Toglo gwelededd dewislen symudol

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Mae'r Ombwdsmon yn ymchwilio i gwynion am wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Mae'r gwasanaeth y mae'n ei ddarparu'n annibynnol, yn ddiduedd ac am ddim. Gall yr ombwdsmon ymchwilio i gyrff cyhoeddus, gan gynnwys llywodraeth leol, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Llywodraeth Cymru. Mae'r ombwdsmon yn ymchwilio i gwynion a wneir am Gynghorydd awdurdod lleol sy'n torri ei gôd ymddygiad.

Gall yr ombwdsmon ymchwilio i gwynion eich bod wedi'ch trin yn annheg, neu wedi cael gwasanaeth gwael trwy ryw fethiant ar ran y corff sy'n ei ddarparu. Os yw'r ombwdsmon yn amddiffyn eich cwyn, bydd yn dweud wrth y corff rydych wedi cwyno amdano am yr hyn mae'n meddwl y dylai ei wneud i unioni pethau. Ni chaiff yr ombwdsmon wneud i gyrff cyhoeddus ddilyn yr hyn mae'n ei argymell - ond, mewn gwirionedd, maent bron bob amser yn gwneud yr hyn a argymhellir.

Mae gan y rhan fwyaf o gyrff cyhoeddus weithdrefnau cwynion - fel arfer, mae'r ombwdsmon yn disgwyl i chi gwyno'n uniongyrchol i'r corff dan sylw, a rhoi cyfle rhesymol iddo ymchwilio ac ymateb i'ch cwyn, cyn i chi fynd ato. Gellir datrys llawer o gwynion fel hyn.

Enw
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
Cyfeiriad
  • 1 Ffordd yr Hen Gae
  • Pencoed
  • CF35 5LJ
Gwe
https://www.ombwdsmon.cymru/
Rhif ffôn
0300 790 0203