Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG)

Asiantaeth weithredol y Swyddfa Gartref a sefydlwyd i helpu sefydliadau i wneud penderfyniadau recriwtio mwy diogel yw'r GDG.

Drwy ddarparu mynediad ehangach i wybodaeth cofnodion troseddol, mae'r GDG yn helpu cyflogwyr yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol i nodi ymgeiswyr a allai fod yn anaddas ar gyfer gwaith penodol, yn enwedig os yw'n cynnwys cyswllt gyda phlant neu aelodau diamddiffyn eraill o'r gymdeithas.  Bydd rhaid i bob sy'n dymuno gweithio gyda phlant neu aelodau diamddiffyn eraill o'r gymdeithas dderbyn datgeliad manwl.

Beth yw gwiriad GDG?

Beth gweithwyr yn derbyn gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwarhardd (Yn agor ffenestr newydd)

i sicrhau bod hawl gyfreithiol ganddynt i ymgymryd a rol eu swydd.  Bydd y gwasanaeth yn ymchwilio i hanes cofnod troseddol yr ymgeiswyr er mewn i'r cyflogwr allu gwneud penderfyniad recriwtio deallus ar sail yr wybodaeth y daethpwyd o hyd iddi yn y Gwiriad GDG.

Mae Cod Ymarfer y GDG a'r Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr yn nodi na chaniateir i gyflogwyr wahaniaethu yn erbyn gweithwyr sydd a chefndir troseddol a dylid trin ymgeiswyr yn deg.  Dylai cyflogwyr wneud penderfyniad recriwtio sy'n dibynnu ar a yw unrhyw wybodaeth droseddol a gyflwynwyd iddynt yn berthnasol i'r swydd a byddai'r ymgeisydd yn ei gwneud.

Mae'r mathau o wiriad GDG sydd ar gael fel a ganlyn:

  • gwiriad sylfaenol sy'n dangos yr euogfarnau heb eu disbyddu a rhybuddion amodol.
  • gwiriad safonol, sy'n dangos yr euogfarnau wedi'u disbyddu/heb eu disbyddu, rhybuddion, ceryddon a rhybuddion terfynol.
  • gwiriad manwl, sy'n dangos yr un peth â'r gwiriad safonol, yn ogystal ag unrhyw wybodaeth a gedwir gan yr heddlu lleol yr ystyrir ei bod yn berthnasol i'r rôl.
  • gwiriad manwl gyda gwiriad o'r rhestrau gwahardd sy'n dangos yr un peth â'r gwiriad manwl yn ogystal â p'un a yw'r ymgeisydd ar y rhestr wahardd i oedolion, y rhestr wahardd i blant neu'r ddwy.