Toglo gwelededd dewislen symudol

Parc Gwledig Dyffryn Clun

Parc Gwledig Dyffryn Clun yw'r unig barc gwledig yn y ddinas. Mae ei 700 erw yn cynnwys amrywiaeth mawr o dirweddau, o lechweddau agored a choediog, ceunentydd a chwareli serth i ddolydd a gwaelod gwlyb y dyffryn.

Mae'r gwahanol dirweddau hyn yn cynnig sawl cynefin ar gyfer amrywiaeth mawr o blanhigion ac anifeiliaid.

Gellir gweld sawl math o goedwig: mae coed derw a bedw trwchus yn gwrthgyferbynnu â'r goedwig ffawydd olau. 

Mae adar i'w gweld ym mhob man: gellir gweld rhywogaethau cyffredin, megis y siglen lwyd, y dryw, cnocell y cnau, y frongoch a chnocell y coed, ynghyd â rhai mwy anarferol megis y troellwr mawr, y penddu a'r boncath. Mae'r mamaliaid bach sydd i'w gweld yn yr ardal yn cynnwys gwiwerod llwyd, moch daear a llwynogod.

Ceir nifer o chwareli o hyd. Er enghraifft, yn ogystal â chynnig golygfeydd ysblennydd, mae Chwarel Clun yn y gogledd o bwysigrwydd daearegol sylweddol.

Mae dwr yn elfen ddeniadol o'r parc hefyd. Mae afon Clun yn gwau drwy'r ardal a gellir gweld sawl llyn a phwll deniadol. Yn ogystal, ceir sawl cwrs dŵr artiffisial.

Hanes

Tan yn ddiweddar, roedd Dyffryn Clun yn ardal ddiwydiannol bwysig. Gellir gweld llawer o dreftadaeth ddiwydiannol yn y parc o hyd. Cloddio am lo oedd y diwydiant cyntaf yn y dyffryn, gan ddechrau mor gynnar â1305 ond dim ond yn yr unfed ganrif ar bymtheg y dechreuwyd cloddio am lo ar raddfa fawr. Roedd y glo'n cael ei gloddio o byllau cloch, dull peryglus o weithio a oedd yn golygu cloddio ceudwll mor fawr â phosib heb achosi i'r to gwympo. Gellir gweld y rhain yng Nghoedwig Clun, yn enwedig ar lethrau gorllewinol y dyffryn. Yn sgîl y rhain daeth pyllau mwy megis glofeydd Clun ac Ynys. Mae hen beiriant weindio i'w weld o hyd yng nglofa Ynys.

Arweiniodd twf y diwydiant glo, ynghyd â digonedd o ddeunyddiau crai lleol, at ddatblygu diwydiannau cysylltiedig. Adeiladwyd gweithfeydd haearn ger Chwarel Clun yn y gogledd ac mae rhannau sylweddol o hen weithfeydd cemegol a oedd yn gweithredu oddi ar Lôn y Felin yn y de i'w gweld o hyd.

Roedd diwydiant gwneud brics, a sefydlwyd ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn parhau i ffynnu tan ganol yr ugeinfed ganrif a chafodd y gweithfeydd olaf eu dymchwel ym 1950.

Roedd angen trafnidiaeth ar y gweithgarwch diwydiannol. Adeiladwyd tramffordd i gysylltu â rheilffordd y Mwmbwls ym 1804 a datblygwyd rhwydwaith o reilffyrdd yn sgîl hyn. Adeiladwyd sawl camlas hefyd a gellir gweld olion llawer ohonynt heddiw.

Roedd hen reilffordd Llundain, Canolbarth Lloegr a'r Alban o Victoria Abertawe i'r Amwythig yn dod trwy'r cwm. Mae gwely'r cledrau bellach yn rhan o brif lwybr cerdded a llwybr beicio'r parc.

Dynodiadau

  • Mae rhan o'r safle yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Gŵyr (AoHNE)
  • Mae Gwarchodfa Natur Leol Cors Cilâ o fewn ffiniau'r parc

Henebion

  • Pwll Arsenig a Chopr Coedwig Clun
  • Lefel Glo Coedwig Clun
  • Tomennydd Siafft Dyffryn Clun
  • Pwll a Ffrwd Ynys
  • Offer Weindio Ager Coedwig Clun

Cyfleusterau

  • Llwybr Pwmpio BMX
  • Llwybr Ynys Newydd ac ardal chwarae (mynediad oddi ar Heol Ynys Newydd) (PDF) [468KB]
  • Perllan Dyffryn Clun (mynediad oddi ar Heol Ynys Newydd)
  • Mae cwrs cyfeiriannu parhaol yn Nyffryn Clun. Mae am ddim ac ar agor ar bob adeg.
  • Parcio - gweler yr wybodaeth fynediad isod
  • Mae toiledau gerllaw (gyferbyn â'r maes parcio ar Heol y Mwmbwls) yn Lido Blackpill
  • Mae caffi (The Junction) gerllaw yn Lido Blackpill
  • Tafarnau; y Railway Inn yng Nghilâ Uchaf a'r Woodman ar Heol y Mwmbwls

Gwybodaeth am fynediad

Cyfeirnod Grid SS610915
Map Explorer yr Arolwg Ordnans 165 Abertawe

Teithio llesol

Cerddwyr

Mae sawl mynedfa i gerddwyr gan y Parc Gwledig hwn, gan gynnwys (gan ddechrau o'r de ac yn mynd i gyfeiriad gwrth glocwedd o gwmpas y parc):

  • Oddi ar Lôn y Felin yn Blackpill (oddi ar Heol y Mwmbwls, yr A4067)
  • Heol y Mwmbwls (A4067) yn Blackpill
  • Heol Derwen Fawr (de)
  • Heol Ynys Newydd (oddi ar Heol Derwen Fawr B4436)
  • Oddi ar Ffordd Aneurin
  • Lôn yr Olchfa oddi ar Heol Gŵyr ar ochr orllewinol Ysgol yr Olchfa
  • O Rodfa Woodside oddi ar Heol Gŵyr yng Nghilâ
  • O Heol Dyffryn Clun oddi ar Heol Gŵyr yng Nghilâ Uchaf
  • Oddi ar Heol Gŵyr ger y Railway Inn yng Nghilâ Uchaf

Ceir rhwydwaith o lwybrau cerdded ar draws y safle.

Ceir

Ceir dau brif faes parcio - oddi ar y B436, ger yr A4067 (Heol y Mwmbwls) neu ar Heol Ynys Newydd ger Safle Amwynderau Dinesig Derwen Fawr, oddi ar y B436. Mae maes parcio bach hefyd ger y Railway Inn yng Nghilâ Uchaf.

Bysus

Ceir safleoedd bysus ger y mynedfeydd yng Nghilâ, Blackpill, oddi ar Ffordd Aneurin/Rhodfa Rhyd-y-Defaid, ger Ysgol yr Olchfa, (Heol Gŵyr).

Beicio

Mae llwybr beicio 4 o'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn dilyn llinell yr hen reilffordd drwy'r parc, o Blackpill drwy Gilâ, Tregŵyr, Casllwchwr a'r tu hwnt.

Llwybrau ceffyl

Mae sawl llwybr ceffyl yn mynd drwy'r parc.

Cwestiynau cyffredin

Beth ydych chi'n ei wneud i gefnogi bywyd gwyllt yn y parc gwledig?

Yn fyd-eang, yn genedlaethol ac yn lleol, nid yw bywyd gwyllt mor gyffredin ag y bu yn y gorffennol - ac adlewyrchir hyn ym mannau naturiol Abertawe.  Mae'r rhesymau dros golled yn dra hysbys ac yn cynnwys newid yn yr hinsawdd, darnio a cholli cynefinoedd, dirywiad cynefinoedd, erledigaeth etc. Mae Parc Gwledig Dyffryn Clun yn cynnal ystod ddiddorol o fywyd gwyllt, ond heb fonitro cywir nid oes modd dweud a oedd bywyd gwyllt yn fwy cyffredin yn y gorffennol nag y mae ar hyn o bryd. Yn sicr nid yw rhai rhywogaethau a oedd ar un adeg yn bresennol wedi'u gweld yn ddiweddar, fel iâr fach yr haf britheg y gors a oedd unwaith yn bresennol yng Ngwarchodfa Natur Leol Cors Cilâ o fewn y parc gwledig. Mae gwaith wedi dechrau'n ddiweddar i gael gwared ar rai o'r prysgwydd yn y warchodfa, a fydd yn creu cynefin addas i nifer o rywogaethau di-asgwrn-cefn, hyd yn oed iâr fach yr haf britheg y gors o bosib.

O fewn y parc ehangach gosodwyd nifer o focsys bywyd gwyllt yn ddiweddar ar gyfer trochwyr, tylluanod brych a gwynion, golfanod, ystlumod a draenogod, y gwyddys bod pob un yn bresennol yn y Parc Gwledig. Mae dyfrgwn yn chwilota am frithyll brown yn afon Clun a gwelir glas y dorlan yn hela dros y pwll pysgota. Mae'r Parc Gwledig hefyd yn gartref i rywogaeth o lwydni llaid nad yw'n bodoli yn unman arall yn y byd - rhywogaeth nad yw'n gyfareddol ond mae'n sicr yn anhygoel! Dyma rai o'r rhywogaethau sy'n byw yn y Parc Gwledig.

Mae Cyngor Abertawe yn bwriadu cadw amrywiaeth o gynefinoedd o fewn y Parc Gwledig, ac er bod ystod amrywiol eisoes, mae gwaith i'w wneud i gynyddu eu bioamrywiaeth a'u cadernid i newid.

Beth sy'n digwydd gydag afon Clun?

Mae Cyngor Abertawe yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n cynnal astudiaeth o ffyrdd o wneud afon Clun yn fwy abl i ddelio â digwyddiadau glaw trwm, yn ogystal â pha fesurau y gellir eu cyflawni i helpu i fynd i'r afael â'r llygredd yn yr afon o safleoedd tirlenwi ac o bosib yr hen byllau glo. Mae llawer o ymwelwyr yn sylwi ar yr hidlad oren llachar sy'n gorchuddio rhai o'r cyrsiau dŵr yn y Parc. Nid yw hyn yn wenwynig o gwbl, ond mae'n broblem gan ei fod yn mygu wyau pysgod, gan achosi iddynt farw.  

Gellir gweld canclwm Japan a Jac y Neidiwr yn y parc gwledig, beth ydych chi'n ei wneud i'w hatal?

Yn 2021 a 2022, cynhaliodd Prosiect Cymunedol Dyffryn Clun arolwg llawn o'r parc gwledig cyfan, gan fapio'r achosion o ganclwm Japan. Mae Cyngor Abertawe wedi sicrhau tair blynedd o gyllid gan Lywodraeth Cymru i'w drin. Roedd y flwyddyn gyntaf o driniaeth yn 2022. Caiff y canclwm ei drin yn yr hydref cyn i'r planhigyn gychwyn cyfnod o gysgadrwydd dros y gaeaf. Rhagwelir y bydd gostyngiad o ran helaethder a bywiogrwydd y bob gwanwyn. Mae'n bosib y bydd angen mwy na thair blynedd o driniaeth, a bydd Cyngor Abertawe yn ceisio sicrhau cyllid i barhau â'r driniaeth os felly y mae.

Peidiwch â thorri, sathru ar neu fel arall ymyrryd â chanclwm Japan - drwy wneud hynny mae hyn yn cyfyngu ar effeithiolrwydd y chwynladdwr, gan wneud cyfnod y driniaeth yn hwy, yn ddrutach ac yn llai tebygol o lwyddo. Rhaid i'r planhigion fod yn iach fel eu bod yn tynnu'r chwynladdwr i mewn i'w systemau gwreiddiau dwfn ac yn lladd y planhigyn cyfan, nid dim ond y rhannau uwchben y ddaear.

Gall Jac y Neidiwr, er ei fod yn hawdd cael gwared arno (torri neu dynnu), ailheigio ar ardal yn hawdd. Mae hyn oherwydd bod yr hadau'n cael eu cludo gan ddŵr gan amlaf, ac felly mae'n fwyaf presennol ar hyd cyrsiau dŵr. Gall yr hadau barhau yn y pridd am 18 mis. Felly i fod yn llwyddiannus (h.y. peidio ag ailheigio ar ardal) rhaid i unrhyw raglen reoli gynnwys dalgylch y cwrs dŵr cyfan a chael ei chynnal yn gyson ac yn llwyr am 2 - 3 blynedd. Byddai angen sicrhau caniatâd gan dirfeddianwyr preifat y tu allan i'r Parc Gwledig. Nid menter fach yw hon o ystyried maint y gwaith dan sylw.  Ond bydd Cyngor Abertawe'n ymchwilio i ddichonoldeb rhaglen reoli unwaith y byddwn wedi gorffen y driniaeth canclwm Japan.

Mae coed marw a phrysgwydd ym mhobman - pam?

Lle bo'n bosib, caiff prysgwydd a choed sydd wedi cwympo eu symud oddi ar y safle neu eu prosesu ar y safle i greu pentyrrau cynefin. Mae cyfyngiadau cyllidebol ac adnoddau'n golygu nad yw bob amser yn bosib gwneud hynny. Fodd bynnag, mae'r cynefinoedd yn y parc gwledig yn helaeth ac nid yw gadael deunydd wedi'i dorri ar ffiniau'r llwybrau yn effeithio arnynt yn sylweddol.

Mae llawer o'r coed yn y blanhigfa ffawydd yn agosáu at ddiwedd eu hoes. Ar ôl i goeden farw, mae'r canopi'n agor gan ganiatáu i oleuni dreiddio i'r llawr lle mae hadau segur yn blodeuo. Rydym yn ceisio gadael cynifer o goed marw ag sy'n ddiogel i wneud hynny. Mae coed marw sydd wedi disgyn ac sy'n sefyll yn rhannau pwysig o goetir gan ddarparu cynefinoedd i rywogaethau niferus ac annog ecosystem coetir iach a chytbwys.

Mae llawer o iorwg a mieri yn y parc gwledig, beth sy'n cael ei wneud i'w rheoli?

Mae iorwg yn gynefin ac yn adnodd pwysig i lawer o rywogaethau - mae iorwg trwchus yn darparu cynefin clwydo i ystlumod sy'n byw mewn holltau ac yn yr hydref mae'n darparu ffynhonnell neithdar hwyr i lawer o greaduriaid di-asgwrn-cefn. Er y gallai fod pocedi o dyfiant iorwg trwchus yn y parc gwledig, mae llawer mwy o ardaloedd lle nad yw'n bresennol neu'n anaml yn bresennol; mae ei bresenoldeb o fewn y parc gwledig yn dystiolaeth o ecosystem coetir iach. Fodd bynnag, i ddiogelu'r hen goed afalau yn Ynys Newydd gwnaed rhywfaint o waith i gael gwared ar yr iorwg a thynnu rhai o'r canghennau isaf. Felly, lle bo'n briodol i wneud hynny, bydd gwaith adfer yn cael ei wneud. 

Mae miaren yn gynefin ac yn adnodd hynod werthfawr i rywogaethau coetirol, gan ddarparu cynefin nythu ar gyfer adar a mamaliaid bychain, a ffynonellau bwyd a chysgod i bron bob rhywogaeth. Mae pocedi lle mae mieri'n ddwys ac ardaloedd lle mae'n absennol neu nad yw i'w weld yn aml; mae cynnal yr amrywiaeth hwn yn hynod bwysig. Fodd bynnag, gall mieri ddod yn niwsans, er enghraifft drwy ymledu i ardaloedd glaswelltir pwysig. Mewn achosion fel hyn mae'r cyngor yn ceisio'i dorri'n ôl er mwyn caniatáu i amrywiaeth o gynefinoedd fodoli.

Beth galla' i ei wneud i helpu?

Peidiwch â mynd ati i geisio rheoli cynefinoedd yn y Parc Gwledig eich hun. Er eich bod eisiau helpu, gall mynd ati i weithredu heb yr wybodaeth gywir ar brydiau wneud mwy o ddrwg nag o les.

Os oes gennych ddiddordeb ac rydych ar gael i helpu, cysylltwch â Phrosiect Cymunedol Dyffryn Clun (PCDC) sy'n ymgymryd â phob math o weithgareddau rheoli rheoledig yn y Parc. Maen nhw'n gweithio'n agos gyda Chyngor Abertawe i wneud yn siŵr bod y gweithgareddau'n briodol. Mae gan PCDC wefanthudalen Facebook.

Cysylltwch â Phartneriaeth Natur Leol Abertawe a/neu Gydlynydd Gwirfoddolwyr  y Tîm Cadwraeth Natur sy'n hyrwyddo digwyddiadau a gweithgareddau bioamrywiaeth yn sir Abertawe fel digwyddiadau BioBlitz, troeon bywyd gwyllt a phlannu coed.

Close Dewis iaith