Hyfforddiant llywodraethwyr - hunan-adolygu a rolau a chyfrifoldebau
Mae'r Tim Ysgolion a Llywodraethwyr yn cynnig sesiynau hyfforddi pwrpasol.
Hunan-adolygu
Darperir y sesiwn yn eich ysgol a gofynnir i lywodraethwyr gyflawni cyfres o gwestiynau mewn grwpiau. Mae'r grwpiau'n rhoi adborth i'r holl lywodraethwyr a chynhyrchir cynllun gweithredu ar sail yr atebion a roddir. Dyma enghreifftiau o gwestiynau i'w hateb:
- Ydy cyfarfodydd ein corff llywodraethu'n cael eu cynnal yn effeithlon?
- Ydy maint, cyfansoddiad a strwythur pwyllgorau ein corff llywodraethu'n addas at y diben?
- Sut ydyn ni'n gwrando ar ein disgyblion, ein rhieni a'n staff ac yn eu deall?
Yr arfer gorau yw cyflawni ymarferion hunan-adolygu'n rheolaidd er mwyn nodi cryfderau a meysydd i'w gwella, y gellir ymdrin a hwy drwy hyfforddiant, ceisiadau am fwy o wybodaeth neu drwy fabwysiadu arferion gweithio gwahanol. Mae enghreifftiau o sesiynau ar feysydd i'w gwella yn cynnwys cynllunio olyniaeth, cyfarfodydd mwy amserol ac adolygu pwyllgorau.
Hyfforddwyr: Claire Abraham (Swyddog Cefnogi Ysgolion a Llywodraethwyr) a Kate Phillips (Pennaeth yr Uned Cefnogi Ysgolion).
Rolau a chyfrifoldebau
Mae'r sesiwn hon yn cynnwys hyfforddiant gloywi ar y canlynol:
- Rolau statudol y corff llywodraethu
- Cyfrifoldebau craidd
- Pwyllgorau (statudol ac anstatudol)
- Cefnogoaeth a her
Rydym hefyd yn gallu addasu'r sesiwn i gynnwys meysydd penodol yn eich corff llywodraethu y mae angen sylw arnynt ee. cyfrinachedd, cwynion, egwyddorion ymddygiad ar gyfer eich llywodraethwyr.