Mae'r Llyfrgell Ganolog yn symud i'r Storfa - rhagor o wybodaeth
Bydd y Llyfrgell Ganolog bresennol yn y Ganolfan Ddinesig yn cau o ddydd Llun 20 Hydref er mwyn rhoi'r cyfle i staff baratoi cyn symud.
Bydd hyn yn cynnwys adleoli mwy na 60,000 o lyfrau a miloedd o eitemau eraill fel mapiau a rholiau microffilm, yn ogystal â sefydlu gwasanaethau a mannau'r llyfrgell yn Y Storfa.
Bydd yr adeilad a adeiladwyd at y diben yn hen uned BHS ar Stryd Rhydychen yn darparu llyfrgell fodern yn ogystal ag archifau, Opsiynau Tai, Gyrfa Cymru, mannau cymunedol, canolfan gyswllt y cyngor a gwasanaethau eraill.
Pryd bydd y llyfrgell newydd yn agor yn Y Storfa?
Bydd y llyfrgell newydd yn Y Storfa'n agor yn ddiweddarach eleni. Caiff yr union ddyddiad ei gyhoeddi'n fuan.
Beth sy'n digwydd i aelodau'r llyfrgell a benthyciadau yn ystod y broses o symud?
Caiff yr holl aelodau presennol eu trosglwyddo'n awtomatig i'r llyfrgell newydd. Gallwch ddychwelyd eitemau a fenthycwyd i lyfrgelloedd eraill Abertawe wrth i'r llyfrgell fod ar gau.
Ble gallaf fenthyca a dychwelyd llyfrau wrth i'r llyfrgell ganolog fod ar gau?
Gallwch barhau i fenthyca a dychwelyd llyfrau yn unrhyw un o'r 16 o lyfrgelloedd cymunedol eraill yn Abertawe. Bydd gwasanaethau ar-lein Llyfrgelloedd Abertawe'n parhau i fod ar gael 24/7 ar gyfer e-lyfrau, llyfrau llafar a chylchgronau digidol. Byddwn yn rhoi dyddiad dychwelyd hirach ar lyfrau, gallwch eu hadnewyddu ar-lein a benthyca mwy o eitemau. Gallwch hefyd fynd i unrhyw lyfrgell gymunedol arall i ddefnyddio cyfrifiaduron personol ac argraffwyr.
Beth fydd yn digwydd i ddigwyddiadau a grwpiau sy'n cael eu cynnal yn y llyfrgell ganolog ar hyn o bryd?
Bydd digwyddiadau fel amser rhigwm, grwpiau darllen a sesiynau cefnogaeth ddigidol ar gael yn ein llyfrgelloedd cymunedol.
Ble gallaf weld y newyddion diweddaraf?
Caiff gwybodaeth gyfredol am y symudiad, dyddiadau agor a gwasanaethau dros dro ei rhannu ar wefan Cyngor Abertawe a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol Gwasanaeth Llyfrgelloedd Abertawe.
Eich Llyfrgell Ganolog newydd
Byddwch yn gallu defnyddio'r Llyfrgell Ganolog newydd yn Y Storfa bob diwrnod o'r wythnos! Fel nawr, gall oriau fod yn wahanol yn ystod gwyliau cyhoeddus. Bydd llyfrgell y Ganolfan Ddinesig yn symud i'r Storfa. Mae'r llyfrgell wedi bod ar agor chwe diwrnod yr wythnos; roedd hi ar gau bob dydd Llun.
Bydd trefn hunanwasanaeth arloesol, heb staff ar waith bob dydd Llun yn y llyfrgell newydd a fydd yn eich galluogi i:
- fenthyca, dychwelyd ac adnewyddu eitemau i'w benthyg - dewch â'ch cerdyn llyfrgell
- cyrchu catalog ar-lein Llyfrgelloedd Abertawe
- casglu eitemau sydd ar gadw pan fyddant ar gael
- argraffu - drwy daliad ar-lein
- sganio - ar sganiwr gwastad
- defnyddio dyfeisiau cyhoeddus, gan gynnwys cyfrifiaduron a thabledi Hublet, er mwyn cael mynediad at y rhyngrwyd ac at ddibenion eraill
- defnyddio WiFi am ddim
- cael mynediad at fapiau
- cael mynediad at bapurau newyddion ar ficroffilm
- ymuno â'r llyfrgell ar-lein
- defnyddio ardaloedd cyhoeddus Y Storfa
Bydd y Llyfrgell Ganolog newydd yn cael ei staffio chwe diwrnod yr wythnos, fel y mae nawr, a bydd yn cynnig ei hamrediad llawn o wasanaethau.
Bydd ei horiau agor yr un peth â rhai'r Ganolfan Ddinesig (ynghyd â'r hunanwasanaeth ar ddydd Llun):
- Dydd Llun - 9.00am - 5.30pm (hunanwasanaeth yn unig)
- Dydd Mawrth - 9.00am - 5.30pm
- Dydd Mercher - 9.00am - 7.00pm
- Dydd Iau - 9.00am - 5.30pm
- Dydd Gwener - 9.00am - 5.30pm
- Dydd Sadwrn - 10.00am - 4.00pm
- Dydd Sul - 10.00am - 4.00pm
