Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Canclwm Japan

Mae canclwm Japan yn rhywogaeth ymledol o blanhigyn a dyma'r cyflymaf ei dwf yn y DU.

Gall canclwm dyfu bron unrhyw le ac mae'n achosi llawer o broblemau, gan gynnwys colli rhywogaethau planhigion brodorol, difrod ffisegol, lledaeniad buan, gostyngiad mewn gwerthoedd tir ac anhawster cael morgeisi.

Mae canclwm yn tyfu bron ym mhob cynefin a math o bridd ac nid yw ei dwf yn dibynnu ar hinsawdd. Yn Abertawe, mae i'w weld ar draethau, glaswelltir, tir gwlyb, ar hyd cyrsiau dŵr, mewn gerddi, tir diffaith, mynwentydd ac argloddiau a gwrychoedd rheilffyrdd.

Sut olwg sydd ar ganclwm Japan (PDF) [892KB]

Rheoli canclwm Japan

Mae'n anodd iawn cael gwared ar ganclwm Japan yn llwyr oherwydd gall hyd yn oed darnau bach o'r planhigyn dyfu'n blanhigion newydd.

Rydym yn cynnig gwasanaeth i dirfeddianwyr i helpu i reoli canclwm Japan rhag lledaenu.

Sylwer: Oherwydd adeg y flwyddyn a'r tywydd ni fyddwn yn rhoi dyfynbrisau mwyach ar gyfer trin canclwm â chwynladdwr eleni. Y rheswm am hyn yw bod canclwm yn gwywo'n naturiol yr adeg hon o'r flwyddyn gan ei fod yn blanhigyn llysieuol ac ni fydd y chwynladdwr yn gweithio. Cysylltwch eto yn y gwanwyn pan fyddwn yn ailddechrau'r gwasanaeth.

Cwestiynau cyffredin a ofynnir am drin canclwm Japan

Cwestiynau cyffredin a ofynnir am ein gwasanaeth i drin canclwm Japan.

Gwasanaeth e-bost - canclwm Japan

Cofrestrwch ar gyfer ein gwasanaeth bwletin e-bost 'Canclwm Japan' am ddim.