Gwobrau Chwaraeon Abertawe mewn cydweithrediad a Freedom Leisure
Mae gan Abertawe draddodiad balch o greu chwaraewyr gwych. Mae angen ymroddiad, penderfyniad ac oriau o waith caled i gynnal y ddinas chwaraeon rydym yn ei hadnabod ac yn dwlu arni.


Bob blwyddyn, rydyn ni'n cydnabod ac yn anrhydeddu eu cyflawniadau a'u cyfraniadau neilltuol i chwaraeon trwy Wobrau Chwaraeon Abertawe.
Mae categorïau gwobrau blaenorol yn cynnwys Chwaraewraig Iau'r Flwyddyn, Chwaraewr Iau'r Flwyddyn, Person Ifanc Ysbrydoledig y Flwyddyn, Gwirfoddolwr y Flwyddyn, Tîm Ysgol y Flwyddyn, Chwaraewr Anabl y Flwyddyn a Chwaraewr y Flwyddyn.
Cyfraniad Gydol Oes at Chwaraeon - bydd y categori hwn yn cydnabod un gwirfoddolwr blaenllaw am ei wasanaeth hir a'i gyfraniadau parhaus at chwaraeon yn ei gymuned leol. Ni dderbynnir enwebiadau ar gyfer y categori hwn a dewisir yr enillydd yn ôl disgresiwn y beirniaid.)
Yn anffodus, oherwydd pandemig 29/21, ni fydd unrhyw seremoni eleni.
Am fwy o wybodaeth am enwebu a chyfleoedd noddi, cysylltwch â Chwaraeon ac Iechyd Abertawe