Toglo gwelededd dewislen symudol

Cais am drwydded HMO

Gallwch ddefnyddio'r ffurflen ar-lein hon i anfon eich cais am drwydded HMO wedi'i gwblhau atom a gwneud y taliad. Mae'r ffurflen hon yn addas ar gyfer ceisiadau am drwyddedau newydd, adnewyddu ac amrywio trwyddedau HMO.

Dylech sicrhau eich bod wedi llenwi'r ffurflen gais a'i bod yn cael ei chadw ar eich dyfais cyn llenwi'r ffurflen ar-lein hon.

Yn ogystal â'r ffurflen gais, dylech hefyd ddarparu'r dogfennau canlynol. Gallwch gadw'r rhain ar eich dyfais cyn cwblhau'r ffurflen ar-lein hon. Os ydych yn defnyddio ffôn clyfar neu dabled gallwch dynnu llun o'r dogfennau.

  • Adroddiad cyflwr gosodiadau trydanol 5 mlynedd (EICR) 
  • Tystysgrif diogelwch nwy flynyddol
  • Tystysgrif Perfformiad Ynni (EPC)
  • Tystysgrif gwasanaethu larymau tân flynyddol
  • Tystysgrif gwasanaethu offer ymladd tân flynyddol.

Mae dau opsiwn ar gael er mwyn talu am eich trwydded. Gallwch naill ai dalu'r swm llawn neu gallwch dalu'r swm mewn 2 randaliad. Mae'r ddau opsiwn ar gael ar y ffurflen hon. Os ydych yn dewis talu mewn dwy ran, byddwn yn anfon manylion atoch ynghylch sut i dalu'r ail ran ar ôl i ni dderbyn a gwirio'ch cais.

    Close Dewis iaith