
Ariannu Ewropeaidd ac Allanol
Rydym yn rhoi arweiniad a gwybodaeth ac yn dehongli amrywiaeth o ffynonellau ariannu Ewropeaidd a rhai eraill i fusnesau preifat, sefydliadau'r trydydd sector, unigolion ac asiantaethau'r sector cyhoeddus.
Gyda mynediad i'r wybodaeth ddiweddaraf ac arbenigedd mewn ariannu, rydym yn darparu gwasanaeth cynhwysfawr i'r bobl hynny sy'n datblygu prosiectau i nodi ariannu perthnasol yn ogystal â darparu gwasanaeth grantiau llawn. Gallwn hefyd ddarparu nifer o becynnau wedi'u teilwra a fydd yn helpu i reoli a chyflwyno eich prosiectau.
Gallwch gysylltu â ni ar unrhyw amser a gallwn eich helpu drwy wasanaeth uniongyrchol.