Toglo gwelededd dewislen symudol

Llyn Cychod Singleton

Dewch i reidio pedalo a theithio o gwmpas y llyn neu rhowch gynnig ar chwarae golff gwallgof gyda'r teulu.

Singleton Boating Lake

Singleton Boating Lake
Mae Llyn Cychod Singleton ar waelod Lôn Sgeti rhwng Ysbyty Singleton a Phrifysgol Abertawe, o fewn pellter cerdded i Barc Singleton.

Yn ogystal â haid o elyrch preswyl, mae'r llyn yn gartref i amrywiaeth o bedalos ceir, elyrch, dreigiau a phedalos llai llachar eu lliw. Mae cwrs golff gwallgof lliwgar 18 twll ar y safle gyda meinciau picnic a lle chwarae antur i blant.

Mae llyn cychod Singleton a golff gwalgoff wedi gorffen ar gyfer y gaeaf, bydd yn ôl yng ngwanwyn 2024, dyddiad i'w gadarnhau.

 

Prisiau Golff Gwallgof

  • Safonol -  £4.00
  • Consesiwn (dan 16 oed, myfyrwyr a'r henoed) - £3.50
  • PTL £3.00
  • Tocyn teulu (2 oedolyn a 2 blentyn) - £11.50

Prisiau'r Llyn Cychod

Reid 30 munud, pris fesul pedalo. Mae siacedi achub yn ffitio plant 2 oed ac yn hŷn, bydd cynorthwywyr yn sicrhau eu bod yn ffitio.
14 oed yw'r isafswm oedran ar gyfer mynd â'r cychod allan heb oruchwyliaeth gan oedolyn. 

  • Pedalo safonol - £9.50
  • Pedalo Consesiynol (dan 16 oed, myfyrwyr a'r henoed) - £7.00
  • Pedalo PTL - £5.50

Mae'r ddau safle'n gweithredu yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru ac mae'r mesurau priodol ar waith.

Pysgota

Mae'r llyn hefyd yn cynnwys nifer o gerpynnod, merfogioaid, ysgrytennod a chochiaid. Dim ond ar rai adegau y gellir pysgota gan fod y pedalos yn gweithredu ar y llyn. Rhaid bod gennych drwydded gwialen bysgota.

Hygyrchedd
Mae Llyn Cychod Singleton yn hygyrch i bob grŵp anabledd.

I gael rhagor o wybodaeth am Lyn Cychod Singleton outdoorattractions@swansea.gov.uk

Close Dewis iaith