Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyfrifiad 2001

Ystadegau Cyfrifiad 2001 ar gyfer ardaloedd lleol yn Abertawe.

Cyhoeddwyd canlyniadau awdurdodau lleol manwl cyntaf Cyfrifiad 2001 gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) ym mis Chwefror 2003.  Defnyddiwyd yr wybodaeth i lunio proffil Cyfrifiad 2001 cryno  Dinas a Sir Abertawe (PDF) [276KB].

Yn dilyn hynny, cyhoeddodd y SYG ystadegau cyfrifiad cyfwerth ar gyfer adrannau neu wardiau etholiadol.  Mae proffiliau Cyfrifiad 2001 unigol ar gyfer y 36 ward yn Abertawe hefyd ar gael i'w gweld neu eu lawrlwytho o'r dudalen hon.

Mae data Cyfrifiad 2001 ar gyfer wardiau Abertawe hefyd ar gael mewn dogfen  Dangosyddion Allweddol (PDF) [556KB] sy'n rhoi dadansoddiad fesul ward o nodweddion poblogaeth, economaidd ac aelwyd ar sail graddfa.

Tablau Ystadegau Allweddol (Cyfrifiad 2001)

Mae'r gyfres gyfan o dablau 'Ystadegau Allweddol' (YA), sy'n cynnwys data cryno Cyfrifiad 2001 ar gyfer Dinas a Sir Abertawe, Cymru a Chymru a Lloegr ar gael fel ffeiliau Excel ar y dudalen hon.  Mae gwybodaeth am amrywiaeth o bynciau sy'n ymwneud â strwythur poblogaeth, nodweddion a chyfansoddiad aelwyd wedi'i chynnwys yn y tablau isod.

Ffynhonnell: Swyddfa'r Ystadegau Gwladol (SYG). © Hawlfraint y Goron. Gellir defnyddio ac ailddefnyddio gwybodaeth yn rhydd dan delerau Trwydded y Llywodraeth Agored.

Os oes angen cyngor arnoch ar argaeledd data o'r Gyfrifiad, cysylltwch â ni


Cymariaethau 1991-2001

Gellir dilyn darlun eang newid y boblogaeth o gyfrifiad i gyfrifiad.  Mae'r dudalen hon hefyd yn cynnwys crynodeb byr o'r newidiadau allweddol rhwng 1991 a 2001 yng nghanlyniadau'r Cyfrifiad ar gyfer Dinas a Sir Abertawe.  Mae'r crynodeb yn nodi sut mae Abertawe, a'r gymdeithas yn gyffredinol, wedi newid dros y deng mlynedd hynny.

Fodd bynnag, mae pob cyfrifiad yn anad dim yn rhoi 'ciplun' ar yr adeg y cafodd ei gynnal, ac nid yw o anghenraid yn ffynhonnell dda o wybodaeth fanwl am newid.  Gwneir newidiadau ym mhob cyfrifiad i'r cwestiynau, y categorïau a ddefnyddir i gyflwyno canlyniadau, diffiniadau, methodoleg a daearyddiaeth - y mae angen gofal ar bob un wrth gymharu data o 1991 a 2001.  Disgrifir rhai o'r gwahaniaethau hyn isod:

  • Newid yn y gronfa boblogaeth a ddefnyddir: roedd Cyfrifiad 1991 yn cyfrif myfyrwyr yng nghyfeiriad eu rhieni ac roedd Cyfrifiad 2001 yn cyfrif myfyrwyr yn eu cyfeiriad yn ystod y tymor.
  • Preswylwyr arferol ac ymwelwyr: casglodd Cyfrifiad 1991 wybodaeth am breswylwyr arferol ac ymwelwyr a oedd yn bresennol noson y Cyfrifiad, ond casglodd Cyfrifiad 2001 wybodaeth am y preswylwyr arferol yn unig.
  • Dulliau addasu canlyniadau wedi Cyfrifiad: addaswyd canlyniadau Cyfrifiad 2001 er mwyn osgoi tangyfrifo, trwy Arolwg Cwmpas y Cyfrifiad. Nid addaswyd canlyniadau Cyfrifiad 1991 yn yr un modd.
  • Prosesu sampl: roedd cynnyrch o rai o bynciau 1991 yn seiliedig ar sampl 10%. Yn wahanol i Gyfrifiad 1991, ni phroseswyd sampl o ddata yn 2001.
  • Newidiadau ffiniau: cafwyd rhai newidiadau mewn ardaloedd penodol o Abertawe rhwng 1991 a 2001, sy'n golygu bod ystadegau y mae'n debyg eu bod yn cyfeirio at yr un ardal a enwyd mewn gwirionedd yn perthyn i ffiniau gwahanol.
Close Dewis iaith