Nam ar y golwg
Gwybodaeth i bobl sy'n ddall, rhannol ddall neu'n colli eu golwg.
Cymorth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae gan Wasanaethau Cymdeithasol Abertawe Dîm Gwasanaethau Synhwyraidd sy'n cynnwys gweithwyr cymdeithasol a rheolwyr gofal sy'n cefnogi pobl sydd wedi colli golwg. Gall ddarparu amrywiaeth o wybodaeth a chefnogaeth ymarferol. Efallai y cewch eich cyfeirio i'r Gwasanaethau Cymdeithasol gan y Clinig Llygaid yn Ysbyty Singleton neu gallwch gyfeirio'ch hunan neu rywun rydych yn pryderu amdano drwy gysylltu â Thîm Gwasanaethau Synhwyraidd.
Mae'r tîm yn gweithio yng Nghanolfan Adnoddau Bro Tawe ac yn gallu ymdrin ag unrhyw ymholiadau sy'n ymwneud â namau synhwyraidd o 9.00 am tan 1.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Ffôn: 01792 315969 (Llinell ddyletswydd)
Cyfnewid testun: 18001 01792 315969
Ffacs: 01792 785021
Ffôn tecst: 07919 626434
E-bost: timygwasanaethausynhwyraidd@abertawe.gov.uk
Facetime: sensory.services@swansea.gov.uk
Skype: sensory.services.swansea
Mae Gwasanaethau ar gyfer Pobl â Nam ar y Golwg yn esbonio mwy am rôl y Tîm Gwasanaethau Synhwyraidd. Hefyd gallwch lawrlwytho/argraffu'r wybodaeth hon ar ffurf ffeithlen
/opt/www/content/media/pdf/Canllaw i Wasanaethau ar gyfer Pobl â Nam ar y Golwg (Ffeithlen 020) (PDF, 36KB)Yn agor mewn ffenest newydd
Mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol hefyd yn gallu cynnig cefnogaeth adsefydlu byr dymor i bobl â nam ar y golwg. Y nod yw galluogi pobl i ddod o hyd i ffyrdd newydd o wneud pethau y maen nhw'n cael trafferth gyda hwy, ac i chwilio am atebion ymarferol i annog mwy o annibyniaeth. Bydd rhaid i chi gael asesiad o'ch anghenion cyn defnyddio'r gwasanaeth yma. Mae ein ffeithlen Asesiadau Gofal a Chefnogaeth i Oedolion yn rhoi mwy o wybodaeth am asesiadau. Hefyd gallwch lawrlwytho/argraffu'r wybodaeth hon ar ffurf ffeithlen
Y Gwasanaethau Cymdeithasol: Asesiadau Gofal a Chefnogaeth i Oedolion (Ffeithlen 001) (PDF, 116KB)Yn agor mewn ffenest newydd
Cofrestru yn ddall neu'n rhannol ddall
Er mwyn cofrestru bydd angen i chi gael tystysgrif CVI (Tystysgrif Nam ar y Golwg) oddi wrth arbenigwr y llygaid.
Mae cofrestru'n wirfoddol. Mae'r rhan fwyaf o'r gwasanaethau, y budd-daliadau a'r consesiynau sydd ar gael i bobl anabl yn gofyn bod pobl yn bodloni'r meini prawf i gofrestru'n unig ac nid o angenrheidrwydd i gofrestru. Er hynny, mae rhai budd-daliadau sydd ar gael i bobl sydd wedi cofrestru yn unig.