Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cwestiynau cyffredinol am therapi galwedigaethol

Rhestr o'r cwestiynau mwyaf cyffredin am ein Gwasanaethau Therapi Galwedigaethol yn y gymuned.

Beth yw'r Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol?

Sut mae'r gwasanaeth yn gweithio?

Beth mae'r gwasanaeth yn ceisio ei gyflawni?

Sut ydw i'n gofyn am wasanaeth?

Beth sy'n digwydd yn yr asesiad?

A fydd gen i gynllun gweithredu?

 

 

Beth yw'r Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol?

Mae'r Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol yn un o'r gwasanaethau a ddarperir gan y Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer pobl hŷn a phobl ag anableddau corfforol neu synhwyraidd. Mae tîm o Therapyddion Galwedigaethol (ThG) profiadol yn gweithio yn y gymuned gyda phobl anabl a chyda'r rheiny sy'n eu cynorthwyo neu'n byw gyda hwy.

Sut mae'r gwasanaeth yn gweithio?

Mae Therapyddion Galwedigaethol yn helpu pobl i ddod o hyd i ffyrdd o ymdopi ag effeithiau anabledd.

Mae'r ThG yn gweithio gyda phobl o bob oedran er mwyn eu helpu i fod mor annibynnol â phosib, gwella ansawdd eu bywydau a bywydau'r bobl sy'n gofalu amdanynt..

Mae'r ThG yn cydweithio'n agos â sefydliadau eraill y gallai fod modd iddynt eich helpu hefyd i sicrhau y gellir diwallu eich anghenion yn y ffordd orau bosib. Gallai'r rhain gynnwys staff gofal iechyd neu swyddogion adfer o RNIB.

Bydd y ThG yn gweithio gyda chi i nodi tasgau rydych yn eu cael yn anodd i'w cyflawni ynghyd â ffyrdd o addasu technegau, defnyddio cyfarpar neu addasu eich cartref i wneud tasgau bob dydd yn haws.

Beth mae'r gwasanaeth yn ceisio ei gyflawni?

Nod y gwasanaeth ThG yw:

  • rhoi mwy o annibyniaeth a rheolaeth dros eu bywydau i bobl;
  • gwneud gweithgareddau bob dydd yn haws heb iddynt gymryd llawer o amser pobl anabl ac unrhyw un sy'n eu cynorthwyo neu'n byw gyda hwy;
  • annog arferion diogel a hysbysu pobl amdanynt;
  • helpu pobl i addasu i'w hanableddau a gwella eu hyder a'u hunan-barch.

Sut ydw i'n gofyn am wasanaeth?

Dylech chi neu rywun ar eich rhan gysylltu â'r Pwynt Mynediad Cyffredin ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (PMC).

Os ydych yn glaf yn yr ysbyty, siaradwch â thîm gwaith cymdeithasol yr ysbyty.

Bydd eich cais yn cael ei gyfeirio at y gwasanaeth ThG a byddwn yn gwneud apwyntiad i ThG ymweld â chi yn eich cartref a chyflawni asesiad o'ch anghenion.

Beth sy'n digwydd yn yr asesiad?

Bydd angen i'r ThG gasglu gwybodaeth am eich anabledd neu eich cyflwr meddygol, a bydd angen iddo eich arsylwi chi'n cyflawni tasgau bob dydd penodol er mwyn cael gwell dealltwriaeth o'ch anawsterau.

Yn benodol byddwn yn:

  • trafod yr hyn y gallwch ei gyflawni ar hyn o bryd a sut mae unrhyw anawsterau'n effeithio ar eich ffordd o fyw a ffordd o fyw unrhyw un sy'n eich cynorthwyo neu sy'n byw gyda chi;
  • nodi beth yw eich cryfderau a'ch galluoedd a sut y gellir defnyddio'r rhain i oresgyn yr anawsterau;
  • trafod unrhyw syniadau sydd gennych o ran ffyrdd o wella'r sefyllfa;
  • gofalu eich bod yn gwybod am yr amrywiaeth o wasanaethau ac adnoddau lleol sydd ar gael i'ch helpu;
  • os yw'n briodol, trefnu i chi roi cynnig ar gyfarpar arbenigol yn eich cartref.

A fydd gen i gynllun gweithredu?

Ar ôl asesu eich anghenion ac archwilio unrhyw ddewisiadau neu opsiynau gyda chi, bydd y ThG yn defnyddio'i arbenigedd a'i brofiad i weithio gyda chi ac unrhyw un sy'n eich cynorthwyo neu'n gweithio gyda chi ar gynllun gweithredu i gytuno arno.

Gall y ThG:

  • roi cyngor ar ffyrdd gwahanol o ymdrin â'ch sefyllfa a thrafod ffyrdd ar gyfer newid a gwelliant;
  • cynghori chi ac unrhyw un sy'n eich cynorthwyo neu sy'n byw gyda chi am sgiliau newydd i'ch helpu i wneud pethau o gwmpas y tŷ yn fwy rhwydd a diogel;
  • awgrymu cyfarpar a allai eich helpu gyda thasgau bob dydd fel ymolchi, gwisgo a choginio;
  • rhoi gwybodaeth i chi ar addasiadau posib i'ch cartref ac ynghylch pa grantiau sydd ar gael.
Close Dewis iaith