
Ffeithiau a ffigurau allweddol am Abertawe
Ystadegau sy'n ymwneud â gweithio yn Abertawe gan gynnwys poblogaeth, cymwysterau ac enillion.
Poblogaeth
Poblogaeth Abertawe yw 244,500 (2016), a rhagfynegir y bydd yn cynyddu i 270,000 erbyn 2036.
Ei phoblogaeth oedran gweithio (16-64 oed) ar hyn o bryd yw 155,300.
Poblogaeth y dalgylch
Mae dros 600,000 o bobl yn byw o fewn taith yrru 30 munud i Abertawe a 2 filiwn o fewn taith yrru awr.
Cymudo
Mae 15,500 o bobl yn cymudo i Abertawe bob dydd.
Enillion
Mae Abertawe'n cynnig cyfraddau cyflog cystadleuol - dros 13% yn is na chyfartaledd y DU.
Cyfartaledd enillion amser llawn blynyddol Abertawe yw £24,922 o'i gymharu â chyfartaledd y DU, sef £28,758.
Myfyrwyr
Mae Abertawe'n gartref i fwy na 24,000 o fyfyrwyr sy'n astudio ym Mhrifysgol Abertawe neu Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Cymwysterau
Mae 36% o breswylwyr yn gymwys hyd at lefel gradd neu'n uwch a 56% hyd at Safon Uwch (NVQ 3).
Cyflogaeth
Mae 107,700 o bobl mewn cyflogaeth yn Abertawe. Mae statws Abertawe fel canolfan fanwerthu, hamdden a gweinyddol rhanbarth de-orllewin Cymru'n cael ei adlewyrchu yn y ganran uchel o gyflogaeth yn y sectorau gwasanaeth (87.5%).
Mae bron 8,000 o fusnesau yn Abertawe a chyfanswm o 27,000 o fusnesau yn ardal ehangach Bae Abertawe.