systemau â batri. Bydd ardystiad diogelwch a gwaith cynnal a chadw yn allweddol ar gyfer defnyddio'r cyfarpar hwn ynghyd â mesurau i atal mynediad gan y cyhoedd.  Bydd rhaid i'r masnachwr dalu i ymdrin ag unrhyw ollyngiadau neu ddifrod a achosir o ganlyniad i'r cyfarpar hwn
  • rhaid i fasnachwyr bwyd gymryd camau i leihau arogleuon coginio lle bynnag y bo modd. Mae defnyddio echdynwyr uwchben a chysgodion rhag y gwynt yn ofyniad safonol pan fydd masnachwr yn coginio ar y safle
  • nid yw faniau hufen iâ a byrgers yn addas i'w defnyddio yng nghanol y ddinas; caiff ceisiadau am gerbydau o'r fath eu gwrthod yn syth.

Gweithredwyr

  • rhoddir blaenoriaeth i'r holl werthwyr presennol nes caiff eu caniatâd presennol ei ildio, ei ddiddymu neu ei ddileu am fethu talu ffïoedd
  • ni chaniateir i gerbydau modur sy'n gwasanaethu safleoedd gael mynediad i ardaloedd cerddwyr yng nghanol y ddinas ar adegau cyfyngedig
  • bydd gweithredwr y safle'n gyfrifol am osod, dadosod a storio'r uned masnachu stryd dros no.

Ffïoedd caniatâd

  • mae'r ffi ar gyfer pob safle'n cynnwys ffi'r caniatâd a ffi rhentu'r safle
  • rhaid talu'r ffïoedd ymlaen llaw.  Gellir naill ai talu'r rhain yn llawn ar ddechrau'r cyfnod masnachu neu'n fisol trwy  ddebyd uniongyrchol (Word doc) [41KB]
  • mae'n rhaid cyflwyno ceisiadau gyda'r ffi ymgeisio (mewn arian parod neu drwy siec) naill ai'n llawn am y cyfnod y gwneir cais amdano neu ar gyfer y mis cyntaf o fasnachu.  Amlinellir manylion y rhain yn y tabl ffïoedd a thaliadau

Methu gwneud taliadau

Os bydd deiliad y caniatâd yn methu talu unrhyw arian sy'n ddyledus i'r cyngor o fewn y cyfnod a nodir yn y ddogfennaeth, bydd gan y cyngor yr hawl i ddiddymu neu gwtogi cyfnod y caniatâd ar unwaith ac erlyn deiliad y caniatâd am y symiau dyledus trwy ddulliau cyfreithiol.

Cyfnod masnachu

  • mae'r caniatâd masnachu stryd ar gyfer pob wythnos o'r flwyddyn galendr a disgwylir i'r masnachwr weithredu bob wythnos dros gyfnod y caniatâd.  Os bydd y masnachwr yn absennol am fwy na phythefnos heb roi rhybudd o hyn, caiff ei ymrwymiad i fasnachu ei herio a gellir diddymu'r caniatâd
  • caiff gwyliau banc eu trin yn yr un ffordd ag unrhyw ddiwrnod arall. Ni ddisgwylir, serch hynny, fasnachu ar Ddydd Nadolig na Sul y Pasg ac ni roddir ad-daliad am y dyddiau hyn.

Rhoi rhybudd

  • mae'n rhaid i fasnachwyr gwblhau eu cyfnod caniatâd 3 mis o leiaf ac wedi hynny gall masnachwyr roi naill ai mis o rybudd ildio yn ysgrifenedig i'r cyngor neu barhau â gweddill eu cyfnod masnachu
  • os bydd masnachwr arall yn gallu meddiannu'r safle yn ystod y cyfnod rhybudd o fis - ar y sail bod caniatâd priodol ar waith - yna gellir gwneud trefniadau i ildio'r safle'n gynnar.

Iechyd a diogelwch

  • mae pob masnachwr yn gyfrifol am gynnal ei ymwybyddiaeth o'r holl ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch gyfredol sy'n berthnasol i'w fasnach, gan gynnwys meini prawf ar gyfer mynediad i'r anabl, a chydymffurfio â hi
  • mae'n rhaid i fasnachwyr bwyd sy'n defnyddio silindrau nwy ar gyfer coginio fod yn ofalus wrth ddefnyddio a chynnal a chadw eu cyfarpar ac ystyried diogelwch y cyhoedd bob amser
  • fel a nodir yn asesiad risg diogelwch tân mae'n rhaid i ddeiliad y stondin gwblhau Asesiad Risg Diogelwch Tân cyn dechrau masnachu.
  • mae'n rhaid i eneraduron, lle cânt eu caniatáu, gael eu cynnal a'u cadw'n dda, defnyddio diesel neu fod wedi'u trawsnewid i LGV a bod yn dawel iawn.
  • rhaid symud pob cerbyd, e.e. cerbydau tynnu a dosbarthu, bob dydd cyn 10:30 ac ni ddylent ddychwelyd tan ar ôl 16:00.
  • lle mae angen defnyddio cerbydau i gael mynediad i safleoedd - er enghraifft yn ystod gwaith gosod a dad-osod - bydd rhaid defnyddio goleuadau rhybudd a pheidio â gyrru'n gyflymach na 5mya.
  • yn ystod tywydd eithafol o wael pan na fyddai'n gall teithio neu fasnachu, mae'n rhaid cael cytundeb Tîm Rheoli Canol y Ddinas ar fore'r dydd dan sylw bod 'Diwrnod Tywydd Gwael' wedi cael ei ddatgan ac ni chodir ffïoedd ar fasnachwyr am y diwrnod hwnnw.  Mae penderfyniad Tîm Rheoli Canol y Ddinas yn derfynol.

Gwybodaeth ychwanegol

  • mewn perthynas â Marchnad y Nadolig neu ddigwyddiadau eraill a drefnir, gan gynnwys marchnadoedd eraill a gorymdeithiau, efallai yr effeithir ar rai o'r safleoedd.  Caiff y fath safleoedd eu cynnwys yn y digwyddiad neu caiff lleoliad amgen ei gynnig dros gyfnod y digwyddiad
  • gall y gwerthwr ddewis y naill opsiwn neu'r llall, yn amodol ar dalu'r costau rhentu ychwanegol o fod yn rhan o'r digwyddiad ac yn amodol ar amodau, telerau a chaniatâd y tirfeddiannwr (y cyngor fel arfer).

Deddf Rhyddid Gwybodaeth

Mae Cyngor Dinas a Sir Abertawe'n ymrwymedig i gydymffurfio â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (DRhG) sy'n berthnasol i'r holl wybodaeth wedi'i chofnodi a gedwir ganddo neu a gedwir ar ei ran. Bydd gwybodaeth a ddarperir ar gyfer y cyngor neu a gedwir ganddo yn cael ei phrosesu a'i datgelu mewn ffordd sy'n cydymffurfio'n llym â'r DRhG, Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol 2018 neu ddeddfwriaeth briodol arall.

Close Dewis iaith