Cwestiynau cyffredin am drwyddedu tacsis
Dewch o hyd i atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin rydym yn eu derbyn am drwyddedu tacsis.
Faint o drwyddedau tacsis mae'r cyngor wedi'u rhoi eleni? (cywir ar Mai 2025)
Rydym yn rhoi trwyddedau/bathodynnau deuol bob dydd ac felly mae cyfanswm bras y gyrwyr sydd wedi'u trwyddedu ar hyn o bryd yn newid. Amcangyfrif yw'r ffigurau hyn:
- Cerbydau Hacni - 296
- Cerbydau Hurio Preifat - 852
- Gweithredwr Hurio Preifat - 49
- Nifer y gyrwyr y rhoddwyd bathodynnau deuol iddynt - 1,143
Nifer y tacsis sy'n addas i gadeiriau olwyn | Cyfanswm nifer y tacsis | Canran y rheini sy'n addas i gadeiriau olwyn | |
---|---|---|---|
Cerbydau hacni | 193 | 296 | 65% |
Hurio preifat | 13 | 852 | 1.5% |
A yw'r cyngor yn rhannu/dilysu unrhyw wybodaeth a roddir fel rhan o'r broses hon â phartïon allanol heblaw am yr ymgeisydd?
Gall wybodaeth a roddir fel rhan o'r broses cyflwyno cais gael ei dilysu gyda'r Swyddfa Gartref lle bo angen. Gellir rhannu'r wybodaeth ag asiantaethau eraill ac fel rhan o geisiadau Rhyddid Gwybodaeth lle bo'n berthnasol.
Sut mae'r wybodaeth a roddir wrth wneud cais yn cael ei chadw (ac am ba hyd) ar ôl i gais gael ei brosesu?
Mae gwybodaeth a roddir wrth wneud cais am drwydded yn cael ei chadw'n electronig ac ar bapur. Caiff ei chadw am 7 mlynedd ar ôl i gais gael ei gwblhau fel arfer. Fodd bynnag, gellir cadw manylion am gyfnod o 25 mlynedd yn dibynnu ar y cais a dderbynnir. Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch ar y mater hwn, cysylltwch â ni.
Faint o arian mae'r cyngor wedi'i dderbyn gan yrwyr tacsi?
Gellir dod o hyd i gyfrifon cyhoeddus ar gyfer trwyddedu tacsis, am sawl blwyddyn ariannol, ar y dudalen datganiad o gyfrifon: Datganiad o gyfrifon