Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Casglu sbwriel yn wirfoddol

Os hoffech chi gasglu sbwriel yn eich ardal leol, dyma sut y gallwch wneud hynny.

Mae casglu sbwriel yn ffordd wych o ddod â chymuned at ei gilydd. Mae hefyd yn gallu gwneud gwahaniaeth enfawr i'r amgylchedd lleol, gan ganiatáu i natur ffynnu a chreu lleoedd gwell i bawb.

Gwnewch eich rhan

Canolfannau casglu sbwriel

Mae'r hybiau'n darparu'r cit, yr arweiniad diogelwch a'r yswiriant i chi gasglu sbwriel yn ddiogel a gallwch ddod o hyd iddynt yn:

Mae gan bob hwb tua 10 i 30 teclyn codi sbwriel ar gael i'w benthyca. Gall grwpiau wneud cais i fenthyca o sawl safle os oes angen. *5 teclyn codi sbwriel ar gael i'w benthyca yn St Thomas.

Pwy all gymryd rhan

Gweler isod am y cyfyngiadau presennol ar grwpiau mawr yn casglu sbwriel oherwydd COVID.

  • Unigolion
  • Teuluoedd
  • Grwpiau wedi'u trefnu
  • Busnesau
  • Ysgolion

Beth i'w wneud â'r sbwriel a gesglir?

Glanhau'r arfordir a'r traeth

Caiff sbwriel ei gasglu o draethau a reolir gan y cyngor (Bae Abertawe/Bracelet/Langland/Caswell/Porth Einon) - ar gyfer traethau eraill bydd angen i chi gysylltu â'r perchnogion i ofyn am ganiatâd ac i drefnu casgliad ar gyfer y sbwriel.

Unigolion, teuluoedd a grwpiau bach

Gadewch eich sachau a gasglwyd (sachau coch Cadwch Gymru'n Daclus a sachau gwastraff gwyrdd ar gyfer gwastraff i'w ailgylchu) yn ddiogel ac yn daclus wrth ymyl unrhyw un o'r biniau sbwriel neu gŵn yn y lleoliadau traeth a restrir uchod fel y gallwn gael mynediad hawdd atynt.

Grwpiau mwy (5 o bobl neu fwy)

Bydd angen i ddigwyddiadau grwpiau mwy wneud cais am gasglu sbwriel, rhowch o leiaf 5 niwrnod gwaith o rybudd gan ddefnyddio'r ddolen isod.

Cais i gasglu sbwriel fel rhan o ddigwyddiad casglu sbwriel yn wirfoddol Cais i gasglu sbwriel fel rhan o ddigwyddiad casglu sbwriel yn wirfoddol

Pob sesiwn casglu sbwriel arall

Mae'r mentrau casglu sbwriel gwirfoddol hyn wrth wraidd Caru Cymru, cydweithrediad rhwng Cadwch Gymru'n Daclus a chynghorau ar draws Cymru er mwyn cael gwared ar sbwriel a gwastraff.

Litterpicking logos

Cais i gasglu sbwriel fel rhan o ddigwyddiad casglu sbwriel yn wirfoddol

Os ydych yn grŵp mwy o 5 neu fwy o bobl, unwaith y byddwch wedi trefnu dyddiad i fenthyg offer o un o'r canolfannau casglu sbwriel, rhowch wybod i ni fel y gallwn gasglu'r sbwriel rydych wedi'i gasglu.
Close Dewis iaith