Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Gwybodaeth am fysus

Oriau agor ac amserlenni gorsaf fysus Abertawe.

Oriau agor yr orsaf fysus

Mae'r brif orsaf fysus ar agor saith niwrnod yr wythnos rhwng 5.30am a 8.30pm.

Os ydych chi'n gadael ar goets cyn i'r brif orsaf fysus agor, gallwch gael mynediad i'r ardal ymadael ar gyfer coetsis trwy'r fynedfa i'r de gan bwyso'r seiniwr a dangos eich tocyn teithio i'r gwarchodwr diogelwch sydd ar ddyletswydd.

Bydd y toiledau cyhoeddus ar agor bob dydd rhwng 8.00am ac 8.30pm (tâl o 30c).

Desg wybodaeth

Mae'r ddesg wybodaeth ar agor rhwng 8.30am a 5.30pm o ddydd Llun i ddydd Sadwrn.

Gall ceidwaid yr orsaf fysus hefyd helpu teithwyr gydag eiddo coll ac ymholiadau.

Man storio bagiau

Mae'r cyfleusterau hyn ar gael yn Llogi Cyfarpar Symudedd Abertawe drws nesaf i'r orsaf fysus.

Cyfleusterau gorsaf fysus i deithwyr ag anableddau

Mae gan yr orsaf fysus farciau llawr lliwgar i ddod o hyd i'r ffordd.

Mae mapiau Braille o'r orsaf fysus a'r orsaf reilffordd ar gael o'r ddesg wybodaeth.

Mae gan bob cilfan lle mae bysus yn gadael system arwyddion siarad REACT yr RNIB. Mae ffobiau REACT ar gael o'r ddesg wybodaeth am flaendal ad-daladwy o £15.

Mae gan yr orsaf fysus doiledau i bobl anabl, ger mynedfa'r de. Mae cyfleuster Changing Places hefyd yn swyddfa Llogi Cyfarpar Symudedd Abertawe sydd yn yr orsaf fysus ei hun.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch publictransport@swansea.gov.uk

Gwasanaeth bysus am ddim

Mae'r cynnig bysus am ddim poblogaidd iawn yn y ddinas yn dychwelyd am 9 niwrnod dros wyliau'r Pasg ac mae'n cynnwys y tri phenwythnos. Rhaid i bob taith ddechrau cyn 7.00pm.

Amserau bysiau

Gallwch gael amserau cludiant cyhoeddus yn Abertawe a'r cyffuniau gyda Traveline Cymru.

Cardiau bws consesiynol

Mae rhai pobl yn gymwys i deithio am ddim neu deithio gostyngedig ar wasanaethau bysus lleol.

Tocynnau bws a gweithredwr

Prynu tocynnau a gweithredwyr bysus.

Gwasanaethau bws wedi'u hariannu gan y cyngor

Mwy o fanylion am wasanaethau bysus yn Abertawe sy'n cael eu rheoli gan y cyngor.

Cwestiynau cyffredin am wasanaethau bws a chludiant cymunedol

Dewch o hyd i atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin rydym yn eu derbyn am wasanaethau bws a chludiant cymunedol.

Llogi Cyfarpar Symudedd Abertawe

Rydym yn darparu sgwteri a chadeiriau olwyn trydan a chadeiriau olwyn arferol i helpu pobl â symudedd cyfyngedig (o ganlyniad i anabledd parhaol neu dros dro, salwch, damwain neu oedran).