Toglo gwelededd dewislen symudol

Taith Gerdded Cwm Ysgiach

Pellter: 7 milltir/11.2km.

Mae'r daith gerdded gylchol 7 milltir hon yn dechrau yng nghaffi Cronfa Ddŵr Lliw ac yn eich arwain trwy bentref Felindre, safle hen fedd dioddefwr llofruddiaeth ac ar draws gweundir agored gyda golygfeydd godidog dros Foryd Llwchwr a gogledd Gŵyr.

Cychwyn a gorffen

Maes parcio Cronfa Ddŵr Lliw Isaf.

Cyrraedd yno

Lleoedd parcio wrth y man cychwyn a safle bws yn Felindre.

Cyfleusterau

Lluniaeth a thoiledau ar gael yng Nghronfa Lliw Isaf.

Cwm Ysgiach walk - map (PDF) [2MB]