Cais i drosglwyddo trwydded mangre
Os yw mangre wedi'i gwerthu neu os yw'n newid perchnogaeth, gallwch wneud cais i drosglwyddo'r drwydded mangre. Bydd angen i chi gael caniatâd gan ddeiliad presennol y drwydded.
I gael caniatâd gan ddeiliad presennol y drwydded, dylech ddefnyddio'r ffurflen Consent of premises licence holder to transfer (PDF, 39 KB). Bydd angen lanlwytho hon i'r ffurflen ar-lein, felly bydd angen i chi fod wedi cwblhau hon cyn i chi gwblhau'r cais i drosglwyddo trwydded mangre.
Os na allwch gael caniatâd, dylech ddarparu datganiad ynghylch pam nad yw wedi'i amgáu gyda'r cais.
Bydd angen i bob ymgeisydd unigol, gan gynnwys y rheini mewn partneriaeth nad yw'n bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, ond nid cwmnïau na phartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig, gynnwys dogfennau sy'n dangos yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig (darllenwch nodyn arweiniol 2)
Mae angen i chi hefyd ddarparu'r drwydded mangre bresennol neu reswm pam na ellir ei darparu.