Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Asesiadau gofal a chefnogaeth i oedolion - eich cynllun gofal a chefnogaeth

Os yw'r asesiad yn nodi bod eich anghenion yn gymwys am gefnogaeth neu wasanaethau gan y Gwasanaethau Cymdeithasol, byddwn yn siarad â chi am yr opsiynau cefnogaeth a all fod ar gael a llunio Cynllun Gofal a Chefnogaeth gyda chi.

Mae'r Cynllun Gofal a Chefnogaeth yn nodi sut bydd eich anghenion yn cael eu diwallu a pha ganlyniadau mae'r gefnogaeth hon yn ceisio eu cyflawni.  Cewch gopi o hwn i'w gadw.

Byddwn yn adolygu'ch cynllun gofal a chefnogaeth gyda chi'n rheolaidd i wirio ei fod yn dal i ddiwallu'ch anghenion, ac i weld a yw'ch anghenion wedi newid. Gallai hyn olygu y cewch wasanaeth mwy penodol, gwasanaeth gwahanol, llai o wasanaeth, neu ddim gwasanaeth o gwbl.

Os bydd eich anghenion neu'ch amgylchiadau'n newid, cewch ofyn am asesiad newydd.

Beth os nad ydych yn fodlon ar ein penderfyniad?

Os nad ydych chi (neu eich cynrychiolydd) yn hapus am:

  • benderfyniad i beidio â chynnal asesiad anghenion
    neu
  • canlyniad unrhyw asesiad

gallwch ofyn i'r Rheolwr Tîm perthnasol i adolygu'r penderfyniad hwnnw. Cynhelir yr adolygiad hwn o fewn 10 niwrnod gwaith a chewch eich hysbysu am y canlyniad.

Os ydych chi (neu eich cynrychiolydd) yn dal yn anhapus gydag ymateb Rheolwr y Tîm, gallwch ofyn am ailasesiad. Cynhelir hwn gan uwch-ymarferydd yn y tîm neu gan aelod o dîm arall os ystyrir hynny'n fwy addas. Cynhelir yr ailasesiad fel arfer o fewn 10 niwrnod gwaith o dderbyn y cais, a chewch eich hysbysu am y canlyniad.

Os ydych yn dal yn anfodlon, byddwn yn ystyried darparu ailasesiad annibynnol gan ddefnyddio gweithiwr proffesiynol addas o'r tu allan i'r gwasanaeth.

Os nad ydych yn dymuno cael ailasesiad annibynnol, mae gennych yr hawl i cyflwyno sylwadau, cwynion neu ganmoliaeth am y gwasanaethau cymdeithasol.

A fydd angen i chi dalu am y gwasanaeth?

Ni chodir tâl am yr asesiad nac am roi cyngor a gwybodaeth i chi.

Rydym ni a'n partneriaid yn y trydydd sector yn codi tâl am rai o'r gwasanaethau rydym yn eu darparu.  Ar gyfer rhai gwasanaethau, bydd pawb sy'n cael y gwasanaeth yn talu'r un swm.  Ar gyfer rhai mathau o wasanaeth (gofal tymor hir gartref a gofal preswyl), mae ein taliadau'n seiliedig ar faint o arian sydd gennych, a byddai angen i ni gynnal asesiad ariannol i benderfynu faint dylech chi ei dalu.

Byddwn yn dweud wrthych am unrhyw daliadau bydd yn rhaid i chi dalu cyn i chi ddechrau derbyn unrhyw wasanaethau.

Ceir rhagor o wybodaeth am daliadau am ofal gartef yma.

Beth oes yw'n well gen i drefnu fy nghefnogaeth fy hun?

Os ydych yn gymwys am gefnogaeth gofal cymdeithasol, efallai byddai'n well gennych i drefnu eich gwasanaethau eich hunan, gan ddefnyddio arian rydym yn ei roi i chi, yn hytrach na chael y Gwasanaethau Cymdeithasol i wneud hyn i chi. Gelwir hyn yn daliad uniongyrchol.

Gwneud cais am asesiad Asesiadau gofal a chefnogaeth i oedolion - ffurflen ar-lein

 

Close Dewis iaith