
Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013
Mae Deddf Teithio Llesol (Cymru) yn ceisio'i gwneud hi'n haws i bobl gerdded a beicio yng Nghymru, yn benodol i hyrwyddo cerdded a beicio fel dulliau ymarferol o gludiant ar gyfer teithiau pob dydd fel mynd i'r siopau, i'r gwaith neu'r coleg.
Mae'n rhoi dyletswydd gyfreithiol ar awdurdodau lleol yng Nghymru i fapio, cynllunio a hyrwyddo teithio llesol.
Darganfyddwch ragor am brosiectau cyfredol: Cynlluniau teithio llesol cyfredol
Fel rhan o'r ddeddf, gofynnir i ni gynhyrchu dau fap:
- Y Map llwybrau presennol (a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Awst 2016)
Mae'r map hwn yn nodi'r isadeiledd presennol ar gyfer cerdded a beicio yn yr ardaloedd a gwmpesir gan y Ddeddf Teithio Llesol.
Map llwybrau presennol (cymeradwywyd yn 2016) (PDF, 1MB)Yn agor mewn ffenest newydd
- Y Map Rhwydwaith Integredig (a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Chwefror 2018)
Mae'r map hwn yn dangos y llwybrau y mae'r cyngor yn bwriadu eu cyflwyno dros y pymtheg mlynedd nesaf (hyd at 2033).
Map rhwydwaith integredig (cymeradwywyd yn 2018) (PDF, 1MB)Yn agor mewn ffenest newydd
Caiff y Map Llwybrau Presennol a'r Map Rhwydwaith Integredig eu hadolygu a'u diweddaru'n achlysurol yn unol â gofynion y Ddeddf.
Rydym hefyd yn llunio adroddiadau blynyddol a gyflwynir i Lywodraeth Cymru i fonitro costau a'r defnydd o Deithio Llesol yn Ninas a Sir Abertawe. Mae'r adroddiadau hyn hefyd ar gael yn yr adran lawrlwythiadau isod.