Toglo gwelededd dewislen symudol

Hanes Teulu yn Archifau Gorllewin Morgannwg

Gweld beth sydd ar gael ac archwiliwch rai adnoddau defnyddiol i'ch helpu i olrhain eich achau.

Family History A
 Mae olrhain eich gwreiddiau teulu'n hobi boblogaidd iawn ac mae llawer o leoedd ar-lein lle gallwch ddechrau ymchwilio i'ch cyndadau. Efallai'ch bod eisoes wedi cael rhywfaint o help a chyngor i ddechrau ar y rhain. Ond y dechrau'n unig yw hyn: mae cymaint mwy o wybodaeth ar gael. Dyma'n tudalen i ddweud wrthych am y gwasanaethau rydym yn eu cynnig yma yn y Gwasanaeth Archifau i'ch helpu i olrhain eich achau.

Y Ganolfan Hanes Teulu
Darllen am y pwnc
Cofrestri plwyf: beth ydyn nhw a beth sydd ar gael?
Mynd ymhellach: pa gofnodion eraill allai fod yn ddefnyddiol?
Beth os na allaf ymweld â'r gwasanaeth?
Taflenni ac adnoddau


Y Ganolfan Hanes Teulu 

Mae'n Canolfan Hanes Teulu yn ystafell ddynodedig ag amrywiaeth o ffynonellau achyddol ar gael.

Canfod sut mae dod o hyd i ni a phryd rydym ar agor.

Family History B

Darllen am y pwnc: cyfeirlyfrau hanes teulu

Yn ein Canolfan Hanes Teulu mae llyfrau am bob agwedd ar achyddiaeth. Mae llyfrau am ddechrau, olrhain cyndadau a oedd o leoedd penodol neu a oedd yn gwneud swyddi penodol. Mae mapiau o blwyfi, manylion am lle gellir dod o hyd i gofnodion, cyfeiriaduron am glerigwyr ac uchelwyr, yn ogystal â'r rhifyn cyfredol a hen gopïau o'r cylchgrawn Family History. Cyfeirio'n unig y mae'r llyfrau ac maent ar gael i'w pori pan ymwelwch.

Chwilio am lyfr penodol? Rhowch gynnig ar ein catalog ar-lein i weld a yw gennym.

 Cofrestrau plwyf: beth ydynt a beth sydd ar gael?

Mae cofrestrau plwyf (bedyddiadau, priodasau a chladdedigaethau) yn ffynhonnell hanfodol ar gyfer olrhain eich achau, yn enwedig pan ewch yn ôl i ddechrau'r 19eg ganrif. Yma yn Archifau Gorllewin Morgannwg gallwch weld y cofrestrau plwyf ar gyfer ein hardal gyfan. Er mwyn cadw'r cofrestrau gwreiddiol, rydym wedi creu copïau union o gyfrolau ac maent ar gael i'w pori yn yr Ystafell Chwilio Archifau.

Ar ben hynny, mae Cymdeithas Hanes Teulu Morgannwg wedi creu mynegeion i'r rhan fwyaf o gofrestrau plwyf yn ein hardal. Mae'r rhain ar gael yma yn Archifau Gorllewin Morgannwg i hwyluso'ch chwiliad.

Rydym wedi llunio  Arweiniad i Gofrestrau Plwyf (PDF) [825KB] i ddweud wrthych am yr wybodaeth maent yn ei chynnwys a pha gofrestrau sydd gennym. Mae'n cynnwys hanes byr am bob plwyf ac eglwys yn ein hardal.

Yn ôl i'r brig

Family History C

Pa gofnodion eraill allai fod yn ddefnyddiol?

Yma yn yr archifau, rydym yn meddwl y gallai achyddiaeth ymwneud â chymaint mwy na rhestrau o enwau a dyddiadau. Beth am gymryd y cam nesaf a dysgu am sut byddai bywyd wedi bod i'ch cyndadau? Cewch wybod lle roeddent yn byw a sut roedd hi'n arfer bod, sut byddai eu swyddi wedi bod a sut roedd eu cymuned yn byw. Dyma rai o'r mathau o ddogfennau a all helpu:

  • Mae mapiau'n dangos i chi sut roedd y lleoedd lle roedd eich cyndadau'n byw.
  • Mae cyfeiriaduron masnach yn gallu'ch helpu i olrhain preswylfa neu fusnes a rhoi gwybodaeth am y lleoedd lle roedd pobl yn byw.
  • Mae cofrestrau etholiadol llyfrau trethi'n gallu dangos i chi pwy oedd yn byw lle.
  • Roedd mapiau degwm yn cael eu llunio ar gyfer (bron) pob plwyf yn y 1840au. Maent yn dangos pwy oedd y ffermwyr a'r tirfeddianwyr. Os oedd eich teulu'n ffermwyr, mae hon yn ffynhonnell ddefnyddiol iawn. Here is a guide to the tithe maps for our area. (PDF) [450KB]
  • Mae ffurflenni rhentu ystâd a threth tir yn rhoi mwy o restrau o dirfeddianwyr a ffermwyr.  Dyma arweiniad i gofnodion treth tir ar gyfer ein hardal. (PDF) [812KB]
  • Gall cofnodion ysgol roi gwybodaeth ddefnyddiol i chi, gan gynnwys manylion am pryd roedd eich cyndadau yn yr ysgol a sut roedd bywyd yn yr ysgol. Rydym wedi llunio  Arweiniad i gofnodion ysgol (PDF) [2MB].
  • Oedd hi'n galed ar eich cyndadau? Gallent fod wedi treulio cyfnod yn y tloty. Mae'r cofnodion hyn gennym hefyd.  Dyma arweiniad i gofnodion tloty yn ein hardal. (PDF) [293KB]
  • Wnaeth eich cyndadau dorri'r gyfraith? Mae cylchlythyrau, cofnodion llys ynadon, cofnodion carchar a ffotograffau (os ydych yn lwcus) o garcharorion i ddweud mwy wrthych.

Yn ôl i'r brig

Taflenni ac adnoddau