Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cais am ganiatâd masnachu ar y stryd yng nghanol y ddinas

Gallwch ddefnyddio'r ffurflen hon i gyflwyno cais am ganiatâd i ddefnyddio llain masnachu ar y stryd yng nghanol y ddinas. Bydd rhaid i chi dalu ffïoedd y mis cyntaf wrth gyflwyno'r cais hwn.

Cyn i chi gwblhau'r ffurflen hon, sicrhewch eich bod wedi darllen y nodiadau arweiniol.

Fel rhan o'ch cais, byddwch yn gallu lanlwytho dogfennau ategol. Mae'n rhaid i chi gadw'r dogfennau hyn ar eich cyfrifiadur cyn i chi eu lanlwytho.

  • ffotograff o'r stondin, cerbyd etc a ddefnyddir fel rhan o'ch busnes (ar gyfer ceisiadau newydd yn unig)
  • ffotograffau o'r cynnyrch/gwasanaeth rydych yn bwriadu eu gwerthu
  • dau ffotograff maint pasbort o'r holl ymgeiswyr a'r cynorthwywyr.
  • copi o yswiriant atebolrwydd cyhoeddus, lleiafswm o £5 miliwn o sicrwydd yswiriant
  • ffurflen Debyd Uniongyrchol wedi'i llenwi. Dylech  lawrlwytho'r ffurflen debyd uniongyrchol (Word doc) [41KB], cwblhau'r manylion a chadw'r ffurflen wedi'i chwblhau ar eich cyfrifiadur. Byddwch yn gallu lanlwytho'r ffurflen wedi'i llenwi fel rhan o'r cais hwn.
  • gwiriad GDG sylfaenol o wefan Gov.uk (ar gyfer ceisiadau newydd yn unig) Bydd angen i chi wneud cais i ofyn am wiriad GDG sylfaenol (Yn agor ffenestr newydd) cyn cyflwyno cais am drwydded masnachu ar y stryd.
  • asesiad risg diogelwch tân. Dylech  lawrlwytho'r asesiad risg diogelwch tân (Word doc) [32KB], cwblhau'r manylion a chadw'r ffurflen wedi'i chwblhau ar eich cyfrifiadur. Byddwch yn gallu lanlwytho'r ffurflen wedi'i llenwi fel rhan o'r cais hwn.
Close Dewis iaith