Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cymorth dementia gan y gwasanaethau cymdeithasol

Mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn gweithio mewn partneriaeth â'r gwasanaeth iechyd a'r sector gwirfoddol i ddarparu gwybodaeth, gwasanaethau a chefnogaeth i bobl â dementia a'u gofalwyr.

Cyn y gall rhywun gael cefnogaeth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol, bydd yn rhaid i ni gynnal asesiad o'u hanghenion.

Y broses asesu

Gall asesiad yn ein helpu i weld a oes gan berson anghenion gofal a chefnogaeth, a ganfod a yw'n gymwys am help gan y Gwasanaethau Cymdeithasol. Yn aml, bydd gweithwyr cymdeithasol a staff y gwasanaeth iechyd yn rhan o'r broses asesu, gan ddibynnu ar y math o anawsterau y mae rhywun yn eu cael. Y ffordd y gallwn gefnogi pobl â dementia'n fwyaf effeithiol yw drwy ystyried holl agweddau'r person a'r teulu neu ofalwyr eraill sy'n eu cefnogi fel un cyfan.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr asesiad ar y dudalen ganlynol: Asesiadau gofal a chefnogaeth i oedolion.

Ein nod yw darparu cefnogaeth sy'n galluogi pobl â dementia i barhau i fyw eu bywydau yn eu cartrefi eu hunain, lle y bo'n addas, neu mewn cartref gofal. Drwy adeiladu ar gryfderau, hanes bywyd a galluoedd presennol person, a thrwy ganolbwyntio ar berthnasoedd, teimladau a gweithgareddau sy'n golygu rhywbeth i'r unigolyn, ein nod yw datblygu a chynyddu ei annibynniaeth a'i les. Bydd y gefnogaeth y mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn ei darparu'n amrywio yn ôl anghenion y person a asesir.

Gall cefnogaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol gynnwys:

  • Gofal a chefnogaeth gartref - rhywun i helpu gyda thasgau bob dydd megis golchi, gwisgo a chogino prydau y gall rhywun â dementia ei chael hi'n anodd eu gwneud. Mae ein tudalen Gofal cartref yn esbonio mwy am hyn.
  • Technoleg gynorthwyol - ssynwyryddion, larymau a theclynnau sy'n helpu i gadw pobl â dementia'n ddiogel gartref a'u galluogi i wneud pethau na fyddant yn gallu eu gwneud fel arall.
  • Seibiant o gartref - gall Canolfannau Dydd a Grwpiau Cymdeithasol roi cyfle i bobl â dementia gael cyswllt ac ysgogiad cymdeithasol. Mae grwpiau'n bodoli i bobl ar gyfnodau gwahanol o'u dementia.
  • Seibiant i'r gofalwr - mae'n bwysig bod gofalwyr yn edrych ar ôl eu hiechyd a'u lles eu hunain. Weithiau bydd angen i ofalwr gael seibiant o'i gyfrifoldebau gofalu. Gallai hyn fod am ychydig oriau neu am ychydig wythnosau.
  • Gwasanaeth asesu preswyl - cymorth arbenigol i helpu pobl â dementia adennill y sgiliau a'r hyder i ddychwelyd i fyw gartref ar ôl cyfnod o salwch. Mae ein tudalen ailalluogi preswyl yn esbonio mwy am hyn.
  • Gofal preswyl tymor hir - weithiau nid yw'n bosib gofalu am rywun â dementia gartref yn ddiogel. Gall hyn fod oherwydd y ffordd y mae ei gyflwr yn effeithio arno, neu efallai oherwydd bod amgylchiadau'r gofalwr yn ei wneud yn anodd. Gallai ein tudalen Gofal preswyl a nyrsio eich helpu gyda rhai o'r penderfyniadau y gallai fod angen i chi eu gwneud.

Gwneud cais am asesiad o'ch anghenion gofal neu gefnogaeth Asesiadau gofal a chefnogaeth i oedolion 

Asesiadau gofal a chefnogaeth i oedolion

Sut mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn asesu'ch anghenion gofal a chefnogaeth.

Taliadau am ofal a chefnogaeth yn y cartref

Yr hyn y disgwylir i chi ei dalu o bosib tuag at gostau eich gofal cartref a sut rydym yn cyfrifo'r ffioedd.

Talu am ofal preswyl

Bydd faint byddwch chi'n ei dalu am ofal preswyl yn dibynnu ar eich incwm, eich cynilion ac asesdau eraill.

Gwasanaethau ailalluogi preswyl ar gyfer pobl â dementia

Mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol wedi datblygu uned asesu â'r bwriad o helpu mwy o bobl â dementia i barhau i fyw gartref.
Close Dewis iaith