Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Microfentrau

Beth yw microfenter?

Gwasanaethau bach, cymunedol yw microfentrau sy'n gallu darparu cefnogaeth sy'n bersonol ac yn hyblyg. Gall preswylwyr gael mynediad at ficrofentrau mewn dwy ffordd:

  • Yn breifat, lle mae'r unigolyn yn talu am y gwasanaeth ei hun
  • Neu drwy ddefnyddio taliadau uniongyrchol naill ai i'r person y mae angen y gefnogaeth arno neu ei ofalwyr.Os yw unigolyn yn cael asesiad gydag ymarferydd gwaith cymdeithasol, a nodir eianghenion gofal a chefnogaeth, gall ddefnyddio microfentrau i ddiwallu'r anghenion hynny. Gwneir hyn drwy'r broses Taliadau Uniongyrchol.

Gall y gwasanaethau hyn helpu gyda glanhau, mynd hwnt ac yma, gofal personol, golchi a sychu dillad, garddio a llawer mwy (ceir mynediad at rai o'r gwasanaethau hyn yn breifat yn unig)

Mae'r rhestr o'r gwasanaethau sydd ar gael yn dal i dyfu ac mae Cyngor Abertawe yn annog pobl i sefydlu microfentrau newydd yn yr ardal.

Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe (CGGA) - Cyfeiriadur Microfentrau

Mae prosiect 'Communities Together' CGGA yn cefnogi unigolion yn Abertawe i ddatblygu microfentrau.
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 31 Hydref 2024