Cyfeiriannu
Mae Abertawe a Gŵyr yn fannau bendigedig i ymarfer cyfeiriannu.
Mae cyfeiriadu'n weithgaredd gwych sy'n addas i bobl o bob oedran. Mae'n ffordd dda i gadw'n heini am ei fod yn cynnwys llywio trwy dir amrywiol i fannau rheoli mor gyflym ag y bo modd. Mae hefyd yn ffordd wych o weld rhannau o gefn gwlad nad yw llawer o bobl yn cael cyfle i'w gweld
Mae cyrsiau parhaol wedi'u gosod mewn parciau a choedwigoedd, gan gynnwys Parc Treforys a'r Caeau Plwm, Parc Llywelyn, Coedwig Cymunedol Cilfái, Coed yr Esgob, Bryn y Mwmbwls a Gwaith Brics Dyfnant. Mae'r rhain yn cynnig cyfle gwych i ddechreuwyr ddysgu sut i ddarllen mapiau, defnyddio cwmpawdau a mwynhau cyfeiriadu.
Mae Clwb Cyfeiriadu Bae Abertawe'n defnyddio'r cyrsiau parhaol i gynnal nosweithiau cyflwyno yn ogystal â chymryd rhan mewn cystadlaethau.
Gall trefnwyr grwpiau sydd am gael gafael ar y llythrennau sy'n cyfateb i niferoedd y rheolyddion ym mhob safle wneud hynny drwy e-bostio map@sboc.org.uk
Lawrlwytho Mapiau'r Cwrs
Er mwyn gwneud cyfeiriadu'n fwy hygyrch ac annog mwy o bobl i ymgymryd â'r gweithgaredd, mae mapiau'r cwrs bellach ar gael i'w lawrlwytho. Gellir lawrlwytho'r rhain am ddim a'u hargraffu i unrhyw un eu defnyddio a'u mwynhau. Cliciwch ar y dolenni neu lawrlwythwch y pdfs isod:
-
Mumbles Hill orienteering map (PDF, 670KB)Yn agor mewn ffenest newydd
-
Morriston Park orienteering map (PDF, 1MB)Yn agor mewn ffenest newydd
-
Parc Llewellyn orienteering map (PDF, 1MB)Yn agor mewn ffenest newydd
-
Kilvey Community Woodland orienteering map (PDF, 2MB)Yn agor mewn ffenest newydd
-
Bishops Wood orienteering map (PDF, 1MB)Yn agor mewn ffenest newydd
-
Brynmill Park and Cwmdonkin Park orienteering map (PDF, 1MB)Yn agor mewn ffenest newydd
-
Castle Wood orienteering map (PDF, 825KB)Yn agor mewn ffenest newydd
-
Coedbach Park orienteering map (PDF, 598KB)Yn agor mewn ffenest newydd
-
Heol Las Park and Coed Gwilym Park orienteering map (PDF, 1MB)Yn agor mewn ffenest newydd
-
Clyne Valley orienteering map (PDF, 973KB)Yn agor mewn ffenest newydd
-
Singleton Park orienteering map (PDF, 611KB)Yn agor mewn ffenest newydd
-
Dunvant Brickworks orienteering map (PDF, 1MB)Yn agor mewn ffenest newydd
Cymerwch ran
Rydym bob amser yn chwilio am gyfleoedd i ddenu aelodau newydd i'r clwb a byddem yn cymell unrhyw un â diddordeb i gysylltu â ni.
Cysylltwch â'r clwb trwy e-bostio Contact@sboc.org.uk