Toglo gwelededd dewislen symudol

Asesiadau gofal a chefnogaeth i oedolion - sut rydym yn penderfynu pwy sy'n gymwys ar gyfer cefnogaeth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol

Ym mhob achos, anghenion yn hytrach na'r person, sy'n cael eu hasesu yn erbyn y meini prawf cymhwysedd.

I wneud penderfyniadau am bwy sy'n gymwys am ofal a chefnogaeth a reolir, rydym yn defnyddio Rheoliadau Gofal a Chefnogaeth (Cymhwystra) (Cymru) 2015 (Yn agor ffenestr newydd).

Mae pedwar amod y mae'n rhaid eu bodloni:

1.  Ceir yr angen o ganlyniad i'ch afiechyd corfforol neu feddyliol, oedran, anabledd, dibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau neu amgylchiadau tebyg.

2.  Mae'r angen yn ymwneud ag un neu fwy o'r canlyniadau canlynol:

  • y gallu i gyflawni hunanofal neu arferion domestig
  • y gallu i gyfathrebu
  • diogelu rhag cam-drin neu esgeulustod
  • ymrwymiad i waith, addysg, dysgu neu weithgareddau hamdden
  • cynnal neu ddatblygu teulu neu berthynas bersonol arwyddocaol arall
  • datblygu a chynnal perthnasoedd cymdeithasol ac ymrwymiad yn y gymuned
  • cyflawni cyfrifoldebau gofal am blentyn.

3.  Mae'r angen gymaint fel nad ydych yn gallu bodloni'r angen hwnnw ar eich pen eich hun, 

neu gyda gofal a chefnogaeth eraill sy'n fodlon darparu gofal a chefnogaeth o'r fath 

neu gyda chymorth gwasanaethau yn y gymuned.

4.  Rydych yn annhebygol o gyflawni un neu fwy o'ch canlyniadau personol oni bai fod yr awdurdod lleol yn darparu gofal a chefnogaeth neu'n ei drefnu i ddiwallu'r angen neu ei fodloni drwy daliad uniongyrchol.

Gwneud cais am asesiad Asesiadau gofal a chefnogaeth i oedolion - ffurflen ar-lein

 

Close Dewis iaith