Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Gwasanaethau ailalluogi preswyl

Mae ein Gwasanaethau Ailalluogi cyfnod byr yn cynnig gofal arbenigol ac anogaeth i ddychwelyd i fyw'n annibynnol.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl sy'n gorfod mynd i gartrefi gofal ar ôl argyfwng neu gyfnod o salwch. Fel arfer, y cynllun cychwynnol yw dychwelyd gartref ond efallai na all hyn ddigwydd heb y gefnogaeth gywir. Gall pobl golli eu hyder a'u hannibyniaeth yn gyflym mewn cartref gofal a pharhau i fyw yno yn y tymor hir.

Mae ein Gwasanaeth Ailalluogi yn Nhŷ Bonymaen yn darparu gwasanaeth tymor byr i gefnogi pobl hŷn sy'n profi cyfnod o afiechyd gartref y mae angen mwy o gefnogaeth arnynt nag fel arfer wrth iddynt wella. Gallai hefyd fod ar gyfer rhywun sydd yn yr ysbyty y mae angen cefnogaeth arno i adennill sgiliau a hyder i allu dychwelyd adref i fyw'n annibynnol.

Mae'r gwasanaeth tymor byr hefyd yn rhoi cyfle i ni ystyried eich anghenion tymor hwy a'r gefnogaeth y gallai fod ei hangen arnoch pan fyddwch yn dychwelyd adref.  

Mae gennym hefyd Uned Asesu arbenigol sy'n cynnig gwasanaeth ailalluogi tebyg ar gyfer pobl â dementia yn Nhŷ Waunarlwydd.

Mae'r dwy wasanaethau yn darparu'r holl ofal a chefnogaeth broffesiynol angenrheidiol i fanteisio i'r eithaf ar eich annibyniaeth o gychwyn cyntaf y gwasanaeth, gyda'r nod clir o'ch cael yn ôl yn eich cartref cyn gynted â phosib.  Ni chodir tâl ar gyfer eich arhosiad yn ystod eich cyfnod asesu.  Gallai hyn fod yn unrhyw beth o ychydig o ddyddiau i hyd at chwe wythnos. Mae'n rhaid i chi gael eich cyfeirio i'r gwasanaeth hwn gan weithiwr cymdeithasol neu ymarferydd proffesiynol gofal iechyd.  

Cwestiynau Cyffredin am wasanaethau ailalluogi preswyl

Rhestr o'r cwestiynau mwyaf cyffredin rydym yn eu derbyn am wasanaethau ailalluogi preswyl.

Gwasanaethau ailalluogi preswyl ar gyfer pobl â dementia

Mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol wedi datblygu uned asesu â'r bwriad o helpu mwy o bobl â dementia i barhau i fyw gartref.