Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cyngor ar ddiogelwch tân i denantiaid y cyngor

Cyngor ar sut gallwch leihau'r siawns o dân a'r hyn y dylech ei wneud os bydd tân.

Mae'r gwasanaeth tân yn darparu gwybodaeth am sut i atal tân a hefyd yr hyn i'w wneud os oes tân yn eich cartref: Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru - diogelwch yn eich cartref (Yn agor ffenestr newydd)

Maent hefyd yn darparu ymweliad 'Diogel ac Iach' i gynnal archwiliad diogelwch tân yn y cartref: Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru - ymweliad diogel ac iach (Yn agor ffenestr newydd)

Os ydych chi'n gweld rhywbeth a allai beryglu diogelwch, rhowch wybod i'ch swyddfa dai ardal leol amdano.

Rhoi gwybod am atgyweiriadau angenrheidiol: Gwneud cais am atgyweiriad

 

Gwybodaeth diogelwch tân ychwanegol i denantiaid mewn fflatiau

Cofiwch fod pobl eraill yn byw yn yr adeilad. Mae pawb yn gyfrifol am ddiogelwch tân yn yr adeilad ac yn eu cartref eu hunain. Bydd dilyn y rheolau diogelwch hyn yn helpu.

  • Pan fyddwch yn symud i mewn byddwch yn cael cyngor diogelwch, gan gynnwys beth i'w wneud os bydd tân
  • Byddwn yn archwilio offer diogelwch yn rheolaidd e.e. larymau tân
  • Peidiwch ag ymyrryd ag offer diogelwch tân - mae hyn yn erbyn y gyfraith a gall beryglu bywydau eraill
  • Peidiwch ag ymyrryd â drysau tân a pheidiwch â symud y teclyn cau drws - mae'r rhain er eich diogelwch chi a diogelwch eraill yn yr adeilad
  • Cadwch ddrysau tân ar gau
  • Rhowch wybod i'ch Swyddfa Dai Ardal am broblemau neu ddifrod i ddrysau tân neu offer diogelwch
  • Peidiwch â gadael sbwriel, celfi, carpedi nac unrhyw eitemau mewn mannau cymunedol
  • Peidiwch â gosod matiau na charpedi yn yr ardaloedd pen grisiau (gallwch ddefnyddio mat drws bach sy'n gwrthsefyll tân)
  • Peidiwch â smygu mewn mannau cymunedol yn yr adeilad
  • Profwch eich larymau mwg yn fisol. Rhowch wybod i Ganolfan Alwadau'r tîm atgyweiriadau tai am unrhyw broblemau'n syth
  • Peidiwch â chyffwrdd â  mewnfeydd pibelli esgynnol sych (dry risers) ar y pen grisiau. Gallai peryglu bywydau os nad yw'n gweithio'n iawn. Os ydych chi'n gweld clawr pibelli esgynnol wedi'i fandaleiddio, rhowch wybod amdano ar unwaith i'ch swyddfa dai ardal.
  • Peidiwch â pharcio cerbydau ger mynedfa'ch bloc o fflatiau neu mewn ardaloedd 'cadwch yn glir'. Dylid cadw ffyrdd mynediad yn glir fel y gall injan dân gyrraedd mor agos â phosib i ymdrin â thanau.

Close Dewis iaith