Toglo gwelededd dewislen symudol

Larymau cymunedol (lifelines)

Mae larymau cymunedol (lifelines) yn darparu cyswllt ffôn mewn argyfwng i bobl hyn ac anabl.

Mae larym yn galluogi rhywun i gysylltu â'r gwasanaethau meddygol a brys yn gyflym ac yn ddibynadwy, hyd yn oed os nad ydynt yn gallu cyrraedd ffôn neu'n methu siarad.

Mae defnyddwyr y gwasanaeth ag uned larwm cymunedol wedi'i gosod yn eu cartref sy'n gysylltiedig â'r llinell ffôn. Mae'r uned hon yn cael ei rheoli gan radio drwy dlws crog sy'n cael ei wisgo o amgylch y gwddf neu wedi'i glymu i'r dillad. Os bydd y defnyddiwr yn cwympo neu am ba reswm bynnag bod angen help arno, mae ef neu hi'n gwasgu'r botwm ar y tlws crog.

Mae'n anfon signal i'r ffôn sy'n cysylltu â Chanolfan Reoli'r Gwasanaeth Larwm Cymunedol, lle mae rhywun ar ddyletswydd 24 awr y dydd, 365 niwrnod y flwyddyn.

Y tâl blynyddol yw:

£175.83 heb gynnwys TAW.

£211.00 yn cynnwys TAW. Mae'r tâl hwn yn berthnasol os ydych chi'n atebol i dalu TAW yn unig, er enghraifft, ac nad ydych wedi cwblhau ffurflen eithrio TAW (gellir ei gwblhau yn ystod eich cais ar-lein).

Mae'r pris yn ddilys o Ebrill 2024 ac mae'n destun adolygiad blynyddol fel a nodwyd ym mholisi codi tâl cytunedig y cyngor. Mae'r cyngor yn cadw'r hawl i amrywio taliadau o'r fath trwy adolygiad blynyddol a chydag o leiaf 14 diwrnod o rybudd ysgrifenedig.

 

Cwestiynau cyffredin (llinell fywyd) y gwasanaeth larwm cymunedol

Rhestr o gwestiynau cyffredin am y gwasanaeth a sut mae'n gweithio.

Amodau a thelerau gwasanaeth

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen yr amodau a'r telerau a osodir gan y Gwasanaeth Larymau Cymunedol.

Gwybodaeth bwysig - defnyddio eich cyfarpar

Gwybodaeth bwysig am ddefnyddio eich larwm.

Cyflwynwch gais am larwm cymunedol (llinell bywyd)

Ffurflen gais gychwynnol llinell bywyd.
Close Dewis iaith