Parcio cartrefi modur, faniau gwersylla a charafanau
Mae gan gartrefi modur, faniau gwersylla neu gerbydau tebyg hawl i barcio mewn meysydd parcio cyhyd â'u bod yn prynu tocyn talu ac arddangos dilys neu'n prynu cyfnod aros dilys ar ap MiPermit.
Os yw'ch cerbyd yn defnyddio mwy nag un gilfach, hyd yn oed rhan o'r gilfach gyfagos, mae'n rhaid prynu tocyn ychwanegol.
Mae'r gilfach gyfagos ar bwys eich cerbyd ar gyfer parcio cerbyd ac nid ar gyfer gosod celfi (e.e. byrddau, cadeiriau), cynhwysyddion dŵr ffres neu wastraff, barbeciws etc.
Mae'r un rheolau'n berthnasol i garafanau; caniateir iddynt ddefnyddio'r maes parcio ond mae'n rhaid prynu tocyn talu ac arddangos dilys ar gyfer y garafán.
Sylwer, nid oes unrhyw gyfleusterau e.e. dŵr ffres, dŵr gwastraff, cawodydd, toiledau neu gyflenwadau pŵer ar y safleoedd. Ni ddylech arllwys casetiau toiledau i lawr y draeniau yn y maes parcio oherwydd gall hwn arwain at ddifrod amgylcheddol sylweddol. Os bydd unrhyw achos o faeddu amhriodol yn y maes parcio, bydd y cyngor yn ceisio adennill y costau glanhau.
Caiff Hysbysiad o Dâl Cosb ei gyflwyno os nad ydych chi'n talu am gyfnod aros dilys ar gyfer y gilfach ychwanegol os bydd eich cerbyd yn defnyddio'r gilfach yn llawn neu'n rhannol
Sylwer, mae gan rai meysydd parcio rwystrau uchder; os caiff eich cerbyd ei ddifrodi gan y rhwystr uchder, ni ellir dal Cyngor Abertawe'n atebol. Fodd bynnag, os caiff y rhwystr uchder ei ddifrodi, mae'r cyngor yn cadw'r hawl i hawlio cost y gwaith atgyweirio gan y gyrrwr.
Mae camerâu cylch cyfyng ar waith.
Ni chaniateir gwersylla dros nos mewn unrhyw faes parcio sy'n eiddo i'r cyngor. Cysylltwch â safleoedd gwersylla lleol lle mae cyfleusterau addas ar gael.
Ewch i wefan swyddogol y cyrchfan www.croesobaeabertawe.com i gael rhestr o'r safleoedd gwersylla a syniadau am bethau i'w gweld a'u gwneud pan fyddwch ar wyliau ym Mae Abertawe, y Mwmbwls a Phenrhyn Gŵyr.