Toglo gwelededd dewislen symudol

Y diweddaraf am Fusnes Twristiaeth - 26 Gorff 2024

Yn cefnogi adferiad ein diwydiant twristiaeth lleol

Gwobrau Twristiaeth Bae Abertawe'n dychwelyd yn 2024

Bydd Gwobrau Twristiaeth Bae Abertawe'n dychwelyd yn 2024, gan gynnig cyfle i ddathlu sector twristiaeth bywiog y rhanbarth. 

Bydd Twristiaeth Bae Abertawe, drwy gymorth Cyngor Abertawe, Cyngor Castell-nedd Port Talbot a Llywodraeth Cymru, yn cynnal y gwobrau. Mae'r cydweithrediad hwn yn tanlinellu ymrwymiad ar y cyd i hyrwyddo a dathlu'r diwydiant twristiaeth yn y rhanbarth.

Bydd enillwyr y gwobrau rhanbarthol eleni'n cael y cyfle uchel ei fri i gynrychioli Bae Abertawe ar lefel genedlaethol yng Ngwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Croeso Cymru yng ngwanwyn 2025.

Bydd y gwobrau'n cynnwys 12 o gategorïau, gan ddarparu llwyfan cynhwysfawr i arlwy twristiaeth amrywiol a rhagorol y rhanbarth.

Nod Gwobrau Twristiaeth Bae Abertawe, a gynhelir am yr wythfed tro, yw cydnabod a gwobrwyo rhagoriaeth, gosod meincnodau ar gyfer arferion gorau a chodi safonau yn y diwydiant yn barhaus. Maent yn gwella profiadau ymwelwyr, yn amlygu gwerth y sector twristiaeth ac yn cynnig llwyfan eilflwydd ar gyfer cyfleoedd dathlu a rhwydweithio i weithredwyr a chefnogwyr.

Bydd modd cyflwyno ceisiadau tan 18 Awst.

Eleni, bydd y gwobrau'n dilyn fformat gwahanol, gyda seremoni gyflwyno, gan gynnwys lluniaeth a chyfle i rwydweithio. 

Ceir rhagor o wybodaeth am Wobrau Twristiaeth Bae Abertawe a sut i gyflwyno cais drwy fynd i swanseabaytourismawards.org neu drwy gysylltu â Thwristiaeth Bae Abertawe

Gwasanaeth bysus am ddim - 26 Gorffennaf

Mae'r cynnig bysus am ddim hynod boblogaidd yn y ddinas yn ôl am wyliau'r haf. Rhaid i bob taith ddechrau cyn 7.00pm.

Mae ar gyfer teithiau sy'n dechrau ac yn gorffen yn ardal Cyngor Abertawe. 

Mae'r cynnig bysus am ddim yn berthnasol bob dydd Gwener, dydd Sadwrn, dydd Sul a dydd Llun o ddydd Gwener 26 Gorffennaf i ddydd Llun 26 Awst.

Gwasanaeth bysus am ddim

Baromedr Twristiaeth: cam yr Mehefin, 2024

Mae'r Baromedr yn asesu hyder busnesau yn niwydiant twristiaeth Cymru ac yn darparu canlyniadau dangosol ar lefel genedlaethol, ranbarthol a sectoraidd ar gyfer cam yr Mehefin, 2024.

Baromedr Twristiaeth

Gwaith yn Sgwâr y Castell yn cymryd cam arall

Cynhelir gwaith hanfodol ar linellau pŵer tanddaearol wrth i'r cyngor baratoi i drawsnewid Sgwâr y Castell yng nghanol y ddinas yn fan gwyrddach a mwy croesawgar.

Bydd contractwyr yn gweithio ar ran y Grid Cenedlaethol ar safle'r sgwâr am oddeutu wythnos o ddydd Llun nesaf. Bydd pob busnes yn yr ardal yn masnachu fel arfer.

Bydd ceblau foltedd uchel yn cael eu symud a'u hailosod i ddiwallu anghenion dyluniad newydd y sgwâr, a grëwyd gan y cyngor ar ôl ymgysylltu'n helaeth â'r cyhoedd.

Er mwyn galluogi'r Grid Cenedlaethol i gael mynediad i'r sgwâr, caiff cerddwyr eu dargyfeirio dros dro; bydd y sgwâr a'r siopau'n aros ar agor.

Bydd y prif waith ar Sgwâr y Castell yn dechrau eleni a dylid ei gwblhau oddeutu blwyddyn yn ddiweddarach.

Bydd y gwaith trawsnewid yn cynnwys dau bafiliwn ar gyfer busnesau bwyd, diod neu fanwerthu, cynnydd o ran gwyrddni arall, gan gynnwys lawntiau newydd a phlannu deunydd, atyniad dŵr newydd ar gyfer chwarae rhyngweithiol, sgrîn deledu anferth newydd a chyfleuster tebyg i safle seindorf, ardaloedd eistedd yn yr awyr agored, yn ogystal â chadw mannau a ddefnyddir gan y cyhoedd.

Gwaith yn Sgwâr y Castell yn cymryd cam arall

'De-orllewin Cymru Heb Gar' - lawrlwythwch neu archebwch eich llyfryn am ddim nawr

Mae Partneriaeth Rheilffyrdd Cymunedol De-orllewin Cymru wedi lansio fersiwn ar-lein o'i llawlyfr poblogaidd, 'De-orllewin Cymru Heb Gar'.

Nod y prosiect twristiaeth gynaliadwy hwn a arweinir gan y gymuned yw hyrwyddo twristiaeth gynaliadwy yn ne-orllewin Cymru drwy symleiddio opsiynau teithio, creu teithiau twristiaeth gynaliadwy deniadol ac annog ymwelwyr i archwilio ein rhanbarth hardd drwy ddefnyddio cludiant cyhoeddus a dulliau teithio llesol.

Gan ddefnyddio'r ddolen isod, gallwch weld y llawlyfr ar-lein, lawrlwytho fersiwn PDF ac archebu copïau papur ar gyfer eich busnes:

Lawrlwytho llyfryn 'De-orllewin Cymru Heb Gar'

Chwech o barciau'r cyngor yn ennill statws baner werdd

Mae chwech o brif barciau Abertawe wedi ennill statws baner werdd, gan gydnabod y rôl hanfodol y maen nhw'n ei chwarae wrth hybu lles preswylwyr a gwella'r amgylchedd naturiol.

Mae Gerddi Clun, Gerddi Botaneg Singleton, Parc Brynmill, Parc Llewelyn, Parc Cwmdoncyn a Pharc Victoria oll wedi cadw statws y faner bwysig am flwyddyn arall.

Rheolir yr holl barciau gan Gyngor Abertawe ac maent yn croesawu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn.

Cyflwynir rhaglen Gwobr y Faner Werdd yng Nghymru gan elusen amgylcheddol Cadwch Gymru'n Daclus gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Caiff y safleoedd eu hasesu yn erbyn wyth maen prawf llym, gan gynnwys bioamrywiaeth, glendid, rheoli amgylcheddol a chynnwys y gymuned.

Chwech o barciau'r cyngor yn ennill statws baner werdd

Ymgyrch 'Say NO to the O' i warchod morloi Gŵyr rhag cylchynau hedegog

Mae Grŵp Morloi Gŵyr y tu ôl i ymgyrch i atal pobl rhag prynu cylchynau hedegog, a chael manwerthwyr i roi'r gorau i'w gwerthu.

Mae'r ymgyrch yn tynnu sylw at y niwed a'r dioddefaint a achosir i forloi chwilfrydig sy'n gweld y cylchynau hedegog hyn sydd wedi'u taflu yn arnofio yn ein moroedd. Gall eu chwilfrydedd a'u chwarëusrwydd naturiol achosi iddynt gael eu dal yn y cylch, a all eu mygu'n araf.

Mae'r grŵp, sy'n ceisio gwneud Abertawe a phenrhyn Gŵyr yn ardal sy'n rhydd o gylchynau hedegog, yn dweud bod dewisiadau eraill sy'n fwy diogel, fel ffrisbis solet.

Lledaenwch y gair ymhlith eich ymwelwyr yr haf hwn a helpwch i warchod ein poblogaeth morloi.

Rhagor o wybodaeth am Grŵp Morloi Gŵyr

Ymgynghoriad Glan Môr Bae Abertawe

Diolch i chi am lenwi'r holiadur hwn, dylai ond gymryd tua 5 munud i chi ei wneud.

Mae Innes Associates wedi'u comisiynu gan Gyngor Abertawe i gynnal astudiaeth annibynnol ar welliannau posibl i lan môr Bae Abertawe rhwng y Ganolfan Ddinesig a Blackpill.

Rydym yn awyddus i glywed barn pobl sy'n defnyddio glan y môr, gan gynnwys trigolion lleol, i gael gwybod beth yw eich barn am lan y môr, y traeth a'r cyfleusterau ar bob ochr i'r ffordd fawr. Hoffem wybod a hoffech weld unrhyw welliannau.

Cymerwch yr arolwg

Focus Futures: cefnogaeth a ariennir yn llawn ar gyfer busnesau twristiaeth

Mae Focus Futures yn ceisio cefnogi cymunedau busnesau lleol drwy ddarparu cymysgedd o arweiniad a chyfleoedd ynghylch hunangyflogaeth a mentrau.

Mae cyngor busnes a ariennir yn llawn ar gael o'u cynghorwyr mewnol sy'n gallu cefnogi eich busnes p'un a ydych chi yn y broses cyn dechrau neu eisoes wedi sefydlu busnes.

Maent hefyd yn cynnig cymorth wrth wneud cais am gyllid, llunio cynllun busnes, sesiynau 1 i 1 a sesiynau grŵp gydag arbenigwyr, mynediad at weminarau a digwyddiadau, cyfleoedd i rwydweithio a dysgu sgiliau newydd a fydd yn eich helpu yn y gweithle.

MaeFocus Futures yn rhan o Busnes mewn Ffocws, menter gymdeithasol sy'n cefnogi twf mentrau yng Nghymru, ac ariennir y fenter gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Rhagor o wybodaeth am Focus Futures

Sioeau Busnes Cymru 2024 - 8 Hyd, Abertawe (9am-2pm)

Sioeau Busnes Cymru yw'r arddangosfa fwyaf yng Nghymru ar gyfer busnesau - mae'n cynnwys tair sioe genedlaethol.

Mae'r sioeau'n darparu llwyfan i fusnesau o bob maint arddangos eu cynnyrch a'u gwasanaethau.

Mae'r sioeau'n gyfle i chi ddysgu technegau busnes newydd, gwrando ar brif siaradwyr sy'n ysbrydoli, cael cyngor arbenigol, cael gwybodaeth gan gynrychiolwyr ac arddangoswyr eraill a gwella cysylltiadau busnes drwy rwydweithio.

Dyddiadau a lleoliadau eleni yw:

  • 14 Mai 2024 - Stadiwm Dinas Caerdydd, Caerdydd
  • 10 Gorffennaf 2024 - Parc y Scarlets, Sir Gaerfyrddin
  • 8 Hydref 2024 - Stadiwm Liberty, Abertawe

Mae'r sioeau am ddim os ydych chi'n cofrestru ymlaen llaw, ac mae cyfleoedd hefyd i arddangos.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: The Welsh Business Shows - Business Expo Wales | TWBS

Wythnos Hinsawdd Cymru: 11-15 Tach

Bydd Wythnos Hinsawdd Cymru yn ôl rhwng 11 a 15 Tachwedd 2024, gan ddod â phobl o bob rhan o Gymru ynghyd i rannu gwersi a ddysgwyd, i ysgogi syniadau ac annog trafodaethau ar ddatrysiadau i dracio newid hinsawdd.

Yr thema eleni yw 'Creu Dyfodol Hinsawdd Gwydn'.

Bydd yr Wythnos yn cyd-redeg ag uwchgynhadledd byd eang COP29 ac yn dilyn cyhoeddi strategaeth gwytnwch hinsawdd newydd i Gymru (sydd wedi'i drefnu ar gyfer yr Hydref). Bydd sesiynau'n myfyrio ar y strategaeth newydd a sut y gallwn gydweithio i ddarparu cynlluniau gwytnwch hinsawdd traws-sector. Bydd yr Wythnos hefyd yn arddangos prosiectau a rhaglenni sy'n cael eu darparu i greu gwytnwch i newid hinsawdd o fewn ein cymunedau a'r amgylchedd naturiol ar draws Cymru.

Bydd y digwyddiad eleni'n cynnwys:

  • Cynhadledd rithiol 5 diwrnod
  • Cronfa Sgyrsiau Hinsawdd
  • Digwyddiadau ymylol

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Hafan | Wythnos Hinsawdd Cymru 2024 (gov.wales)

Os hoffech rannu unrhyw syniadau ar gyfer yr Wythnos neu os oes gennych gwestiwn, cysylltwch â ni drwy e-bostio climatechange@gov.wales 

Mae'r Addewid Twf Gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau gweithredol tuag at wella eu cynaliadwyedd, arddangos yr effaith gadarnhaol maent yn ei gael ar bobl a lleoedd o'u cwmpas, yn ogystal ag ymuno â chymuned gynyddol o sefydliadau blaengar sy'n helpu Cymru i bontio dyfodol carbon isel. I gael rhagor o wybodaeth ewch i Addewid Twf Gwyrdd | Busnes Cymru (gov.wales)  

    Digwyddiadau gwych sy'n dod i Fae Abertawe yn 2024:

    4 Aws: Sioe Gŵyr
    7 Aws: Peter Pan, Castell Ystumllwynarth
    8 Aws: Romeo & Juliet, Castell Ystumllwynarth
    07-15 Med: Gŵyl Gerdded Gŵyr
    14 Med: Diwrnod Agored, Castell Ystumllwynarth
    15 Med: 10k Bae Abertawe Admiral
    11-15 Tach: Wythnos Hinsawdd Cymru
    07 Rhag 2024 - 05 Ion 2025: Jack and the Beanstalk, Theatr Y Grand Abertawe
    5-6 Gorff 2025: Sioe Awyr Cymru
    13 Gorff 2025: IronMan 70.3 Abertawe

    Oedd y diweddariad hwn ar y fasnach dwristiaeth yn ddefnyddiol? Rhannwch ef neu cysylltwch â Geraldine.Williams@abertawe.gov.uk

    Close Dewis iaith

    Rhannu'r dudalen hon

    Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

    Argraffu

    Eicon argraffu
    Addaswyd diwethaf ar 26 Gorffenaf 2024