Grant Cyfalaf Cyfleoedd Chwarae Cynaliadwy 2025 / 2026
Fel rhan o'r ddyletswydd ar awdurdodau lleol i ddarparu cyfleoedd chwarae digonol, mae cyllid ar gael i brosiectau chwarae a phartneriaid chwarae tuag at sicrhau eu bod yn gynaliadwy yn y dyfodol.
Mae hyn oherwydd arian sydd ar gael drwy Lywodraeth Cymru o'i chyllideb ar gyfer 2025 / 2026.
Felly, mae'n hanfodol bod unrhyw beth a ariennir yn ymwneud â nwyddau / gwasanaethau a dderbynnir cyn 31 Mawrth 2026.
Gallai cyfleoedd posib gynnwys:
- Cyfarpar / adnoddau ar raddfa fawr a fyddai'n anghymwys yn gyffredinol ar gyfer y Gronfa Chwarae Plant a Phobl Ifanc, ond sy'n helpu plant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol i gael mynediad hwylus at gyfleoedd chwarae.
- Mannau storio i annog chwarae yn y gymuned.
- Prynu cyfarpar i hwyluso chwarae yn y stryd.
- Prynu cyfarpar, megis gasebos neu adeileddau â thoeon, a fydd yn galluogi gwaith chwarae mynediad agored i barhau mewn tywydd gwael.
- Prynu cyfarpar cludadwy i alluogi chwarae peripatetig.
- Prynu dillad tywydd gwlyb i blant / staff.
Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr ac rydym yn annog prosiectau i feddwl yn agored. Yr ystyriaeth allweddol yw bod yn rhaid defnyddio'r cyllid yn ystod 2025 / 2026. Nid yw hynny'n golygu na fydd buddion yn ystod blynyddoedd i ddod, ond ni ellir prynu unrhyw eitem ar ôl 31 Mawrth 2026 o ganlyniad uniongyrchol i'r grant hwn.
Bydd y grant ar gyfer ceisiadau hyd at £5,000, ond byddwn yn ystyried ceisiadau am fwy na £5,000 a chynigion ar y cyd sy'n gallu dangos angen a gwerth am arian.
Bydd modd cyflwyno ceisiadau am y grant tan 12 ganol dydd, ddydd Llun 1 Rhagfyr 2025.