Digwyddiad galw heibio i denantiaid a lesddeiliaid y cyngor 2025
Dydd Mercher 24 Medi, 10.00am - 4.00pm yn Neuadd Brangwyn.
Mae eich tîm tai'n cynnal ei ddigwyddiad galw heibio mwyaf erioed i denantiaid a lesddeiliaid, ac rydym am i gynifer o denantiaid â phosib ddod iddo.
Os ydych chi hefyd yn adnabod rhywun sy'n denant naill ai drwy'r gwaith neu eich bywyd cartref, rhowch wybod iddynt.
Mae'r diwrnod yn cynnig rhaglen lawn o ddigwyddiadau, stondinau, cyfleoedd cwrdd a chyfarch a sgyrsiau addysgiadol gan gynnwys y Timau Atgyweirio, Diogelwch Tân, Sgamiau, y Tîm Rhenti a Byw'n Annibynnol.
Mae'r digwyddiad yn rhad ac am ddim ac nid oes angen i chi archebu unrhyw beth. Galwch heibio.
Bydd lluniaeth a chewch eich cynnwys am ddim yn ein cystadleuaeth raffl am wobrau a gyflwynir drwy gydol y dydd!
Os hoffech wybod mwy, edrychwch ar y rhestr isod sy'n cynnwys ychydig o'r hyn a fydd yn digwydd a phwy fydd yno:
- Gwelliannau tai
- SATC
- Tîm Rhenti
- Porth Tai
- Opsiynau Tai
- Uned Cefnogi Tenantiaid
- Tîm Adsefydlu Ffoaduriaid
- Gwasanaeth Byw'n Annibynnol
- Gwasanaethau Adeiladau Corfforaethol
- Tîm Effeithlonrwydd Ynni
- Tîm Lesddaliad
- Tân a Chydymffurfio
- Tîm Cyswllt Cymunedol
- Iechyd yr Amgylchedd
- Cymunedau am Waith a Mwy a Dysgu Gydol Oes
- Incwm a Chyllid Gofal Cymdeithasol
- Refeniw a Budd-daliadau
- Gwastraff ac Ailgylchu
- Aelodau Ward Lleol
- Cydlynwyr Ardaloedd Lleol
- Yr Is-adran Diogelwch Cymunedol
- TPAS Cymru
- Adferiad - Cefnogaeth Iechyd Meddwl a Chaethiwed
- Llyfrgell Pethau Abertawe
- Hwb Comisiynu Trawsnewid Ymgysylltu â'r Gymuned
- Cynllun Teuluoedd Ifanc Abertawe
- CRISIS
- Canolfannau cymunedol
- The Trussel Trust
Lleoliad
Neuadd Brangwyn, Guildhall Road SA1 4PE
What3words - winner.comet.curvy
Sut i gyrraedd yno
Llwybrau bysus - 2A / 2B / 2C / 3A / 14
Bydd maes parcio'r Gorllewin yn y Ganolfan Ddinesig ar agor ar gyfer parcio am ddim - 10 munud yn unig i ffwrdd ar droed.
Rhagor o wybodaeth
Am ragor o wybodaeth ffoniwch Alison Winter ar 01792 635043 neu 07775 221453.